Ydych chi’n gweithio mewn coedwigoedd neu goetiroedd yng Nghymru? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi
Cymerwch ran mewn arolwg o’r diwydiant cyfan a rhowch eich barn ar rôl coed a phren yn economi'r DU
Os ydych chi’n gweithio mewn coetiroedd neu goedwigoedd yng Nghymru neu os ydych chi’n dibynnu arnynt fel rhan o'ch busnes, gallwch chi helpu i wneud cyfraniad hollbwysig i'ch diwydiant drwy gymryd rhan yn yr arolwg cyflym 15 munud hwn, fel bod rôl gynyddol bwysig coed a phren i economi'r DU yn cael ei chydnabod.
Beth yw pwrpas yr arolwg?
Mae Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a Scottish Forestry wedi dod at ei gilydd i gynnal asesiad o gyfraniad economaidd coedwigaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Bydd hyn yn amcangyfrif y gwerth economaidd a gynhyrchir ym mhob elfen o'r sector a phob sefydliad mewn busnesau coedwigaeth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Feithrinfeydd
- Plannu
- Rheoli
- Cadwraeth
- Hamdden
- Cynaeafu
- Prosesu
- Addysg
- Cymuned
- Ymchwil
Bydd y wybodaeth o'r arolwg hefyd yn helpu'r sector i fod yn gadarn ac yn broffesiynol wrth iddo ehangu a datblygu.
Bydd y wybodaeth o'r arolwg hefyd yn helpu'r sector i fod yn gadarn ac yn broffesiynol wrth iddo ehangu a datblygu.
Sut alla i gymryd rhan?
Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy e-arolwg. Cedwir pob ateb yn hollol gyfrinachol ac ni fydd unrhyw wybodaeth am unigolion yn cael ei throsglwyddo i'r comisiynwyr nac i unrhyw drydydd parti.
Bydd staff rheng flaen yn casglu ac yn dadansoddi'r data i ddarparu gwybodaeth ar lefel Prydain Fawr a'r Cenedl-wladwriaethau.
Cymerwch ran yn yr arolwg yma:GB Forestry - Company Survey (surveymonkey.co.uk)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu drwy'r llinell gymorth ganlynol: forestry.surveysupport@frontlinemc.com