Storm Dennis - un o'r stormydd mwyaf dinistriol sydd wedi bwrw Cymru mewn hanes diweddar
Mae Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, yn myfyrio ar un o'r stormydd mwyaf dinistriol sydd wedi bwrw Cymru mewn hanes diweddar.
Mae effaith dau benwythnos o stormydd – Ciara a Dennis – ar bobl ac eiddo wedi’i theimlo ledled Cymru, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i bawb y mae’r stormydd wedi effeithio arnynt.
Ond dim ond wythnos ar ôl i lifogydd Storm Ciara fwrw cymunedau ledled Cymru, gwelom lawiad a lefelau afonydd eithriadol yn ystod Storm Dennis dros benwythnos 15 a 16 Chwefror, yn enwedig ar draws de Cymru.
Mae nifer o afonydd wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed, mae eiddo wedi dioddef llifogydd, ac mewn rhai cymunedau roedd yn rhaid i bobl adael eu cartrefi. Mae'r effeithiau wedi bod yn sylweddol ar bobl, eiddo, busnesau a bywoliaethau. Dyma'r llifogydd mwyaf ers blynyddoedd yn yr ardaloedd hyn, a bydd cymunedau yn cael eu heffeithio am fisoedd i ddod.
Mae'r holl awdurdodau wedi bod yn hynod o brysur yn ystod y cyfnod hwn, a dyma oedd un o'n penwythnosau mwyaf prysur erioed yma yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Pan oedd Storm Dennis (dydd Sadwrn 15 Chwefror a dydd Sul 16 Chwefror) ar ei gwaethaf, roedd 61 o hysbysiadau llifogydd, 89 o rybuddion llifogydd, a dau rybudd llifogydd difrifol. Dyna'r rhybuddion mwyaf rydym erioed wedi eu cael ar unrhyw un adeg yng Nghymru.
Roedd effeithiau sylweddol ar draws de Cymru yn enwedig Roedd cymunedau yn Rhondda Cynon Taf ymysg yr ardaeloedd yr effeithiwyd arnynt gan y storm fwyaf ac amcangyfrir bod rhai cannoedd o gartrefi a busnesau wedi'u boddi – 800 yn ôl amcangyfrifon presennol, ond mae’r nifer hwn yn debygol o godi. Effeithiwyd ar nifer o leoedd eraill hefyd, ar draws Cymoedd De Cymru ac ar hyd Dyffryn Wysg a Dyffryn Gwy hefyd. Ond effeithiwyd ar Gymru gyfan. A hyn oll ar gefn Storm Ciara y penwythnos blaenorol. Roedd effeithiau Ciara i'w gweld yn fwy yng ngogledd Cymru, gyda chymunedau fel Llanrwst, Llanfair Talhaearn a Llanelwy wedi'u heffeithio. Ond gadawodd y tir yn ddirlawn a'r afonydd yn rhedeg yn uchel ar draws Cymru, felly pan ddilynodd Storm Dennis, gwnaeth afonydd godi'n gyflym.
Mae data glawiad dros dro yn ystod Storm Dennis yn dangos glawiad eithriadol dros Fannau Brycheiniog a Chymoedd De Cymru. Derbyniodd ddalgylchoedd afon Taf ac afon Rhondda fwy nag 160 mm o law mewn rhai mannau, sy'n fwy na gwerth mis o lawiad mewn un diwrnod.
Mae data dros dro hefyd yn dangos y cyrhaeddodd afon Taf ym Mhontypridd ei lefel uchaf ar fore Sul (16 Chwefror) mewn dros 40 o flynyddoedd – 80 cm yn uwch na'r lefel yn ystod llifogydd 1979.
Pan oedd y llifogydd ar eu gwaethaf ym Mhontypridd, rydym yn amcangyfrif bod 900 o dunelli o ddŵr yn llifo bob eiliad i lawr afon Taf. Byddai hyn yn llenwi pwll nofio maint Olympaidd mewn tair eiliad yn unig. Mae ochrau serth y cymoedd a thir dirlawn yn y cymoedd yn golygu bod afonydd fel afon Taf yn codi'n gyflym iawn, ac yn disgyn yn gyflym hefyd. Gwelom hyn yn union dros y penwythnos. Roedd afonydd eraill yn rhedeg ar lefelau uchel iawn, a chyrraeddodd afon Wysg ei lefel uchaf ers 1979 hefyd.
Achosodd llifogydd 1979 ddinistr helaeth i gymunedau yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf gyda nifer sylweddol o adeiladau’n dioddef llifogydd. Tra oedd y llifogydd y penwythnos hwn yn ddinistriol ar gyfer y rheini yr effeithiwyd arnynt, rydym yn amcangyfrif bod 9,000 o adeiladau yn yr ardaloedd hyn sydd wedi dianc rhag y lifogydd oherwydd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd a adeiladwyd ers llifogydd 1979. Yn 1979, nid oedd unrhyw wasanaeth rhagweld na rhybuddio. Yn ystod Storm Dennis, cyhoeddom 76,000 o negeseuon ffôn, 17,000 o negeseuon testun ac 19,000 o e-byst yn rhybuddio am y lefelau dŵr uchel a pherygl llifogydd. Gweithiom yn agos gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau argyfwng cyn ac yn ystod y digwyddiadau, gan rannu gwybodaeth am yr hyn oedd yn debygol o ddigwydd. Gweithiodd ein staff bob awr o'r dydd er mwyn dosbarthu negeseuon a gweithion hefyd mewn cymunedau i wirio ein gamddiffynfeydd ac i ymateb ar lawr gwlad.
