Cefnogi Partneriaeth Coedwig Wrecsam ac Wythnos Cysylltiadau Coetir

Yn ôl ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddwyd diweddariad gennym am ein cefnogaeth i Fenter Coed a Choetir newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'i chyfraniad hanfodol i argyfwng yr hinsawdd.

Yma mae Iona Hughes, Uwch Swyddog Pobl a Lleoedd CNC ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru, yn dweud mwy wrthym am sut rydym yn helpu i gefnogi Partneriaeth Coedwig Wrecsam a'r Wythnos Cysylltiadau Coetir a gynhelir ganddynt yn fuan.

--

Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir  eleni (15 — 21 Mehefin) yn prysur agosáu a dyma fydd yr ail waith yn unig i’r dathliad wythnos o hyd ddigwydd. 

Y thema ar gyfer eleni fydd 'Ceisio Lloches' a bydd yr wythnos, a drefnir gan Bartneriaeth Coedwig Wrecsam, yn arddangos sawl coeden hynafol, hynod a nodedig o amgylch Wrecsam sy'n cynnig lloches i bobl a bywyd gwyllt ar ffurf cysgod, bwyd a chynefin a gall pobl gyflwyno eu 'coed lloches' eu hunain.

Fe wnaeth yr unig Wythnos Cysylltiadau Coetir flaenorol, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2023, aros yn driw i'r thema 'Mae Coed o Bwys’. Roedd hyn yn cynnwys digwyddiad lansio Parti Coed a gynhaliwyd ym Mharc Acton — lle ceir un o hoff goed trigolion yr ardal, y gastanwydden bêr (coeden hynafol bron i 500 oed) a enillodd gystadleuaeth Coeden y Flwyddyn y DU 2023, a hon oedd y goeden fuddugol gyntaf erioed o Gymru.

Beth allwn ni edrych ymlaen ato yn Wythnos Cysylltiadau Coetir eleni?

Mae'r dathliad eleni yn cynnwys:

15 Mehefin

11 — 1pm Llwybr Coed Canol y Ddinas — Taith dywys o amgylch coed canol y ddinas i ddysgu am sut y byddant yn chwarae rhan bwysig wrth gadw canol y ddinas yn oer wrth inni wynebu hinsawdd sy'n newid

8.30pm tan hwyr — Darganfod Ystlumod a Gwyfynod gyda Thân Gwersyll yng Nghoedwig Llwyneinion - Mwynhewch noson o goginio ar dân gwersyll a dysgu am y creaduriaid nosol sy'n byw yn y coetir.

17 Mehefin

10am - 12pm / 1pm - 4pm — Coginio ar Dân Gwersyll ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun. Ymunwch â Woodland Classroom am ddiwrnod o goginio ar dân gwersyll i ddysgu sut mae coed a choetiroedd yn ffynhonnell fwyd werthfawr i bobl a bywyd gwyllt.

18 Mehefin

2 — 4pm Sgwrs am Goed Hynafol yn Nhŷ Pawb - bydd Brian Palmer o Coed Cadw yn rhoi sgwrs am bwysigrwydd Coed Hynafol a pham eu bod yn lloches i'w diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

20 Mehefin

7.30 — 10am Shinrin-yoku Ganol Haf - Dathlwch ddiwrnod hiraf y flwyddyn wrth grwydro trwy Goed Plas Power. Bydd ymarferion myfyrio yn cael eu cyflwyno gan Woodland Classroom gan ddefnyddio haul y bore a mannau naturiol i ddod o hyd i heddwch a sylfaen ar gyfer gwell iechyd a lles.

I archebu lle ar unrhyw un o'r digwyddiadau hyn cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk

Beth yw Partneriaeth Coedwig Wrecsam?

Yn 2021, sefydlwyd Partneriaeth Coedwig Wrecsam, gyda chefnogaeth Cronfa Coed Brys Coed Cadw, a ddyfarnwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW).

Mae Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn cynnwys sefydliadau sy'n gweithio yn Wrecsam fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Cadwch Gymru'n Daclus, Llais y Goedwig, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Cymdeithas y Mudiadau Gwirfoddol yn Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr.

Mae'r partneriaid yn cwrdd yn rheolaidd i rannu gwybodaeth ac arferion gorau a chefnogi Strategaeth Coed a Choetiroedd ac Addewid Coetir CBSW.

Fel rhan o'u Strategaeth Coed a Choetir, mae Cyngor Wrecsam wedi datblygu'r Addewid Coed a Choetiroedd i ddiogelu coed a choetiroedd ar draws y sir ac i annog pobl i fwynhau a gwerthfawrogi coed a choetiroedd yn eu hardal leol a chofrestru ar gyfer yr Addewid.  

Gall unrhyw un, p’un a ydynt yn unigolion neu'n cynrychioli busnesau, grwpiau cymunedol neu sefydliadau, gofrestru i'r addewid a chael diweddariadau ar sut y gallant gymryd rhan, o blannu coed i gysylltu â choed a'r awyr agored er lles, addysg neu hwyl.

Sut mae hyn yn helpu nodau ehangach CNC i ddiogelu ein hamgylchedd a'i helpu i ffynnu?

Mae strategaeth, addewid a gwaith y bartneriaeth yn cyd-fynd â holl themâu Datganiad Ardal Gogledd Ddwyrain Cymru, yn enwedig cynyddu gorchudd coetir a datblygu a gwella seilwaith gwyrdd.

Mae hefyd yn cadw at egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, megis cydweithio ac ymgysylltu a manteision lluosog, tra'n dilyn y Ffyrdd o Weithio a nodir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, megis cydweithio ac integreiddio.

Yn ogystal â hyn, mae strategaeth y bartneriaeth yn cyfrannu at y nodau llesiant, yn enwedig o ran creu Cymru iachach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy’n fwy gwydn, ac sy’n deg ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru