Dirwy i gwmni adeiladu am lygru nant yng Nghaerdydd

Nant wedi'i lygru gan waddod a mwd

Bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn llwyddiannus wrth erlyn Edenstone Homes Limited am lygru nant wrth adeiladu cartrefi yn Llys-faen, Caerdydd.

Cafodd y cwmni adeiladu ddirwy o £48,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ar 9 Ionawr am achosi gollyngiad sylweddol o fwd a silt o safle Beaufort Park ar Lisvane Road i un o lednentydd Nant Glandulais.

Wrth i swyddogion CNC ymchwilio i’r digwyddiad ym mis Ebrill 2022, gwelsant fod y llygredd wedi effeithio ar o leiaf 400 metr o hyd y nant, gyda dyddodion trwm o silt i’w gweld yn y dŵr ac ar wely graean y llednant.

Roedd y lefelau uchel o solidau crog yn y nant yn cael effaith negyddol ar ansawdd ac ecoleg y dŵr, gan ladd y rhan fwyaf o’r pryfed yn y rhan yr effeithiwyd arni. Gall llygredd silt hefyd gyfyngu ar silio ac ar gyfraddau deor wyau pysgod, a phan fo’r lefelau’n uchel iawn gall ladd pysgod hefyd.

Meddai Fiona Hourahine, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Mae amddiffyn ein hafonydd rhag llygredd yn un o’n prif flaenoriaethau.
“Roedd Edenstone Homes Limited yn ymwybodol o beryglon llygredd silt ac wedi rhoi mesurau ar waith, er enghraifft ffensys silt a bwnd pridd, i atal dŵr ffo llygredig rhag mynd i mewn i’r cwrs dŵr.
“Er i’n swyddogion ymweld â’r safle a rhoi cyngor ar atal llygredd, esgeuluswyd y gwaith o fonitro a chynnal y mesurau hyn, a arweiniodd at lygru rhan hir o’r nant a lladd pryfed a mathau eraill o fywyd gwyllt yn yr afon.
“Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn ddi-oed yn erbyn cwmnïau y mae eu gweithredoedd yn llygru afonydd Cymru, yn difrodi’r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt yn lleol.”

Ers y digwyddiad llygredd yn 2022, mae’r cwmni wedi bod yn cydymffurfio â cheisiadau CNC i wella mesurau atal llygredd y safle, ac mae mesurau atal llygredd pellach wedi’u gosod sy’n cael eu monitro’n rheolaidd.

Yn ogystal â'r ddirwy, gorchmynnwyd i'r cwmni dalu costau o £6,572.23 i CNC a gordal dioddefwr o £190.

Dylid rhoi gwybod i CNC am achosion o lygredd drwy ffonio’r llinell gymorth 24 awr ar gyfer digwyddiadau ar 03000 65 3000 neu ar y dudalen Rhoi gwybod am ddigwyddiad.