Rheoli coetir traddoddiadol yng Nghoetir Pen-hw
Gyda mwy na 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, mae pob un ohonom o fewn ychydig filltiroedd o le arbennig lle y gellir darganfod natur.
Mae ein cydweithwyr sy'n gofalu am y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol wedi dod ynghyd i ysgrifennu blog, gyda'r bwriad o roi newyddion diweddaraf a helyntion gwahanol safle ichi bob mis.
Y mis hwn, Duncan Ludlow, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd De Ddwyrain Cymru...
Fel Uwch Reolwr Gwarchodfeydd, mae’n fraint cael rheoli nifer o safleoedd arbennig yng Nghymru. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coetir Pen-hw, ger Casnewydd, yn un o’r safleoedd hyn.
Dyma gynefin sy’n wahanol iawn i dwyni tywod Merthyr Mawr y soniais amdanynt yn fy mlog blaenorol.
Mae tri choetir yn rhan o Goetir Pen-hw - Coed Wen, ‘West Lone’ a’r ‘Knoll’.
Mae’r rhain yn goetiroedd hynafol lled-naturiol, sy’n golygu bod y coed a’r llwyni yn rhai brodorol, yn atgynhyrchu’n naturiol yn hytrach na’u bod yn cael eu plannu. I gael ei gydnabod yn goedwig hynafol, mae’n rhaid iddi fodoli ers 1600OC ond gall fod wedi bodoli ers i goed gyrraedd Ynysoedd Prydain gyntaf ar ôl yr oes iâ ddiwethaf.
Mae cymysgedd o goed ynn, derw, pisgwydd, ceirios a llwyf yn y coetiroedd, gyda choed cyll yn eu hamgylchynu.
Dyma le gwych i ymweld ag ef unrhyw adeg o’r flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r coed ar eu gorau yn y gwanwyn gyda llawr y goedwig yn fôr o flodau gwyllt lliwgar.
Mae’r coetir amrywiol hwn yn ganlyniad i fôn-docio cyson ers amser maith
Mae bôn-docio (neu brysgoedio) yn golygu torri rhannau bach o’r coed (neu coupes fel y’u gelwir) i greu ardaloedd agored a golau o fewn y coetir.
Mae llawer o blanhigion sy’n dibynnu ar olau wedi elwa o’r gwaith cyson hwn ym Mhen-hŵ. Mae’r llaethlys syth (Euphorbia stricta) yn enghraifft nodedig a phrin. Dydy’r rhywogaeth hon ond i’w chanfod yng Ngwent a Swydd Gaerloyw ym Mhrydain Fawr ac yng Nghoed Wen y ceir y boblogaeth fwyaf a gofnodwyd yng Ngwent.
Yn anffodus, mae’r arfer o fôn-docio wedi bod yn dirywio ers yr Ail Ryfel Byd, a gall hyn effeithio ar rywogaethau sy’n brwydro i oroesi o fewn coetiroedd tywyll gyda chanopïau caeëdig.
Pe byddai’r broses yn dod i ben am gyfnod sylweddol yng Nghoed Pen-hw, yna byddai’n colli ei nodweddion traddodiadol a’r planhigion arbennig sy’n tyfu yno.
Un o fy nhasgau ym Mhen-hw yw ail-sefydlu’r arfer traddodiadol yng Nghoed Wen
Mae’r llifio yn digwydd rhwng mis Hydref a mis Mawrth er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt, fel adar a mamaliaid sy’n nythu. Mae’r gwaith yn gallu edrych yn ddinistriol iawn pan welir ef yn gyntaf, ond mae’r coed yn adfer yn gyflym iawn ac yn aml yn cyrraedd dros 6 troedfedd yn y flwyddyn gyntaf o aildyfiant.
Yn hytrach na niweidio’r coed, mae’r dull rheoli hwn yn gallu ymestyn oes y coed, gyda rhai coed ynn yn goroesi am gannoedd o flynyddoedd. Mae hefyd yn caniatáu i goed newydd dyfu o fewn yr ardal a dorrwyd – gan ail-gyflenwi adnoddau’r coetir.
Nid yw’r holl goed mewn coupe yn cael eu torri yn ystod y gwaith. Gadewir rhai i dyfu yn goed aeddfed (fe’u gelwir yn goed hirgyff). Rydym yn gwybod bod y coed derw hirgyff sydd o fewn Coed Wen wedi’u plannu rhwng 1800 a 1850.
Defnyddio’r pren sydd wedi’i docio
Yn y gorffennol, byddai’r pren a gynhyrchwyd yn cael ei ddefnyddio i wneud amryw o gynhyrchion ee ffensio traddodiadol, deunydd toi, ysgubellau, coed tyfu pys, pegiau dillad, pegiau pebyll a nifer o eitemau eraill.
Byddai pob darn o bren a dorrwyd yn cael ei ddefnyddio gyda’r brigau bach yn cael eu clymu ynghyd i wneud ffagodau i’w llosgi.
Heddiw, lle bynnag bo hynny’n bosibl, bydd y pren a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio mewn prosiectau yn y warchodfa.
Mae sglodion coed wedi’u defnyddio ar wyneb llwybrau a pholion wedi’u hollti yn creu grisiau. Rhoddwyd coed hefyd i grefftwyr lleol i wneud llwyau caru neu ar gyfer cynhyrchu golosg.
Rwyf eisoes yn sylwi ar y manteision sy’n codi drwy ail-ddechrau bôn-docio, ond rhaid cofio mai prosiect tymor hir yw hwn.
Bywyd gwyllt a rheolwyr y coed yn y dyfodol a fydd yn elwa fwyaf o gael coetir amrywiol, dulliau rheoli da. Mae’n bosibl i goetir sy’n cael ei brysgoedio fod yn ffynhonnell adnewyddadwy ddi-ddiwedd i bobl ac i fywyd gwyllt cyn belled â’i fod yn cael ei reoli’n briodol gyda golwg ar y dyfodol.
I gloi, ni allaf wneud yn well na dyfynnu’r canlynol -
“Mae coetir wedi’i brysgoedio yn fan prydferth i weithio ynddo; lle mae blodau hardd y gwanwyn i’w gweld, adar i’w clywed yn trydar, a lle ceir cynhesrwydd drwy’r gaeaf, a chynhyrchion y man yn adlewyrchu ei harddwch ymarferol.”
Raymond Tabor, awdur Traditional Woodland Crafts.
Ymweld â Choetir Pen-hw
Gellir ymweld â Choed Wen drwy gydol y flwyddyn. Mae i’r de o bentref Pen-hw a’r A48, gydag ychydig o le parcio oddi ar Ffordd Bowdens. Nid oes mynediad cyhoeddus i West Lone a’r Knoll.
Mae yna llwybr natur drwy Coed Wen. Dylid gwisgo esgidiau cadarn gan fod y llwybrau yn gallu bod yn fudr a llithrig.