Gweithdai cymunedol yn helpu i gadw crefft pentref yn fyw

Mae crefft a sefydlwyd cannoedd o flynyddoedd yn ôl yn cael ei chadw’n fyw yng nghymuned Niwbwrch lle bu unwaith yn ddiwydiant cartref llewyrchus.

Mae moresg, a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i wneud matiau a rhaffau, wedi cael ei gasglu o Warchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a’i roi i grŵp cymunedol Llyn Parc Mawr.

Mae'r grŵp yn gweithio gyda Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Ynys Môn i gynnal gweithdai cyhoeddus i addysgu a chadw technegau gwehyddu gan greu matiau, bowlenni, cynwysyddion, ysgubau a basgedi.

Mae moresg wedi cael ei ddefnyddio fel deunydd naturiol ar gyfer toi a gwelyau anifeiliaid yn y gorffennol, ond nid yw’n hysbys pryd y dechreuwyd ei ddefnyddio yn y lle cyntaf. Ond credir fod pobl yn creu eitemau crefft yn y 1600au o leiaf, pan gyflwynodd y Frenhines Elizabeth I gyfyngiadau ar gasglu moresg i atal tiroedd maenoraidd rhag cael eu gorchuddio â thywod.

Fodd bynnag, parhaodd y diwydiant i chwarae rhan bwysig ym mywyd y pentref, gyda’r gwehyddion yn cynhyrchu gorchuddion ar gyfer teisi gwair, matiau, rhaffau, ysgubau a basgedi at ddefnydd domestig yn ogystal ag ar gyfer y diwydiannau amaethyddol, pysgota a mwyngloddio.

Parhaodd hyn tan ddechrau’r 20fed ganrif wrth i ddiwydiannu a chynhyrchu nwyddau mewn ffatrïoedd ddod yn fwy poblogaidd.

Yn draddodiadol, roedd y moresg yn cael ei gasglu gan ddefnyddio cryman â handlen fach, gyda moresg dwy flwydd oed yn cael ei ystyried yn fwyaf addas ar gyfer gweithgynhyrchu.

Mae’n tyfu ar dywod symudol mewn tuswau trwchus a phigog, ac mae’r gwreiddiau’n helpu i ddal y tywod a chreu’r twyni yn Niwbwrch, gan eu galluogi i ddatblygu a chynnig cartref i rywogaethau eraill megis madfall y tywod ac ystod o bryfed arbennig.

Casglwyd y glaswellt a ddefnyddiwyd yn y gweithdai dan drwydded gan CNC gan ddilyn yr holl fesurau cadwraeth perthnasol.

Dywedodd Graham Williams, aelod o Dîm Rheoli Tir CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:

“Mae casglu moresg ar gyfer y prosiect hwn yn parhau â’r traddodiad hanesyddol o ddefnyddio’r glaswellt ar gyfer gwneud matiau a rhaffau masnachol, rhywbeth a oedd yn rhan annatod o wead y gymuned.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu gweithio gyda’r ddau grŵp hyn ar y prosiect hwn i helpu i warchod y sgil draddodiadol hon sy’n rhan mor bwysig o hanes y pentref.”

Dywedodd Dee Walker, Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Ynys Môn:

“Mae cynnal gweithdai a rhannu’r wybodaeth hon yn ffordd dda o ddod i ddeall a chymryd rhan yn y grefft hon gan hefyd werthfawrogi a chysylltu â hanes lleol Niwbwrch.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig dathlu’r hanes hwn ac i gadw traddodiadau’n fyw, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda CNC i wneud hyn.”

Mae’r prosiect Twyni Byw a ariennir gan yr UE, a reolir gan CNC, hefyd wedi cefnogi ailargraffiad llyfryn dwyieithog, The Marram Weavers of Newborough gan yr awdur Robert Williams, sy’n rhoi manylion a lluniau hanesyddol o’r gwehyddion a’u cynnyrch.

Mae copïau o’r llyfryn ar gael i’w benthyca mewn llyfrgelloedd ar draws Ynys Môn a gallwch gael copi eich hun o swyddfa CNC Maes y Ffynnon ym Mangor.

Bydd cyfranogwyr Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Ynys Môn yn arddangos nifer o eitemau wedi’u creu gan ddefnyddio moresg fel rhan o’r arddangosfa Basgedwaith: Achub, Adfywio, Cadw yng Nghanolfan Grefft Rhuthun rhwng 28 Medi 2024 a 12 Ionawr 2025.