Erlyn dyn o Fryste am achosi difrod i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Saethiad o'r awyr o SSSI

Mae dyn o Fryste wedi cael ei erlyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am achosi difrod i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar Wastadeddau Gwent, ger Magwyr, De Cymru. 

Cafwyd Mr Darren Coles yn euog o dorri Adran 28P (1) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 drwy wneud gwaith adeiladu heb ganiatâd yng nghae Blackwall Lane, Magwyr.

Mae Cae Blackwall o fewn Gwastadeddau Gwent: Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Redwick a Llandyfenni, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ac sy'n adnabyddus am ei ystod amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid dyfrol prin o fewn y cyrsiau dŵr. Mae’n hanfodol rheoli’r cyrsiau dŵr a’r tir o’u cwmpas mewn modd priodol.

Mae hefyd yn gartref i’r Gardwenynen feinlais (Bombus sylvarum), un o'r cacwn prinnaf sydd i’w chael yn unig mewn dyrnaid o leoliadau yn Ne Cymru a De Lloegr.

Ymwelodd swyddogion CNC â'r safle am y tro cyntaf ym mis Mai 2021 ar ôl derbyn adroddiadau fod gwaith yn cael ei wneud yno heb y caniatâd perthnasol.

Ar ôl cyrraedd fe wnaethon nhw ddarganfod bod haen uchaf y pridd wedi cael ei thynnu, bod gwaith cloddio wedi digwydd mewn sawl man, a bod y deunydd a oedd wedi cael ei gloddio wedi cael ei osod wrth ymyl ac o fewn cyrsiau dŵr y SoDdGA. Roedd nifer o strwythurau heb eu hawdurdodi wedi cael eu gosod yno, gan gynnwys carafanau statig, llochesi i anifeiliaid, ffensys, traciau a llawr caled. Roedd sawl cerbyd mawr a pheiriannau hefyd yn cael eu cadw ar y safle.

Dywedodd swyddogion wrth Mr Coles fod y safle yn SoDdGA ac wedi'i warchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a chafodd ei gynghori i roi'r gorau i weithio tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Dywedwyd wrth Mr Coles hefyd y dylai fod wedi gwneud cais i CNC am ganiatâd ar gyfer unrhyw waith, a fyddai yn yr achos hwn wedi cael ei wrthod oherwydd natur sensitif y safle. Roedd caniatâd cynllunio hefyd yn ofynnol ar gyfer llawer o’r gwaith, y byddai’n rhaid i Awdurdod Lleol ei roi.

Meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae gwarchod cynefinoedd pwysig a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw yn un o'r pethau pwysicaf rydyn ni'n ei wneud ac rydyn ni'n cymryd ein rôl fel rheoleiddiwr o ddifrif".
Mae'r gweithgarwch ar y safle hwn wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar nodweddion arbennig y SoDdGA.  Mae hyn oherwydd effeithiau’r llygredd o'r gwaith adeiladu gwreiddiol a'r effeithiau andwyol parhaus ar ansawdd dŵr o fewn y ffosydd yn sgil y gweithgarwch ar y safle.  Hefyd oherwydd dirywiad y glaswelltir cefnen a rhych wedi’i ddraenio sy’n gyfoethog ei rywogaethau, cynefin sy'n mynd yn fwyfwy prin a gwerthfawr ar Wastadeddau Gwent.
Pan fyddwn yn dod o hyd i achosion o ddifrod, fel hyn, ni fyddwn yn oedi cyn gweithredu ac erlyn y rhai sy'n gyfrifol.

Ar ôl pledio’n euog mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Cwmbrân yn mis Gorffennaf yn gynharach eleni, ddydd Gwener (29 Tachwedd) yn Llys Ynadon Casnewydd, cafodd Mr Coles ddirwy o £1900 am bob trosedd a gorchmynnwyd iddo dalu costau CNC o £11,758.26 a gordal dioddefwr o £190, gan ddod â’r cyfanswm i £15, 748.26.

Os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon amgylcheddol, mae’n bosibl rhoi gwybod i Ganolfan Ddigwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 neu ddefnyddio'r ffurflen ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol