Dros £35,000 o ddirwy i ddyn o Ynys Môn am gwympo coed yn anghyfreithlon ym Mhrestatyn
Mae dyn o Ynys Môn wedi cael gorchymyn i dalu dros £35,000 am gwympo coed yn anghyfreithlon ar safle coetir ym Mhrestatyn yn dilyn ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ddydd Mawrth 20 Medi, fe blediodd Peter Lee, 47 o Fodedern, Ynys Môn, yn euog yn Llys Ynadon yr Wyddgrug i Adran 17(1) Deddf Coedwigaeth 1967, ‘Cwympo coeden heb awdurdod mewn achos ble bo angen trwydded’. Cafodd Mr Lee ddirwy o £27,679.68 ac fe’i gorfodwyd i dalu costau o £9,127.05.
Ym mis Rhagfyr 2021 ymatebodd Swyddogion CNC i adroddiadau bod coed mewn coetir sy’n cael ei alw’n lleol yn ardal Tanlan, ger Prestatyn, wedi’u cwympo heb drwydded.
Cafodd yr ymchwiliadau fod Mr Lee wedi cwympo 0.5 hectar o goetir llydanddail brodorol sy’n clustogi coetir lled naturiol hynafol – arwynebedd a fyddai’n gorchuddio dros 20 cwrt tennis. Fe gafodd y safle ei lefelu â rwbel a phridd hefyd. Mae’r coetir yn Safle Dynodedig o Ddiddordeb er Cadwraeth Natur gan Gyngor Sir Ddinbych.
Dywedodd Callum Stone, Arweinydd Tîm Rheoliadau Coedwig ac Iechyd Coed CNC:
“Dangosodd Mr Lee ddiystyrwch amlwg o’r gyfraith pan gwympodd goetir lleol poblogaidd.
“Mae colled coetiroedd yn fygythiad sylweddol i gynefinoedd a’r rhywogaethau maen nhw’n eu cynnal. Mae coetiroedd yn storfa bwysig o garbon, ac mae eu gwarchod yn fesur pwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
“Er mwyn cwympo coed, mae’n bosib bod angen trwydded – mae hyn yn sicrhau bod y coed yn cael eu cwympo mewn ffordd gyfrifol ac y caiff ardaloedd eu hailblannu os oes angen.
“Fe hoffem ddiolch i bawb a chwaraeodd ran yn helpu i wneud hwn yn erlyniad llwyddiannus.”
Rhagor o wybodaeth am gael trwyddedau cwympo coed.