Bygythiad newid hinsawdd a llygredd i blanhigion a ffyngau’r mynyddoedd
Mae diflaniad un o gennau mwyaf anarferol a nodedig y DU o fynyddoedd gogledd Cymru yn rhybudd o effaith newid hinsawdd a llygredd ar blanhigion a ffyngau mynyddig.
Comisiynwyd arolwg gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o'r pedwar mynydd yng Nghymru lle’r oedd yn hysbys fod y cen Thamnolia vermicularis yn bodoli; ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw arwyddion o'r rhywogaeth a daeth yr arolwg i'r casgliad ei bod bellach wedi diflannu yng Nghymru.
Meddai Sam Bosanquet, Cynghorydd Arbenigol: Cynefinoedd a Rhywogaethau Daearol yn CNC:
"Mae'r Thamnolia vermicularis i'w gael mewn ardaloedd mynyddig ledled y byd, ac yn tyfu fel tiwbiau cau sy’n edrych yn debyg i fwydod. Fel pob cen, mae'n ffwng sy'n byw trwy symbiosis gydag alga, gan ganiatáu iddo gytrefu cynefinoedd lle na allai ffwng dyfu ar ei ben ei hun.
“Er i 136 o glystyrau o'r cen gael ei gofnodi ar Gadair Idris rhwng 2000 a 2003, methodd arolwg yn 2019 â dod o hyd i unrhyw enghreifftiau ar y mynydd. Cadarnhaodd arolwg pellach yn 2022 nad oedd unrhyw boblogaeth ar ôl yno nac yn Eryri, ac felly mae’n rhaid i ni ddod i’r casgliad ei fod wedi diflannu o Gymru. .
"Mae diflaniad Thamnolia vermicularis mewn dim ond 20 mlynedd yn peri pryder o ran dyfodol planhigion a ffyngau mynyddig eraill yn Eryri."
Mae Newid yn yr Hinsawdd yn fygythiad sylweddol i lawer o rywogaethau mynyddig. Ond mae cennau a phlanhigion yn wynebu bygythiad ychwanegol oherwydd llygredd nitrogen a gynhyrchir gan amaethu dwys a diwydiant, sy'n cael eu cludo drwy'r atmosffer a'u dyddodi ar ucheldiroedd.
Mae’r nitrogen yn gweithredu fel gwrtaith, gan ganiatáu i rai planhigion dyfu'n gryfach a gorlenwi'r mannau agored lle arferai’r Thamnolia vermicularis dyfu. Mae modelu llygredd yn dangos bod allyriadau amonia o amaethyddiaeth y DU yn cynhyrchu mwy na thraean o'r llygredd nitrogen sy'n effeithio ar Eryri
Dywedodd Sam:
"Nid bygythiad i'r dyfodol yn unig yw difodiant: mae'n digwydd o'n cwmpas ym mhobman.
"Mae'n rhy hwyr i achub Thamnolia vermicularis yng Nghymru, ond gallwn dal weithredu i warchod rhywogaethau mynyddig eraill yn cael eu bygwth gan effeithiau cyfunol llygredd nitrogen adweithiol a newid yn yr hinsawdd.
“Mae partneriaeth Natur am Byth a arweinir gan CNC, yn cynnig cyfle i ni fynd i’r afael â’r sialens. Diolch i chwarewyr y Loter Genedlaethol, dyfarnwyd £4.1m i waith y bartneriaeth.”
Mae un o’r prosiectau - Tlysau Mynydd Eryri, a arweinir gan Plantlife– am geisio diogelu rhai o'n planhigion a'n infertebratau mynyddig mwyaf bregus. Trwy gryfhau poblogaethau, cael gwared ar fygythiadau ychwanegol fel pori amhriodol, ac addysgu pobl am yr organebau pwysig hyn yn ein mynyddoedd, mae’r prosiect yn bwriadu galluogi'r rhywogaethau hyn i allu ymdopi â bygythiad dirfodol newid hinsawdd.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnwys camau i leihau llygredd amonia yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a gallai'r rhain gyfrannu at leihau lefelau llygredd fel ei bod yn osgoi colledion pellach.