Statws 'sefyllfa annormal' ar draethau Ceredigion yn dod i ben ar ôl archwiliad llwyddiannus

Mae'r statws 'sefyllfa annormal' ar draethau Llangrannog a Chilborth yng Ngheredigion wedi cael ei ddileu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl i archwiliad ganfod dim tystiolaeth o lygredd parhaus yn Afon Hawen a'r traethau yr effeithiwyd arnynt.

Mae codi'r statws yn golygu nad yw Cyngor Sir Ceredigion bellach yn cynghori pobl i beidio â nofio ar y traethau hynny.

Mae datgan statws ‘sefyllfa annormal’ yn ddarpariaeth mewn rheoliadau dŵr ymdrochi sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod arwyddion i rybuddio pobl am ddigwyddiad llygredd mewn dŵr ymdrochi dynodedig.

Gall timau CNC barhau i gasglu samplau dŵr ymdrochi arferol, ond nid oes rhaid cyflwyno'r samplau fel rhan o'r dosbarthiad blynyddol. Mae diystyru samplau yn y modd hwn yn golygu bod yr asesiad dosbarthiad yn parhau i fod yn gynrychioliadol o'r amodau arferol y mae ymdrochwyr yn debygol o ddod ar eu traws.

Yn yr achos hwn, nid oedd sampl dŵr wedi’i amserlennu yn ystod y cyfnod ‘sefyllfa annormal’. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw sampl yn cael ei diystyru ar y traethau hyn o dan y rheoliadau dŵr ymdrochi.

Yr wythnos ddiwethaf, ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf, adroddwyd bod dŵr afliwiedig yn llifo o Afon Hawen i Draeth Llangrannog. Yn fuan wedi hynny, adroddodd ffermwr lleol bod gollyngiad wedi digwydd o'i lagŵn slyri yn uwch i fyny yn y dalgylch. Cafodd swyddog amgylchedd ei anfon ar unwaith i ymchwilio i'r sefyllfa.

Ar ôl cyrraedd, canfu'r swyddog fod y ffermwr eisoes wedi cymryd mesurau i atal y llygredd. Mewn ymateb i'r digwyddiad, datganwyd 'sefyllfa annormal' ar gyfer dyfroedd ymdrochi Llangrannog a Chilborth. Arweiniodd hyn at osod arwyddion yn cynghori'r cyhoedd i osgoi nofio oherwydd problemau ansawdd dŵr posibl.

Yn dilyn asesiad o Afon Hawen a'r ddau draeth ddydd Llun (15 Gorffennaf), cadarnhawyd nad oes tystiolaeth o lygredd parhaus. Mae'r arwyddion yn annog pobl i beidio â nofio wedi cael eu tynnu oddi yno.

Dywedodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd Ceredigion,
"Rydym yn falch bod y statws ‘sefyllfa annormal’ wedi'i chodi. Fe wnaethon ni sicrhau bod ffynhonnell y llygredd wedi cael ei stopio'n llwyr, ac nad oedd yr afon a'r traethau yn dangos arwyddion o lygredd. Hoffem ddiolch i'r cyhoedd a'n partneriaid am eu hamynedd gyda'r digwyddiad hwn."
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd:
"Mae tîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn adroddiadau cadarnhaol bod y risg i iechyd y cyhoedd wedi'i datrys yn dilyn y digwyddiad llygredd. Mae'r arwyddion 'sefyllfa annormal' wedi eu tynnu i lawr sy'n golygu y gall y cyhoedd ddefnyddio'r traethau yr effeithiwyd arnynt yn ddiogel."