Gofyn i drigolion Aberteifi am eu barn ar opsiynau i leihau risg llifogydd llanw yn ardal Y Strand
Gofynnir i drigolion Aberteifi ddweud eu dweud ar dri opsiwn i leihau'r risg o lifogydd llanw yn ardal Y Strand yn y dref.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn casglu safbwyntiau fel rhan o Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar opsiynau ynglŷn â lleoliad posib amddiffynfa lifogydd ar lan ogleddol yr Afon Teifi rhwng Maes Parcio Rhes Gloster a Phont Aberteifi.
Gan weithio gyda'i ymgynghorwyr - Binnies UK – mae cynllun CNC yn ceisio lleihau'r risg o lifogydd i oddeutu 90 eiddo gan ystyried effaith disgwyliedig newid hinsawdd.
Mae dyluniadau amlinellol wedi'u rhoi at ei gilydd ar gyfer tri opsiwn. Byddai un opsiwn yn gweld wal llifogydd yn cael ei hadeiladu tua 5m i fewn i’r Afon Teifi; byddai un arall yn gweld wal yn cael ei hadeiladu yn bennaf ar lannau'r afon, a byddai'r opsiwn olaf yn golygu adeiladu wal mewndirol lle mae busnesau ac eiddo yn sefyll ar hyn o bryd. Gallai ateb terfynol gynnwys cyfuniad o elfennau o'r opsiynau arfaethedig.
Mae CNC hefyd am ymgorffori buddion cymunedol a bioamrywiaeth mewn unrhyw gynllun sy'n cael ei adeiladu. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn i drigolion am eu barn ar ba fath o welliannau y gellid eu gwneud yn yr ardal ddatblygu ac o'i chwmpas.
Dywedodd Chris Pratt, Rheolwr Prosiect CNC ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanw Aberteifi:
"Mae llawer o drigolion Aberteifi yn gyfarwydd ag effeithiau llifogydd llanw. Mae'r dref wedi dioddef llifogydd a achoswyd gan y llanw bedair gwaith ers 2007, ac yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid i ni weithredu i leihau'r risg o lifogydd sy'n gwaethygu gan dywydd eithafol amlach.
"Nid yn unig ydyn ni am leihau'r risg i bobl ac eiddo yn y dref, rydym am ddefnyddio'r cynllun yma fel cyfle i wneud Aberteifi yn lle gwell fyth i fyw.
"Mae angen adborth trigolion i'n helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau ymlaen i'n helpu i gyflawni hyn."
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 11 Tachwedd a gellir cael mynediad ato trwy ymweld â https://bit.ly/CynllunLlifogyddLlanwolAberteifi
Cynhelir sesiwn galw heibio cyhoeddus yn Ystafell y Tŵr yng Nghastell Aberteifi ar 23 Tachwedd rhwng 1pm-7pm. Bydd modd i drigolion weld y cynlluniau, eu trafod gyda swyddogion CNC a rhoi eu hadborth yn y sesiwn galw heibio.
Gall trigolion roi eu barn ar bapur drwy ofyn am gopïau caled o'r ymgynghoriad drwy e-bostio cynllunllanwaberteifi@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio 0300 065 3000. Rhaid dychwelyd yr holl adborth erbyn 22 Rhagfyr.