Mae gwaith yn parhau i roi hwb i Fynydd Llandysilio

Cwblhawyd rhagor o waith rheoli y flwyddyn ddiwethaf i helpu i adfer Mynydd Llandysilio yn dilyn y tanau gwyllt dinistriol oedd wedi difrodi rhannau helaeth o'r safle gwarchodedig.

Yma mae Jenny Hoyle, Swyddog Amgylchedd CNC, yn dweud ychydig mwy wrthym am bwysigrwydd y gwaith hwn o adfer y cynefin.

--

Mae wedi bod yn bleser pur cael bod allan yn cynnal arolygon monitro ar Fynydd Llandysilio y gwanwyn hwn.

Pan ddaw'r gwanwyn mae’r sŵn a glywir yn y dirwedd fynyddig ryfeddol hon sy'n rhyngwladol bwysig yn cael ei feddiannu gan gân y gylfinir, tinwen y garn, corhedydd y waun, yr ehedydd, a chân ailadroddus herciog mwyalch y mynydd sydd yma ar ymweliad. Os ydych chi'n un o’r bobl hynny sy’n deffro'n blygeiniol ac yn barod i fentro allan i’r rhosydd i weld yr haul yn codi, efallai y byddwch yn ddigon ffodus hyd yn oed i weld dawns baru’r grugiar ddu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ninnau wedi parhau i gynorthwyo’r gwaith o adfer Mynydd Llandysilio yn dilyn y tanau gwyllt dinistriol a gafwyd 2018 a 2021.

Gweithiodd ein swyddogion yn agos â chydweithwyr o Gyngor Sir Ddinbych i reoli tua 30 hectar o Fynydd Llandysilio trwy atal ymlediad rhedyn a lladd grug ac eithin. Buom hefyd yn gweithio’n agos â phorwr lleol i wella mynediad i dda byw mewn ardaloedd lle byddai pori yn fanteisiol, i’r cynefin ac i’r porwr.

Pam y mae hyn yn bwysig?

Mae ‘lladd’ neu dorri eithin yn un ffordd hanfodol o leihau’r deunydd fflamadwy ar y mynydd ac atal rhywogaethau eraill rhag cael eu mygu. Mae hyn hefyd yn helpu i agor a chreu tir pori i ddefaid porwyr lleol. Rydyn ni eisiau cael rhywfaint o eithin ar y mynydd, ond mae angen i ni gadw'r ardaloedd dan reolaeth i sicrhau mai dim ond y swm cywir angenrheidiol sydd gennym.

Wrth inni reoli’r grug rydym hefyd yn anelu at gael brithwaith o wahanol oedrannau trwy dorri ardaloedd bach flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae rhywogaethau adar yr ucheldir yn hoffi cael amrywiaeth o rugoedd o wahanol daldra ar gyfer gwahanol gyfnodau o'u cylch bywyd; gellir defnyddio mannau lle mae’r grug yn fyr ar gyfer arddangosfeydd paru, defnyddir ffiniau lle mae’r grug wedi’i dorri ar gyfer bwydo cywion, ac mae grug talach yn caniatáu i'r iâr a'r cywion ddiflannu os bydd ysglyfaethwyr gerllaw. Mae'r amrywiaeth yn oedran grug hefyd yn cynnal amrywiaeth ehangach o fflora a ffawna gan gynnwys mwsoglau, bryoffytau ac infertebratau.

Mae cadwyn Mynydd Llandysilio, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ehangach y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd, yn ymestyn dros tua 1,000 hectar ac yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys grug. cynefinoedd rhostir, calchfaen a glaswelltiroedd niwtral a rhannau bychain o goetir hynafol. Mae’n cael ei reoli gyda chymorth arian Cronfeydd Bioamrywiaeth ar gyfer Gwydnwch Ecosystemau (BERF) i gynnal a gwella cynefin yr ucheldir a chynyddu nifer ac amrywiaeth yr adar sy’n nythu ar y ddaear ar y safle.

Yn dilyn ein rownd ddiweddaraf o arolygon monitro, mae’r arwyddion cyntaf yn dangos bod nifer y grugieir duon sy'n paru wedi cynyddu ar y safle yn ystod y 12 mis diwethaf. Byddai hyn yn rhoi hwb i’r duedd gan fod poblogaeth a chynefin y rugiar ddu ledled Cymru wedi bod yn gostwng ers peth amser.

Pa waith sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol?

Bydd cyllid BERF yn y dyfodol yn cael ei ddefnyddio i adfer grug mewn rhannau o’r ardaloedd a losgwyd a chynyddu’r arwynebedd sydd ar gael i adar sy’n nythu ar y ddaear, fel y rugiar ddu a’r gylfinir. Bydd y cyllid hefyd yn caniatáu inni barhau i ddefnyddio torri strategol i leihau'r deunydd fflamadwy.

Blaenoriaeth arall fydd diogelu corsydd gwlypach, trylifiadau a darnau bychain o fawn ar y mynydd ar gyfer y cynefin ac adeiladu gwytnwch ar y safle wrth i ni wynebu’r argyfwng hinsawdd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru