Hwb o £3.78 miliwn gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur ar gyfer rhywogaethau a warchodir a safleoedd natur ledled Cymru
Mae ystlumod, wystrys a chacwn ymhlith y rhywogaethau prin yng Nghymru a fydd yn elwa ar £3.78 miliwn o gyllid cadwraeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur wedi dyfarnu grantiau i 17 o brosiectau a fydd yn gwella cyflwr a gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig.
Yn amrywio rhwng £87,600 a £249,999, bydd y grantiau hefyd yn galluogi’r prosiectau i gefnogi cymunedau o amgylch y safleoedd gwarchodedig i gymryd rhan mewn cadwraeth natur.
Caiff y Gronfa Rhwydweithiau Natur ei redeg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Bydd y cyllid hwn yn helpu i hwyluso’r ymdrech ‘Tîm Cymru’ sydd ei angen i wella cyflwr a gwydnwch ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn â chreu rhwydweithiau o bobl sy’n ymgysylltu’n weithredol â byd natur.
“Rwy’n falch o weld yr ystod eang o brosiectau daearol, dŵr croyw a morol a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni ein rhaglen Rhwydweithiau Natur i’n helpu i gyrraedd ein targed ‘30 erbyn 30’ a bod yn bositif am fyd natur. Edrychaf ymlaen at fonitro cynnydd y prosiectau hyn a chyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer amrywiaeth o brosiectau mawr maes o law o dan y Gronfa Rhwydweithiau Natur.”
Ymhlith y prosiectau sy’n cael eu hariannu mae:
- Prosiect ‘Gobaith Coetir – ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd Dyffryn Ffestiniog’ yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod Bat yng Ngwynedd sydd yn derbyn £227,603. Bydd y grant yn ariannu arolwg o goetiroedd SoDdGA yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd yn Nyffryn Ffestiniog i fesur amrywiaeth a lefelau gweithgaredd ystlumod yno.
- ‘Adfer Wystrys Gwyllt i Fae Conwy’ – prosiect gan Gymdeithas Sŵolegol Llundain ar arfordir Gogledd Cymru. Nod y prosiect dwy flynedd sydd yn derbyn £249,919 yw adfer cynefin wystrys brodorol Ewropeaidd a’r gymuned fioamrywiol o organebau cysylltiedig er mwyn adeiladu gwytnwch ein moroedd.
- Yn Sîr Gaerfyrddin, mae prosiect ‘Cysylltu Arfordir Sîr Gaerfyrddin’ yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn derbyn £222,272. Mae Sîr Gaerfyrddin yn dirwedd flaenoriaeth ar gyfer cacwn prin a bydd y prosiect yn cynnal arolygon cynhwysfawr i roi darlun cywir o boblogaethau a chynefinoedd ar gyfer rhywogaethau cacwn targed.
- Mae Fferm Trychfilod Dr Beynon Cyf yn Sîr Benfro yn derbyn £211,624 I redeg prosiect ‘Cysylltu Tir Comin a’r Ganolfan Adfer Natur’. Nod y prosiect yw llenwi'r bylchau yn y coridor cynefinoedd ar draws Penrhyn Tyddewi er budd rhywogaethau prin fel yr ystlum pedol;
- Yn Ne-ddwyrain Cymru, mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent Cyf wedi sicrhau £248,834 i redeg ei ‘Cysylltu Natur, Cysylltu Cymunedau’. Bydd yn canolbwyntio ar 11 gwarchodfa natur sy'n cynnal cynefinoedd gan gynnwys coetir hynafol, gweirgloddiau traddodiadol a rhywogaethau eraill.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae ariannu prosiectau treftadaeth naturiol sy’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a chefnogi adferiad byd natur yn flaenoriaeth allweddol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Dim ond un o’r ffyrdd yr ydym yn cyflawni’r amcan hwn yw’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae amrywiaeth drawiadol o brosiectau yn cael eu hariannu sy’n dangos uchelgais y Gronfa yn ogystal â maint yr her sy’n ein hwynebu ni i gyd.
“O fioddiogelwch adar môr; cael gwared ar ffromlys chwarennog a chanclwm Japan; i ailgyflwyno wystrys gwylltion; bydd y grantiau hyn yn helpu i atal rhagor o rywogaethau a chynefinoedd rhag prinhau, gwella’r gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd a dod â buddion iechyd uniongyrchol i’r bobl a’r cymunedau dan sylw.”
Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn falch iawn o weld y prosiectau hyn yn cael eu cefnogi drwy’r gronfa hon a phob un yn gyrru ymlaen â’r camau ymarferol sydd eu hangen i fynd i’r afael a un o heriau mwyaf brys ein hoes.
“Bydd y prosiectau llwyddiannus hyn yn ceisio adennill rhywogaethau a chynefinoedd trwy gydweithio gyda ystod eang o dirfeddianwyr a sefydliadau, gan ddod â buddion i fywyd gwyllt, economïau lleol, addasu i newid hinsawdd a lles y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau cyfagos. Maent i gyd yn enghreifftiau gwych ac amrywiol o’r gwaith adfer cyffrous a’r ymgysylltu cymunedol hollbwysig sydd ei angen i sicrhau newid sylweddol yn adferiad byd natur yng Nghymru ar draws tir, dŵr croyw a môr.
“Bydd pob un ohonynt hefyd yn gwneud cyfraniad allweddol at gyflawni’r uchelgais ehangach i atal y dirywiad yn niferoedd y rhywogaethau erbyn 2030, a’n hymrwymiad i ddiogelu a rheoli 30% o’n tiroedd a’n moroedd yn effeithiol erbyn 2030. Edrychwn ymlaen at weld y prosiectau’n dod. i fywyd dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”