Arolwg botanegol yn yr arfaeth ar gyfer Coedwig Niwbwrch
Bydd arolygon botanegol yn cael eu cynnal yng Nghoedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch ar Ynys Môn y gwanwyn hwn.
Mae Niwbwrch yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru sy’n cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt prin fel gwiwerod coch, madfallod dŵr cribog a thafol y traeth.
Bydd prosiect Twyni Byw, sy’n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cynnal arolwg Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol – catalog a disgrifiad cynhwysfawr o’r holl gymunedau o blanhigion a geir yn y goedwig.
Mae Twyni Byw yn brosiect cadwraeth mawr sydd ar hyn o bryd yn adfer mwy na 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru.
Dywedodd Jake Burton, Swyddog Prosiect Twyni Byw ar ran CNC:
“Trwy gydol y gwanwyn, bydd ein tîm o syrfewyr ecolegol ar y safle i gynnal arolwg o lystyfiant y goedwig gyfan, y cyntaf o’i fath ar gyfer Coedwig Niwbwrch.
“Bydd yr arolwg yn sefydlu llinell sylfaen ar gyfer rhywogaethau planhigion a chymunedau pwysig o safbwynt cadwraeth. Bydd hyn yn helpu i wella ein gwybodaeth fel y gallwn barhau i warchod bioamrywiaeth, daeareg a bywyd gwyllt y safle.
“Bydd y canlyniadau hefyd yn cefnogi ein gwaith i reoli’r goedwig yn gynaliadwy, gan sicrhau gwydnwch hirdymor mewn perthynas ag argyfyngau natur a’r hinsawdd.
“Mae ein gwaith monitro wedi’i gynllunio i gael ei wneud mor sensitif â phosib er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar ymwelwyr â’r safle.
“Hoffem ddiolch i aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag aelodau o’r gymuned a rhanddeiliaid i reoli’r safle pwysig hwn sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.”
Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r ddolen @TwyniByw ar Twitter, Instagram, a Facebook neu drwy chwilio am Twyni Byw.