Cipolwg ar ein heffaith ar y byd naturiol i helpu i lunio dyfodol cynaliadwy
Cofnodwyd llai o fywyd gwyllt a mwy o fygythiadau amgylcheddol yn ystod Haf 2021 ar safleoedd ymwelwyr mwyaf poblogaidd Gogledd Orllewin Cymru, yn ôl astudiaeth ddiweddar.
Edrychodd yr asesiad ar ardaloedd ymwelwyr allweddol, gan gymharu'r cyfnod clo ym mis Mehefin 2020 â'r tymor twristiaeth prysur a ddilynodd ym mis Mehefin 2021.
Er mai dim ond cipolwg ydyw, mae rhai arsylwadau diddorol y gellir eu hystyried i reoli twristiaeth mewn ffordd gynaliadwy fel rhan o adferiad gwyrdd Cymru allan o’r pandemig.
Datgelodd yr arolwg cyfnod clo gwreiddiol, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020 mewn safleoedd allweddol fod rhywfaint o rywogaethau adar a phlanhigion wedi ymateb yn gadarnhaol i lai o aflonyddwch, a bod llawer llai o sbwriel i’w weld. Cafwyd hyd i'r gwrthwyneb yn y safleoedd wrth ail edrych arnyn nhw yn 2021 - cofnodwyd llai o niferoedd ac amrywiaeth o adar, ynghyd â mwy o sbwriel a mwy o erydiad llwybr troed.
Comisiynwyd y naturiaethwr Ben Porter gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal yr arolygon. Ymwelodd â phedwar safle ucheldir Yr Wyddfa, Cadair Idris, Carneddau a Cwm Idwal, ac ardaloedd iseldir Coed y Brenin, Ceunant Llennyrch a Llanddwyn.
Gan ystyried yr arolygon, dywedodd Ben Porter: “Er ein bod yn gwybod bod angen data tymor hwy ar gyfer cymariaethau mwy dibynadwy â chyfnod clo eithriadol 2020, mae arwyddion clir yma am effaith pobl ar y byd naturiol.”
Cofnodwyd llai o rywogaethau adar ar ôl y cyfnod clo o’i gymharu ag yn ystod y clo - cyfanswm o 65 o rywogaethau adar ar draws safleoedd yr ucheldir yn 2020, o'i gymharu â 50 yn 2021.
Yn 2020, roedd llawer o rywogaethau adar, gan gynnwys Corhedydd y Waun, Tinwennod a hyd yn oed Mwyalchod y Mynydd, yn magu yn agos at y llwybrau a oedd fel arfer yn boblogaidd, yn enwedig mewn ardaloedd ucheldirol. Nid yw'n syndod nad oedd hyn yn wir yn 2021, gydag ychydig o adar yn nythu yn agos at lwybrau.
Ar Ynys Llanddwyn, nid oedd unrhyw arwydd o Gwtiad Torchog, a gofnodwyd yn nythu ar y traeth bach ger Twr Mawr yn 2020. Gellid priodoli absenoldeb y rhywogaeth yma, sy'n sensitif iawn i aflonyddwch, i darfu cynyddol gan ymwelwyr yn ystod 2021. Yn yr un modd, dim ond un pâr o Bioden y Môr a welwyd o amgylch Ynys Llanddwyn yn 2021, lle cofnodwyd saith pâr yn bridio yn 2020 - gwahaniaeth arall a allai gael ei briodoli i ddychwelyd i nifer uchel o ymwelwyr yn ystod y tymor magu.
Roedd ffactorau eraill ar waith yn ystod yr arolwg, oedd yn debygol o chwarae rhan fawr yn y gwahaniaethau hyn hefyd, yn enwedig yn yr ucheldir. Roedd cyferbyniad llwyr yn amodau tywydd y ddau dymor, gyda gwanwyn oer iawn yn 2021 yn gohirio tymhorau magu i lawer o adar yr ucheldir, gan arwain at lai o adar magu yn cael eu cofnodi adeg yr arolwg yn 2021.
Serch hynny, mae rôl aflonyddwch cynyddol yn sgîl dychwelyd nifer uchel o ymwelwyr mewn rhai ardaloedd yn ffactor allweddol sydd wedi chwarae rhan yn y gwahaniaethau rhwng 2020 a 2021.
Cyferbyniad digalon a chlir rhwng 2020 a 2021 oedd faint o sbwriel a gwastraff a gofnodwyd. Yn yr ucheldiroedd, cofnodwyd 418 darn o sbwriel yn ystod ymweliadau arolwg 2021, o'i gymharu â 93 eitem yn 2020. Roedd sbwriel ar ei waethaf ar Yr Wyddfa a Chwm Ogwen, gyda Niwbwrch yn dioddef fwyaf ar dir isel.
Gwelwyd gwersylla gwyllt yn ystod yr astudiaeth - problem sylweddol ers yr ailagor, ar ôl y clo, gyda nifer fawr o bobl yn gwersylla'n anghyfreithlon o amgylch safleoedd poblogaidd, gan adael sbwriel, gwastraff a nwyddau ymolchi ar eu hôl.
Roedd llwybrau troed poblogaidd yn dangos arwyddion o ledu ac erydiad wrth i ymwelwyr ddychwelyd. Er enghraifft, mae'r prif lwybr troed sy'n esgyn Y Garn o Twll Du (Cwm Idwal) mewn perygl o ehangu ymhellach ac effeithio ar gymunedau sensitif Helyg Corrach. Yn Ceunant Llennyrch ac ar Lwybr Watkin i’r Wyddfa, mae llwybrau troed yn effeithio ar gymunedau pwysig o redyn a mwsoglau mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd Dafydd Roberts, Uwch Ecolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae’r adroddiad yn codi llawer o gwestiynau ynglŷn â sut rydym yn rheoli’r berthynas rhwng pobl a natur yn y dyfodol wrth i ni geisio sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng galluogi pobl i fwynhau treftadaeth naturiol wych yr ardal hon, heb darfu a diraddio'r amgylchedd rydyn ni i gyd yn ei fwynhau. ”
Dywedodd Molly Lovatt, Uwch Swyddog Cynllunio a Phartneriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru: “Roedd hwn yn gyfle unigryw i edrych ar effaith pobl ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd. Mae’r arolygon yn tanlinellu pwysigrwydd y neges ‘troedio’n ysgafn’ wrth i bobl ymweld â’n cefn gwlad a’n harfordir. Mae angen i ni fod yn sensitif i natur, i adael dim olion o'n hymweliad fel y gall bywyd gwyllt gael cyfle i ffynnu i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.”
Dywedodd Laura Hughes, Rheolwr Profiad Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Mae'n wych bod cymaint ohonom ni'n mwynhau lleoedd awyr agored, ond rydyn ni'n gofyn i bobl drin cefn gwlad yn ofalus pan ddewch chi i'w brofi."
Mae yna gynlluniau i ail-wneud yr arolwg mewn blynyddoedd i ddod.
Mae crynodeb manwl ac adroddiadau unigol fesul safle ar gael ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Eryri - Snowdonia (llyw.cymru)