Erlyn dyn o Geredigion ar ôl i dros 3,000 tunnell o wastraff gael ei ollwng yn anghyfreithlon ar ei dir

Erlyn gwastraff Ceredigion

Mae dyn o Geredigion wedi cael ei erlyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am ganiatáu i 3,122 tunnell o wastraff gael ei ollwng ar ei dir heb drwydded amgylcheddol.

Gorchmynnwyd i John Bray dalu £8,700 ar ôl iddo bledio’n euog i ganiatáu i wastraff o waith adeiladu a dymchwel, ymhlith mathau eraill o wastraff amgylcheddol sensitif gael ei ollwng ar ei dir ym Mhwll Wemyss ger Trisant. Mae hyn yn drosedd o dan y Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd.

Gorchmynnwyd i Mr Bray dalu dirwy o £7,000, gordal dioddefwyr o £700 a £1,000 tuag at costau CNC o erlyn yr achos.

Ymwelodd CNC ag eiddo Mr Bray am y tro cyntaf ym mis Awst 2021 ar ôl derbyn adroddiadau o weithgarwch anghyfreithlon ar y safle.

Ysgrifennodd swyddogion CNC at Mr Bray ar ôl yr ymweliad yn ei hysbysu bod swyddogion wedi mynychu safle Pwll Wemyss a'u bod wedi gweld gwastraff wedi’i waredu heb ganiatâd. Cafodd wybod bod gollwng gwastraff ar dir heb drwydded amgylcheddol yn drosedd ac y byddai CNC yn cynnal ymchwiliad llawn. Dywedwyd wrtho hefyd na ddylai unrhyw wastraff pellach cael ei ollwng na'i losgi yno.

Er gwaethaf hyn, canfu ymweliad pellach ym mis Tachwedd 2021 fod mwy o wastraff wedi'i adael ar y safle.

Er roedd gan Mr Bray eithriad gwastraff cofrestredig a oedd yn caniatáu iddo ollwng gwastraff addas i'w ddefnyddio mewn gweithgaredd adeiladu, nid oedd unrhyw waith adeiladu'n digwydd. Yn hytrach, roedd Mr Bray yn derbyn deunydd gwastraff gan bobl eraill i'w waredu ar ei dir. Cafodd ei dalu i dderbyn llawer o’r gwastraff hyn.

Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodaeth CNC yng Nghanolbarth Cymru:

"Ni ddylai perchnogion tir dderbyn gwastraff gan eraill heb fod y caniatâd cywir.  Dim ond y gweithgareddau a awdurdodir gan drwydded amgylcheddol berthnasol neu eithriad rhag trwyddedu y gallant ymgymryd â hwy.
"Rydym yn cymryd adroddiadau o ollwng gwastraff yn anghyfreithlon o ddifrif gan ei fod yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac yn tanseilio gweithredwyr cyfreithlon sy'n cadw at y rheolau. Ni fyddwn yn oedi cyn ymchwilio i adroddiadau o reoli gwastraff anghyfreithlon, ac i gymryd camau gorfodi priodol, gan gynnwys erlyniad."

Plediodd Mr Bray yn euog yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 19 Medi, a cafodd ei ddedfrydu yn yr un llys ar 19 Hydref 2023.

I roi gwybod am ddigwyddiad llygredd, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu rhowch wybod amdano ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad (naturalresources.wales).