Cwmni yn cael dirwy am ddymchwel adeilad lle roedd ystlumod yn clwydo
Mae cwmni dylunio ac adeiladu adeiladau wedi cael dirwy o £2,605 am ddymchwel adeilad yn Llyswyry, Casnewydd lle roedd yn hysbys fod ystlumod lleiaf gwarchodedig yn clwydo.
Plediodd Mr Christopher Davey, cyfarwyddwr Your Space Projects Limited, yn euog o dorri Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd) yn Llys Ynadon Casnewydd ar 9 Ionawr.
Dangosodd arolygon ecolegol llawn a gwblhawyd gan ecolegydd annibynnol a gyflogwyd gan Mr Davey, fod clwyd ystlumod yn The Ferns, a arferai fod yn glwb cymdeithasol, ar Liswerry Road.
Mae ystlumod lleiaf yn rhywogaeth â blaenoriaeth yn y DU ac Ewrop ac yn cael ei gwarchod gan gyfraith Bywyd Gwyllt y DU ac Ewrop.
Roedd presenoldeb yr ystlumod yn golygu na ellid dymchwel yr adeilad heb Drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop a mesurau lliniaru priodol.
Yn y llys, dadleuodd Mr Davey fod methiant o ran cyfathrebu rhwng y cwmni a'r is-gontractwr wedi arwain at ddymchwel yr adeilad yn rhy gynnar. Yn anffodus, fe wnaeth hyn atal trafodaethau a’r gallu i roi cymorth ecolegol ar waith a fyddai wedi diogelu unrhyw ystlumod a oedd yn dal i fod ar y safle.
Dywedodd y Barnwr Toms fod methiant esgeulus y cwmni wedi arwain at golli clwyd yr oedd yr ystlumod yn ei defnyddio gyda’r dydd, a gorchmynnodd i’r cwmni dalu cyfanswm o £2,605.00 mewn costau a dirwyon.
Dywedodd PC Mark Powell, sydd ar secondiad gyda thîm Rheoleiddio Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n llwyddiannus gyda heddluoedd ledled Cymru a’r Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol i ymchwilio i droseddau, ac i erlyn y rhai sy’n gyfrifol am gyflawni troseddau cefn gwlad a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt.
Bydd yr achos hwn o ddymchwel clwyd ystlumod heb gymorth ecolegol ar y safle, a heb Drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, wedi effeithio ar y rhywogaeth yn yr ardal leol. Mae deddfwriaeth ar waith ac fe'i cynlluniwyd i ddiogelu ein rhywogaethau brodorol gwarchodedig sydd eisoes yn prinhau.
Rhaid sicrhau ein bod yn diogelu ystlumod, a rhywogaethau gwarchodedig eraill, os ydym am i genedlaethau'r dyfodol elwa o'u bodolaeth barhaus. Mae ystlumod yn rhywogaeth ddangosol bwysig iawn sy'n wynebu heriau cynyddol.
Gobeithiwn y bydd yr erlyniad hwn yn atgoffa datblygwyr, ac unrhyw un sy'n gwneud gwaith mewn adeiladau sy'n gartref i ystlumod, bod yn rhaid iddynt ddilyn y canllawiau priodol a sicrhau bod unrhyw waith adeiladu yn cael ei gwblhau'n ofalus yn unol â’r gyfraith.
Erbyn hyn, mae asiantaethau amrywiol yn cydweithredu’n well nag erioed o’r blaen a gyda'n gilydd byddwn yn ymchwilio i droseddwyr ac yn eu herlyn. Hoffwn ddiolch i'r Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol am eu cyngor a'u cefnogaeth o ran ymchwilio, Tîm Rhywogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a hefyd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod sy'n gwneud gwaith rhagorol sy'n helpu i ddiogelu'r rhywogaeth.