Pam na allwch golli Cynhadledd MineXchange eleni os ydych yn gweithio ym maes adfer mwyngloddiau yng Nghymru
![](https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/695363/img_0618master_clo2_usm3000.jpg?anchor=center&mode=crop&quality=80&width=770&height=450&rnd=133057325199000000)
Cynhadledd ddeuddydd yw MineXchange sy’n datblygu cysylltiadau rhwng pobl sy’n gweithio ym maes adfer mwyngloddiau yng Nghymru. Bydd yn cael ei gynnal ar 27 a 28 Chwefror 2023.
Rydym yn awyddus i helpu pobl o’r byd academaidd, o ddiwydiannau ac o’r sector cyhoeddus i lunio cysylltiadau newydd ac i gefnogi arloesedd drwy rannu gwybodaeth a phrofiadau. Bydd y gynhadledd hefyd yn edrych ar gyfleoedd i fasnacheiddio amgylcheddau mwyngloddiau sydd wedi’u difrodi.
Dw i wrth fy modd ein bod yn gallu cyfarfod unwaith eto a bwrw ymlaen â’r datblygiadau ym maes adfer mwyngloddiau yng Nghymru. Y gynhadledd hon – sy’n cael ei threfnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda’r Awdurdod Glo – yw’r lle i ddod i ddysgu am ddatblygiadau mewn adfer mwyngloddiau a’r dulliau a’r dechnoleg diweddaraf.
Bwriadom gynnal y gynhadledd yn mis Medi 2022. Dyma fyddai wedi bod y tro cyntaf i'r gynhadledd gael ei chynnal ers 2019. Tra mai Covid-19 oedd wedi stopio'r gynhadledd fynd yn ei blaen tan 2022, fe ohiriwyd cynhadledd 2022 fel arwydd o barch yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II.
Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau ac astudiaethau achos gan arbenigwyr yn y maes, o ddiwydiannau, y sector cyhoeddus a’r byd academaidd.
Ar yr ail ddiwrnod – nad yw’n orfodol i bobl fynychu – trefnir taith dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo i Frongoch-Wemyss i weld y gwaith adweirio diweddaraf a wneir yn yr ardal. Bydd cludiant yn cael ei drefnu.
Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac yn ofynnol er mwyn mynychu.
Cofrestrwch i fynychu MineXchange 2023.
Gellir archebu llety yn uniongyrchol gyda Phrifysgol Aberystwyth drwy e-bostio https://bookaccommodation.aber.ac.uk/.
Rwy’n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i drefnu siaradwyr o safon mor uchel a fydd yn cyflwyno eu gwaith ar ystod eang o bynciau. Ond peidiwch â chymryd fy ngair i, darllenwch drwy’r agenda isod – ac fe welwn ni chi yn Aberystwyth ym mis Chwefror!
Agenda
Diwrnod 1: |
27 Chwefror 2023 |
---|---|
9.00-9.30
|
Derbyniad a choffi |
9.30-9.35
|
Cyflwyniad agoriadol gan y Cadeirydd (Bob Vaughan) |
09.35-9.55
|
Diweddariad ar y Rhaglen Mwyngloddiau Metel yng Nghymru (Pete Stanley, CNC) |
9.55-10.15 |
Profion olrhain o fewn amgylcheddau mwyngloddiau: Dulliau ansoddol a meintiol a ddefnyddir yng Ngwaith Plwm Parc (Richard Cheal, WSP) |
10.15-10.40 |
Rheoli Dŵr Wyneb Esgair Mwyn (Lewis Wardle/James Cochrane, AECOM)
|
10:40-11:00
|
Ymchwil Dosrannu Ffynonellau Llygredd yn Nant y Mwyn (Aaron Todd, Prifysgol Abertawe) |
11.05-11.35
|
Egwyl Te a Choffi |
11.35- 12.15 |
Prif siaradwr: Canlyniadau sy’n dod i’r amlwg o Brosiect METAL SoLVER - SMARTEXpertise (Yr Athro Devin Sapsford, Prifysgol Caerdydd)
|
12.15-12.35 |
Treialon ar raddfa cynllun peilot i drin dŵr mwyngloddiau gan ddefnyddio Swbstrad Alcalïaidd Gwasgaredig – Canlyniadau maes o Fynydd Parys a Chwm Rheidol (Dr Tobias Röetting, WSP)
|
12:35- 12:55 |
Ased neu risg? Pam y mae angen ffordd integredig o feddwl i gau mwyngloddiau yn gynaliadwy (Steven Pearce : Mine Environmental Management)
|
13.00-14.00
|
Cinio [i’w ddilyn gan Beryglon Pyllau a Thomenni Glo – Cadeirydd y Prynhawn Carl Banton]
|
14.00-14:20 |
Rheoli Digwyddiad Tomen Lo Aberllechau (Darren Bryant, Yr Awdurdod Glo)
|
14.20-14.40 |
Fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer diogelwch tomenni glo yng Nghymru (Lori Frater, Llywodraeth Cymru)
|
14.40-15.00 |
Diogelwch Tomenni Glo – Safbwynt yr Awdurdod Lleol (Roger Waters, Pennaeth Gwasanaeth : Rhondda Cynon Taf)
|
15.00-15.20 |
Technegau Synhwyro o Bell ar Domenni Glo yng Nghymru (Darren Bryant, Yr Awdurdod Glo)
|
15.20-15.40
|
Egwyl Te a Choffi |
15.40-16.00
|
Sut y gall pyllau glo segur Prydain gefnogi dyfodol carbon isel (Gareth Farr, Yr Awdurdod Glo) |
16:00-16:20 |
Ecoleg ac Amrywiaeth Ffyngau’r Tipiau Glo (Emma Williams, Coal Tip Fungi)
|
16:20-16:40 |
Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) – Materion Dŵr a Datblygu Synwyryddion i helpu i leihau effeithiau sy’n llygru. (Dr Katie Beverley a Jill Davies, Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
|
16:40- 17:00 |
Adweithyddion Gwely Gravel: triniaeth dŵr mwynglawdd metelegol cynaliadwy (James Rayner, Geosyntec Consultants Ltd) |
19:30
|
Pryd gyda’r nos |
Diwrnod 2:
|
28 Chwefror 2023 |
09.15 ~13.00 |
Taith maes i Frongoch-Wemyss i weld y gwaith adweirio diweddaraf a wneir yn yr ardal. |