Bydd miri’r hydref yn helpu i blannu mwy o goed yng Nghymru

Mae lleoliadau addysg ar hyd a lled Cymru wedi cael eu gwobrwyo am eu ‘miri’ yr hydref hwn, a fydd yn arwain at dros 115,000 o goed yn cael eu plannu.

Cynhaliwyd ymgyrch flynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Miri Mes, rhwng 13 Medi a 9 Tachwedd, gan osod yr her i ysgolion ar hyd a lled y wlad o gasglu hadau er mwyn tyfu mwy o goed o fes wedi’u casglu yn lleol.

Casglwyd cyfanswm o 384.75kg o fes o 32 lleoliad gan greu dros £1,690 i’r rhai a dorchodd eu llewys, gan fynd allan i’r awyr iach a thyrchu’r ddaear am fes.

Mae cynyddu canopi coed ar draws Cymru yn rhan hanfodol o’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac i helpu i gyrraedd uchelgais carbon sero net y genedl.

Dyfarnwyd Gwobr y Fesen Aur i Ysgol Calon y Dderwen, Powys am yr ail flwyddyn yn olynol am gasglu’r nifer fwyaf o fes.

Byddant yn derbyn gwobr o £150 yn ychwanegol at y £208.34 a ddyfarnwyd iddynt am gasglu bron i 50kg o fes.

Enillydd y Wobr Ddigidol yw Ysgol Gynradd Albany, Caerdydd, a lwyddodd i gipio’u Miri Mes mewn fideo. Maent hefyd yn derbyn gwobr o £150 yn ychwanegol at y £70.84 a ddyfarnwyd iddynt am gasglu 16kg o fes.

Mae’r mes wedi’u hanfon at feithrinfa goed a phan fyddant wedi tyfu’n goed bach cânt eu plannu yn yr ardal y cawsant eu casglu ohoni.

Meddai Aled Hopkin, Cynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgyrch eleni, a llongyfarch enillwyr ein dwy wobr flynyddol. Rydym yn gwerthfawrogi cyfranogiad pob grŵp wrth i ni geisio helpu ein hamgylchedd naturiol.
“Casglwyd mes o amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys caeau ysgol, parciau, ffermydd, tiroedd neuaddau pentref a stadau tai.
“Eleni, fe ddaeth y tymor mes ychydig yn hwyrach ac, ar y cyfan, gwelsom lai o fes yn cael eu casglu. Mae’n bosibl bod coed mewn rhai ardaloedd wedi cael cnwd mawr y llynedd a bydd angen rhai blynyddoedd arnynt i adfer.
“Fe fu’n flwyddyn lwyddiannus o hyd ac rydym wedi helpu i gasglu digon o fes i blannu tua 115,400 o goed – sy’n cyfateb i 245 o gaeau pêl-droed.
“Gyda’r hinsawdd yn newid o hyd, mae coed derw Cymreig yn ymdrechu i oroesi yn erbyn plâu a chlefydau. Bydd gan goed sy’n cael eu tyfu o stoc o hadau lleol gyfradd twf uwch na choed sy’n cael eu tyfu a’u mewnforio o bellach i ffwrdd a hefyd byddant yn gallu gwrthsefyll clefydau yn well.
“Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i wyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i ddatblygu gwytnwch ecosystemau fel y gall natur addasu a pharhau i ddarparu elfennau sylfaenol bywyd – aer glân, dŵr glân, bwyd a hinsawdd sefydlog.”

Gallwch weld fideo Ysgol Gynradd Albany yn Miri Mes 2023 - Albany Can Do It