Dathlu byd natur yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru

Nod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru, a gynhelir rhwng 22 a 28 Ebrill, yw annog ac ysbrydoli addysgwyr, athrawon, grwpiau dysgu, a theuluoedd yng Nghymru i ymgorffori dysgu awyr agored ym mywyd yr ysgol a’r teulu, a mwynhau’r buddion niferus a ddaw yn sgil hynny.

Lansiwyd y digwyddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â Chyngor Cymru ar Ddysgu yn yr Awyr Agored yn 2019.

Mae thema eleni yn amlygu manteision bod yn yr awyr agored ac yn hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol gydol oes i helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.

Gall pobl gymryd rhan yn eu hysgol, trwy fynd am dro yn eu coetir, traeth neu barc lleol a rhannu eu profiad ar-lein trwy #WythnosDysguAwyrAgoredCymru.

Bydd aelodau o Gyngor Cymru ar Ddysgu yn yr Awyr Agored yn arddangos gweithgareddau a syniadau drwy gydol yr wythnos, gyda rhai digwyddiadau a drefnir yn lleol ar gael.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

"Yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru, rydym am annog pobl – yn hen ac ifanc – i gysylltu â byd natur a’r amgylchedd

“Mae thema eleni'n canolbwyntio ar helpu i hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol gydol oes, i helpu pobl ifanc i ddeall effaith eu gweithredoedd o amgylch argyfyngau hinsawdd a natur a sut i wneud y dewisiadau cywir.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod dysgu yn yr amgylchedd naturiol yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth, gan ein helpu i gydnabod yr effaith gadarnhaol y gallwn ei chael ar yr amgylchedd, yn awr ac yn y dyfodol.

“Gwyddwn fod cysylltu â byd natur yn cynnig buddion iechyd a llesiant sylweddol ac mae dysgu yn yr awyr agored yn cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru fel dull allweddol o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru.”

Dywedodd Steph Price, Cadeirydd Cyngor Cymru ar Ddysgu yn yr Awyr Agored:

“Mae Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn gyfle gwych i arddangos yr holl gyfleoedd dysgu awyr agored rhagorol ar gyfer lleoliadau addysgol, yn ogystal ag i deuluoedd a’r cyhoedd yn gyffredinol.

“P'un a ydych am ddysgu rhywbeth newydd, rhoi cynnig ar weithgaredd newydd neu rannu eich cariad at yr awyr agored, rydym yn gobeithio y bydd yr wythnos yn ysbrydoli pobl i gysylltu â natur ac yn helpu i wreiddio dysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer yn yr ysgol a thrwy gydol oes.”

Mae aelodau Cyngor Cymru dros Ddysgu yn yr Awyr Agored ymhlith y bobl sy'n edrych ymlaen yn fawr at wythnos brysur.

Maent yn cynnwys UK Youth for Nature, Gwobr Dug Caeredin, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (BBNP), Cadw, Prifysgol Bangor, Prifysgol Met Caerdydd, Antur Natur, Urdd Gobaith Cymru, Canolfannau Awyr Agored CBS Conwy, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Cyngor Astudiaethau Maes, Panel Ymgynghorol Addysg Awyr Agored (OEAP), Ymddiriedolaeth John Muir, Canolfan Gwlyptiroedd Llanelli, Gwobr Dug Caeredin a Dŵr Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru a Chyngor Cymru ar Ddysgu yn yr Awyr Agored