Tra bo'r llifogydd yn ofnadwy ar gyfer y rheini yr effeithiwyd arnynt, mae ein hamddiffynfeydd yn helpu 73,000 o adeiladau ledled Cymru – tai a fyddai'n dioddef llifogydd pe na byddai'n hamddiffynfeydd yno. Rydym yn gwybod y gwnaeth ein hamddiffynfeydd atal llifogydd mewn nifer o leoedd, fel Brynbuga a Phontarddulais, y tro hwn – ynghyd â'r amddiffynfeydd ar draws sawl rhan o'r Cymoedd hefyd.
Aeth y glawiad dros Fynyddoedd Cambria i mewn i afon Gwy ac afonydd eraill hefyd. Cyrraeddodd afon Gwy yn Redbrook (ychydig i lawr yr afon o Drefynwy) ei lefelau uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1969. Roedd lefelau afon Gwy yn Nhrefynwy 70 cm yn uwch na lefelau uchel a gofnodwyd yn flaenorol, ac ond ychydig o gentimetrau yn is na man uchaf amddiffynfeydd y dref. Er yr arhosodd y dref yn ddiogel, effiethiwyd ar ychydig o adeiladau arunig a chafodd lifogydd gwael mewn parc gwyliau, ond gadawodd y preswylwyr mewn pryd. Cyhoeddom ddau rybudd difrifol ar nos Lun (17 Chwefror), a chaewyd y brif bont ar draws afon Gwy.
Mae lefelau afonydd bellach wedi cwympo mewn nifer o leoedd. Mae ein timau yn parhau i fonitro lefelau afonydd a chefnogi awdurdodau lleol a gwasanaethau argyfwng mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Nid yw'n gwaith yn stopio wedi i'r glaw fynd – yn bell ohoni. Mae gennym dimau allan yn gwirio amddiffynfeydd am ddifrod, yn clirio malurion, ac yn casglu data i'n helpu i ddeall yn gwmws yr hyn a wnaeth ddioddef llifogydd a pham. Yn aml, nid yw hyn yn syml: gall y llifogydd ddod o gyrsiau dŵr llai ac is-afonydd hefyd, yn ogystal â dŵr wyneb.
Yn dilyn stormydd a llifogydd mor wael â hyn, rydym yn cynnal adolygiadau o berfformiad ein systemau, amddiffynfeydd a gwaith modelu. Rydym wedi dysgu llawer yn sgil adolygiadau blaenorol, sydd wedi arwain at welliannau yn ein gallu i amddiffyn rhag llifogydd a rhybuddio amdanynt.
Ein blaenoriaeth gyntaf yw gwirio ein hamddiffynfeydd ar gyfer niwed, clirio asedau o falurion, a pharhau i fonitro lefelau afonydd. Mae ein staff wrthi allan yn gweithio ar hyn. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, sy'n arwain ar yr ymdrech adfer mewn cymunedau yr effeithiwyd arnynt.
Nid ydym yn gallu priodoli pob storm i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ond mae tystiolaeth yn awgrymu yn anffodus ein bod yn debygol o weld mwy o'r digwyddiadau tywydd eithafol hyn.
Nid oes un ateb unigryw i lifogydd fel hyn. Mae gan amddiffynfeydd eu lle ond ni allant rhwystro llifogydd rhag digwydd bob tro, a gallant achosi i'r broblem symud i lawr yr afon i'r gymuned nesaf. Mae angen i ni feddwl am y defnydd o dir, a lle rydym yn adeiladu tai. Cwestiynau mawr i’r gymdeithas yw’r rhain. Sut rydym yn dysgu byw gydag amodau sy'n newid ac addasu iddynt? Gall storio dŵr helpu, ond pan gaiff cyfeintiau anferth fel y rheini dros y penwythnos, byddai angen i'r ardaloedd fod yn enfawr a ble byddem yn dod o hyd iddynt? Gall arafu'r dŵr a phlannu coed helpu ychydig, ond, eto, gyda llifoedd mor fawr pan fo dalgylchoedd eisoes yn ddirlawn, mae gan fesurau fel hyn effaith gyfyngedig. Mae'n heriol. Mae rhai yn dadl dros adeiladu tai sy'n fwy gwydn i lifogydd, fel bod modd eu glanhau a a symud yn ol iddynt yn gynt. Mae'n rhaid i’r rhain i gyd fod yn rhan o'r ateb – nid oes un ateb i bopeth.
Felly, rydym yn annog i bawb fod yn barod ar gyfer yr hyn a allai ddigwydd. Mae'r digwyddiadau hyn yn dangos, hyd yn oed os nad yw llifogydd wedi digwydd yn ddiweddar neu efallai mewn cof byw, nid yw'n golygu na allent ddigwydd. Gwiriwch a ydych yn byw mewn ardal perygl llifogydd, cofrestrwch am ein rhybuddion llifogydd am ddim, dechreuwch baratoi cyn i lifogydd ddigwydd drwy greu cynllun llifogydd, a pharatowch becyn llifogydd o eitemau hanfodol a chadwch ef gerllaw.
Ceir rhagor o wybodaeth ar yr hyn i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd ar ein gwefan.
Gwybodaeth defnyddiol arall: