SoNaRR 2025 – y dystiolaeth sy’n llywio sut y dylem ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol

Mae adnoddau naturiol Cymru yn rhan o'r we gymhleth o fywyd sy'n ein cysylltu ni i gyd. Maen nhw'n cefnogi pob agwedd ar ein bywydau modern – ein hiechyd a'n lles, y bwyd rydyn ni'n ei fwyta, yr aer a'r dŵr glân rydyn ni'n dibynnu arno, a ffyniant cyffredinol ein cenedl.

Mae'r adnoddau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru a chefnogi'r diwydiannau sy'n ffurfio asgwrn cefn ein heconomi.

Ar ben hynny, maen nhw’n creu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol, yn meithrin twf economaidd, ac yn cyfrannu at greu cyfoeth - sydd i gyd yn gwella ansawdd bywyd a lles unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Ond gwyddom fod y ffibrau sy'n dal y we gymhleth hon at ei gilydd yn gwanhau. Mae'r pwysau ar ein hadnoddau naturiol yn sgil yr argyfyngau natur a hinsawdd yn gwthio natur a bioamrywiaeth i'r dibyn, ac yn bygwth ein hiechyd a'n lles.

Fel un o ofynion Deddf yr Amgylchedd, rydym yn cyhoeddi adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn asesu'r pwysau y mae ecosystemau Cymru yn eu hwynebu, eu hansawdd a'u cyfraniadau i'n lles. Mae’n ymdrin ag ansawdd ein dyfroedd, yr aer yr ydym yn ei anadlu, y gwerth a’r buddion a gawn o’n tiroedd, moroedd, mannau trefol a gwyrdd, a chyfoeth ein planhigion, ein hanifeiliaid a’n pryfed.

Mae'n dwyn ynghyd y dystiolaeth fwyaf diweddar a chadarn sydd ar gael, gan asesu a yw'r genedl yn defnyddio ei hadnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ac i nodi meysydd lle gellir gwneud gwelliannau.

Mae'n cael ei baratoi gan dîm o arbenigwyr yn CNC, gan ystyried cyngor, data a chyfraniadau gan ystod eang o arbenigwyr a rhanddeiliaid, o Gymru ac o bob cwr o'r byd. Mae'r arbenigwyr hyn yn cydweithio i gasglu a dadansoddi'r data, i ddarparu trosolwg cynhwysfawr o gyflwr adnoddau naturiol Cymru.

Y canlyniad yw casgliad pwerus o dystiolaeth y gall llunwyr polisi a phenderfyniadau ei ddefnyddio i lywio ein llwybr yn y dyfodol.

Yn allweddol, mae'n amlinellu lle a sut y mae gan bawb ran i'w chwarae a lle mae angen i ni newid trywydd fel cenedl i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn parhau i roi budd i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n datblygu'r trydydd adroddiad llawn, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2025. Bydd yr adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau blaenorol ac yn darparu adolygiad trylwyr o'r cynnydd a wnaed wrth reoli adnoddau naturiol Cymru.

Cyn hynny, rydym wedi cyhoeddi Adroddiad Interim (2024) sy'n amlinellu ein cynlluniau ar gyfer SoNaRR2025 ac yn tynnu sylw at dystiolaeth newydd allweddol sydd wedi dod i'r amlwg ers SoNaRR2020.

Mae'n rhoi cipolwg ar y newidiadau a'r datblygiadau mwyaf dybryd sy'n gysylltiedig â'n hamgylchedd naturiol, ac mae'n tanlinellu'r angen brys am weithredu parhaus i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru heddiw.

Ymhlith y materion mwyaf tyngedfennol a amlygir yn yr adroddiad interim mae cyflymder dirywiad byd natur, effeithiau cynyddol ddwys newid hinsawdd a llygredd.

Mae'r heriau hyn yn bygwth iechyd hirdymor adnoddau naturiol Cymru a, thrwy hynny, les y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau.

Er y bu rhywfaint o gynnydd wrth fynd i'r afael â'r materion hyn dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod angen gwneud llawer mwy i wrthdroi'r difrod, dechrau'r broses adfer a lliniaru'r risgiau parhaus.

Efallai fod yr her yn un fawr, ond mae'n un sy’n gofyn am gyfraniad pob un ohonom ni.

Dyna pam mae'r adroddiad interim hwn yn cynnwys neges o obaith a chyfle.

Yn union fel y rhywogaethau a'r ecosystemau cyd-ddibynnol sy'n ffurfio'n hadnoddau naturiol, rydym ni fel pobl yn ddibynnol iawn ar ein gilydd i oroesi a llwyddo.

Drwy gymryd camau cydlynol, pendant nawr ar draws y llywodraeth, busnes a chymdeithas, nid yn unig y gallwn ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ond gallwn hefyd wella ansawdd bywyd pobl sy'n byw yng Nghymru heddiw.

Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau roi'r strategaethau, y polisïau a'r buddsoddiadau cywir ar waith, a meithrin ymrwymiad gwirioneddol i atgyweirio'r difrod a wnaed ac i weithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Mae hefyd yn golygu galluogi busnesau, y sector gwirfoddol ac unigolion i fanteisio ar eu gallu eu hunain i wneud newid.

Bydd SoNaRR2025 yn darparu'r dystiolaeth a all helpu i gynllunio'r trywydd ar gyfer y dyfodol. Os byddwn yn dod at ein gilydd ac yn cymryd y camau angenrheidiol, mae gan Gymru y potensial i arwain drwy esiampl wrth greu perthynas gytûn rhwng pobl a'r amgylchedd—un sydd o fudd i'n treftadaeth naturiol a'n ffyniant am genedlaethau.

Darllenwch yr adroddiad interim yma

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru