Beth am... roi cynnig ar ecotherapi?
Gyda'r haf yn ei anterth, mae Mariella Scott o'n tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol yn esbonio manteision treulio amser ym myd natur o ran ein hiechyd a'n lles.
Bydd llawer ohonom - yn enwedig y rhai sydd â phlant oed ysgol - yn cymryd gwyliau neu seibiant o gwmpas yr adeg hon o'r flwyddyn a gyda lwc, byddwn yn treulio llai o amser o flaen sgriniau a mwy o amser o dan y coed.
Mae beicio trwy eich parc lleol, diwrnod yn crwydro erwau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu eistedd yn dawel ar fainc yn edrych dros Fae Caerfyrddin yn ein cysylltu â byd natur, sy'n arwain at lu o fanteision iechyd fel:
- gwell gallu i ganolbwyntio
- llai o straen
- gwell hwyliau
- llai o risg o anhwylderau seiciatrig
Ac mae'n gadael i'n hymennydd prysur ymdawelu.
Mae gan bawb brofiadau gwahanol o natur a gwahanol resymau i fod eisiau meithrin mwy o gysylltiad. Mae ymchwil seicolegol yn dal i fireinio ein dealltwriaeth o fanteision posibl byd natur ond, heb os, mae iddo fanteision ar gyfer lles corfforol a seicolegol.
Natur fel therapi
Weithiau byddwn yn clywed yr ymadroddion 'ymarfer corff gwyrdd', 'ymarfer corff glas', 'therapi gwyrdd' neu 'therapi natur' i ddisgrifio gweithgareddau awyr agored i hybu ein hiechyd meddwl.
Mae ecotherapi yn ymadrodd a fathwyd gan Theodore Roszak, sy'n credu y dylem ddefnyddio natur a'r awyr agored i wella iechyd meddwl a lles. Gall fod ar sawl ffurf wahanol, ond mae gan bob gweithgaredd un peth yn gyffredin: treulio amser ym myd natur.
Efallai fod y rhai ohonoch chi'n sy’n ddigon hen i gofio'r clasur o raglen i blant 'Why Don't You?' a oedd yn annog gweithgareddau gwyliau haf llai diflas, yn sylweddoli bod ei neges yn dal i fod yn wir heddiw.
Ynghyd â'r angen i sicrhau bod ein hiechyd meddwl a'n lles yn cael hwb ar ddiwedd y flwyddyn ysgol neu ar ddiwedd wythnos waith, mae'n bwysig neilltuo amser i fynd allan p’un a yw'n heulog ai peidio.
Syniadau ar gyfer chwarae a hwyl i'r teulu ym myd natur
Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau gwyliau'r haf, rydym wedi casglu llawer o syniadau ar eich cyfer ar ein tudalen chwarae a hwyl i'r teulu ym myd natur. O adeiladu lloches i helfeydd sborion arfordirol ac adeiladu tŵr o gerrig mân i gelf naturiol, mae rhywbeth ar gyfer pob oedran.
Felly yn ysbryd ‘Why Don’t You?’ beth am wneud rhywbeth sy'n dda i chi a threulio mwy o amser yn yr awyr agored yr haf hwn?