Sefyllfa Byd Natur
Mae ein blog diweddaraf gan ein Prif Wyddonydd, Dave Stone, ar ran Grŵp y Prif Wyddonwyr, sef grŵp ar lefel cyfarwyddwyr wedi’i ffurfio o arweinwyr gwyddoniaeth Cyrff Cadwraeth Natur Statudol y DU (Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), NatureScot, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) a’r JNCC). Mae Grŵp y Prif Wyddonwyr yn rhannu arferion gorau, ac yn datblygu a darparu atebion ar gyfer materion cyffredin o ran cadwraeth natur yn y DU a thu hwnt.
Yr wythnos hon, mae'r adroddiad diweddaraf ar Sefyllfa Byd Natur wedi'i gyhoeddi. Mae'r cyhoeddiad blaenllaw hwn yn adrodd ar statws gwahanol elfennau o'r amgylchedd naturiol yn y DU a’i Thiriogaethau Tramor a Thiriogaethau Dibynnol y Goron. Mae gweithwyr proffesiynol o dros 60 o sefydliadau ymchwil a chadwraeth wedi bod yn rhan o’r gwaith i gynhyrchu’r adroddiad. Mae'r penawdau'n tynnu sylw at y ffaith bod bywyd gwyllt yn parhau i brofi dirywiad difrifol: er enghraifft, ym Mhrydain Fawr, ystyrir bod bron i un o bob chwech o'r 10,000 a mwy o rywogaethau a aseswyd dan fygythiad, sy’n golygu eu bod mewn perygl o ddiflannu.
Yn anffodus, nid yw'r neges hon yn un newydd. Dangosodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 ganfyddiadau tebyg. Yn ogystal, mae Dangosyddion Bioamrywiaeth y DU, a gyhoeddir ar wefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) yn flynyddol, yn ffurfio darlun cymysg o ran sefyllfa gwahanol elfennau o'r amgylchedd naturiol.
Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod camau i atal a gwrthdroi'r dirywiad hwn – drwy warchod ac adfer byd natur – yn gallu gweithio. Mae enghreifftiau ac astudiaethau achos yn cael eu cyflwyno drwy’r adroddiad. Mae rhai enghreifftiau o'n gwaith ar draws y cyrff cadwraeth natur statudol isod.
Yn yr Alban, mae NatureScot yn bartner yn y Tweed Forum arobryn, sydd wedi arwain ar waith i adfer Afon Eddleston, un o lednentydd Afon Tweed, am 15 mlynedd. Mae'r gwaith adfer hwn wedi darparu amddiffyniad naturiol rhag llifogydd i gymunedau lleol ac wedi cefnogi gwaith i wella'r amgylchedd naturiol yn nalgylch yr afon a'r cyffiniau. Mae hyn wedi digwydd drwy gamau i adfer rhai o nodweddion naturiol dalgylch Eddleston, fel creu pyllau i storio dŵr llifogydd, plannu coed ac ail-greu dolenni mewn rhannau penodol o’r afon, gan wella amodau ar gyfer bywyd gwyllt a physgodfeydd. Ym mis Chwefror 2023, dewiswyd y prosiect fel Safle Arddangos Ecohydroleg UNESCO, yr unig un yn y DU.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Prosiect Adfer Cors Llwyfandir Garron a lansiwyd yn 2013 yn bartneriaeth rhwng yr RSPB, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon a Northern Ireland Water i adfer Ardal Cadwraeth Arbennig Llwyfandir Garron, yr ehangder mwyaf o orgors gyfan yng Ngogledd Iwerddon. Cwblhawyd gwaith i adfer yr amodau hydrolegol yn ystod cam 2, fel rhan o brosiect Interreg VA ‘Cydweithredu ar draws Ffiniau dros Fioamrywiaeth.’ Ynghyd â rheoli lefelau pori, mae hyn wedi gwella cyflwr y gors, y bioamrywiaeth y mae’n ei chynnal, ac ansawdd a dibynadwyedd y dŵr a dderbynnir yng ngwaith trin dŵr Northern Ireland Water yn Dungonnell. Mae hefyd yn cefnogi lliniaru ac addasu i’r newid hinsawdd, trwy leihau allyriadau carbon a rheoleiddio llif dŵr yn y dalgylch, gan amlygu’r gwasanaethau ecosystem lluosog a’r buddion a sicrhawyd trwy adfer natur.
Yn Lloegr, lansiodd Natural England gynllun Grant Cyfalaf y Rhaglen Adfer Rhywogaethau yn gynharach eleni (Ebrill 2023), ac yn gynharach y mis hwn (14 Medi 2023) cyhoeddwyd y 63 prosiect a oedd wedi derbyn grant ac sy'n anelu at helpu i adfer 150 o rywogaethau. Mae'r cynllun hwn yn rhan o Raglen Adfer Rhywogaethau flaenllaw Natural England sydd wedi bod yn rhedeg ers dros 30 mlynedd, gan ganolbwyntio ar gamau cadwraeth pwrpasol i wrthdroi ffawd ein rhywogaethau brodorol sydd dan fygythiad. Ymhlith llwyddiannau blaenorol y rhaglen mae cynnydd ym mhoblogaeth aderyn y bwn a arferai fod mewn perygl, adfer corryn rafft y ffen, ac ailgyflwyno llygod pengrwn y dŵr yn llwyddiannus i ardaloedd lle roeddent wedi eu colli o'r blaen.
Yng Nghymru, mae pum prosiect LIFE yr UE dan arweiniad CNC – LIFE Afon Dyfrdwy, Twyni Byw, Prosiect Pedair Afon LIFE, Corsydd Crynedig LIFE ac Adfywio Cyforgorsydd Cymru - gyda'i gilydd yn dod i gyfanswm o dros £27 miliwn yr ydym yn ei wario ar waith cadwraeth uniongyrchol a chodi ymwybyddiaeth o'r cynefinoedd hanfodol hyn. Mae rhaglenni natur mawr eraill fel Natur am Byth a rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru yn adfer ac yn gwella cynefinoedd ar gyfer ein rhywogaethau brodorol ac yn gweithio i gynyddu poblogaeth rhai o'n rhywogaethau sydd fwyaf dan fygythiad, gan gynnwys y gylfinir, yr eog a brithyll y môr, y wystrysen frodorol, britheg y gors, y fritheg frown a’r cordegeirian.
Mae JNCC wedi gweithio gyda Thiriogaethau Tramor y DU ers dros 20 mlynedd. Yn Ynysoedd Turks a Caicos (YTC), mae arbenigwyr JNCC wedi cynorthwyo Adran yr Amgylchedd ac Adnoddau Arfordirol (DECR) Llywodraeth YTC yn ddiweddar i ddeall gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan adnoddau naturiol YTC a sut y gall y wybodaeth hon helpu i lywio penderfyniadau a dulliau rheoli. Yn 2018, amcangyfrifwyd bod y gwasanaethau hyn werth dros $100 miliwn y flwyddyn, gyda gwaith yn mynd rhagddo i wella'r data a'r wybodaeth a ddefnyddir i wneud gwerthusiadau rheolaidd, ac i bennu effeithiau pwysau penodol neu newidiadau rheoli. Gan adeiladu ar hyn, mae JNCC yn gweithio gyda DECR i ddatblygu Strategaeth yr Amgylchedd newydd, a fydd yn caniatáu dull cydlynol o reoli’r amgylchedd sy'n cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol ac yn llywio camau gweithredu ystyrlon.
Gwarchod ac adfer natur yw'r hyn a wnawn yn ddyddiol i wella cyflwr yr amgylchedd naturiol. A dylai’r enghreifftiau a'r ymrwymiadau cyflawni hyn beri i ni fod yn optimistaidd; maent yn dangos y gallwn adfer byd natur pan fyddwn yn gwneud lle ar ei gyfer. O'u gweithredu'n dda, mae gan gamau cadwraeth natur botensial gwirioneddol i sicrhau adferiad parhaus ym myd natur yn y DU a thu hwnt. Rydym yn gwybod bod camau gweithredu'n gweithio, ond rydym hefyd yn cydnabod bod angen mwy o gamau gweithredu gwell a chydgysylltiedig a hynny ar frys.
Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi Datganiad ar y Cyd – Adferiad Natur ar gyfer Ein Goroesiad, ein Ffyniant a’n Lles – gan nodi'r angen am weithredu i adfer natur yn y DU ac yn fyd-eang. Roedd yr adroddiad hwn yn adeiladu ar Natur Bositif 2030, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021, a oedd yn nodi camau â blaenoriaeth i wrthdroi dirywiad byd natur erbyn 2030.
Amlygodd yr adroddiadau ar y cyd sawl pwynt allweddol:
- Gwerth byd natur ar gyfer ein goroesiad, ein ffyniant a’n lles – mae colli byd natur yn niweidio iechyd pobl ac yn tanseilio ein diogelwch economaidd.
- Mae angen i ni gryfhau byd natur a lleihau carbon i fynd i'r afael â’r golled o ran bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd gyda'n gilydd.
- Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd - mae dirywiad byd natur yn effeithio ar bob un ohonom. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn fod mewn gwell sefyllfa i helpu byd natur i adfer.
- Nid yw'n rhy hwyr, ar yr amod ein bod yn gweithredu nawr - mae amser yn brin, ac mae'r hyn a fydd yn digwydd yn ystod y blynyddoedd nesaf yn dyngedfennol, ond mae adfer byd natur yn dal o fewn ein gafael.
Mae Sefyllfa Byd Natur 2023 yn adlewyrchu'r pwyntiau hyn ac yn dangos sut mae'r sector cadwraeth natur yn gweithio'n galed gyda'i gilydd i helpu byd natur i adfer ac i gynhyrchu a gwerthuso data i lunio asesiadau o statws byd natur. Mae'r adroddiad yn defnyddio peth o'r dystiolaeth ddiweddaraf a gorau sydd ar gael o gynlluniau monitro a chanolfannau cofnodi biolegol, sydd ar gael trwy ymdrechion cyfunol amrywiaeth eang o sefydliadau a miloedd o bobl y mae llawer ohonynt yn wirfoddolwyr medrus. Mae'r dystiolaeth hon yn ein galluogi i ddeall effeithiau pwysau ar yr amgylchedd naturiol ac, yr un mor bwysig, sut y gall ymdrechion i fynd i'r afael â'r pwysau hyn drwy warchod ac adfer byd natur fod yn effeithiol er mwyn gwrthdroi dirywiad.
Fel y dywed yr adroddiad pwysig hwn: "Dydyn ni erioed wedi cael gwell dealltwriaeth o Sefyllfa Byd Natur yn y DU a'r hyn sydd ei angen i'w thrwsio." Rydyn ni yn y cyrff cadwraeth natur statudol yn adleisio'r teimladau hyn - mae dirywiad byd natur yn achosi niwed difrifol i bobl a'r blaned. Nid yw'n rhy hwyr i newid trywydd, ond mae angen i ni weithredu gyda'n gilydd dros fyd natur, ac mae angen i ni weithredu nawr.