Adfer Afon Clywedog: Tynnu’r Rhwystrau i Bysgod sy’n Mudo
Yng nghanol canolbarth Cymru, ar Ddiwrnod Afonydd y Byd eleni (Medi 24), mae gennym ni stori o lwyddiant cadwraeth i’w dathlu ar hyd glannau Afon Clywedog, un o lednentydd Afon Hafren.
Diolch i ymroddiad a chydweithrediad amryw randdeiliaid, mae rhwystr diangen a fu’n wynebu pysgod wrth iddynt fudo wedi’i dynnu, ac mae hynny’n gychwyn cyfnod newydd i’r amgylchedd afonol hwn.
Yn y blog hwn, mae Jason Jones, Uwch Swyddog Pysgodfeydd yn y Canolbarth, yn ein harwain drwy fanylion y prosiect ysbrydoledig hwn, ei heriau, a’r buddion sylweddol a ddaw i’r amgylchedd ac i’r gymuned yn ei sgil.
Hanes Cored yn Ymddatod
Gorweddai cored Cribynau o’r golwg ar gwrs Afon Clywedog. Roedd yn grair goncrit o’r 1950au. Er ei bod wedi hen gyflawni ei diben mewn perthynas â chronfa ddŵr Llyn Clywedog, roedd y strwythur hwn yn her sylweddol i iechyd yr afon. Roedd yn rhwystr i bysgod wrth iddynt fudo, yn amharu ar lif gwaddod, ac yn effeithio ar ansawdd y cynefin. Roedd y canlyniadau’n amlwg, gyda phoblogaethau pysgod yn gwegian, yn enwedig brithyll.
Roedd tynnu cored Cribynau yn rhan o Raglen Eogiaid Yfory 2 CNC. Nod y fenter uchelgeisiol hon oedd ceisio gwella llwybr pysgod ac ansawdd cynefinoedd yn Afon Clywedog.
Wynebodd y prosiect heriau sylweddol o ran amseru a llif y dŵr. Am fod lefelau’r dŵr yn amrywio drwy gydol y flwyddyn, roedd angen cynllunio manwl. Roedd y tîm yn gweithio yn y gaeaf, gan ddisgwyl y byddai lefelau’r dŵr yn is, ond hyd yn oed wedyn, cyfyngedig oedd y cyfleoedd o hyd. Er mwyn mynd at y gored i’w thynnu, defnyddiwyd darn arbenigol o offer o’r enw cloddiwr pry cop.
Buddion Tynnu’r Gored
Cafwyd llu o fuddion yn sgil tynnu cored Cribynau:
- Galluogwyd pysgod i fudo unwaith yn rhagor: Wedi tynnu’r rhwystr, gall pysgod bellach ddefnyddio tua 4 cilometr o gynefin sy’n addas ar gyfer silio ac eogiaid ifanc. Mae hyn yn cynnwys llwybrau mudo i fyny’r afon ac i lawr.
- Gwelliannau i’r cynefin yn yr afon: Mae’r rhan o’r afon a oedd wedi cronni’n annaturiol uwchlaw’r gored erbyn hyn wedi troi’n ardal o gynefinoedd mwy naturiol, sy’n hybu ecoleg frodorol ac yn creu amodau gwell ar gyfer bywyd y dŵr.
- Symudiad gwaddod: O ganlyniad i dynnu’r gored gall gwaddod symud yn ddirwystr i lawr yr afon. Mae’r graean hwn yn hanfodol ar gyfer silio ac i eogiaid a brithyllod ifanc.
- Gwella bioamrywiaeth: Cafodd coeden farw a oedd wedi’i dal ar y gored ei thynnu’n ofalus a’i chludo i un o ystadau coetir CNC, lle mae bellach yn cyfrannu at y fioamrywiaeth.
Yn ogystal, cafodd yr holl goncrit o’r gored a’r cerrig o’r caergewyll ei ailddefnyddio, gan leihau ôl troed carbon y prosiect a’i effaith ar yr amgylchedd.
Cynhaliwyd y gwaith hwn o dan elfen pysgodfeydd y Rhaglen Cyfalaf Dŵr, a ariennir gan y cynllun Cyfalaf Naturiol a Gwydnwch Ecosystemau, sydd, yn ei dro, yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru.
Persbectif Ehangach ar ein Gwaith
Wrth i ni nodi Diwrnod Afonydd y Byd, mae’n rhaid i ni bwysleisio bod graddfa a chyfradd colled bioamrywiaeth ar draws y wlad yn cyflymu, gan effeithio ar y rhywogaethau sy’n dibynnu ar ein hadnoddau naturiol.
Mae ein hafonydd a’r rhywogaethau maen nhw’n eu cynnal o dan bwysau cynyddol yn sgil newid hinsawdd a llygredd. O ganlyniad, mae rhywogaethau eiconig fel eogiaid yn prinhau yn anffodus, ac mae angen i ni gymryd camau brys i’w cynorthwyo.
Un o’r camau mwyaf effeithiol y gallwn eu cymryd yw cael gwared ar unrhyw rwystrau artiffisial sy’n eu hatal rhag gwneud eu ffordd i fyny ac i lawr yr afon. Mae cael gwared ar goredau yn caniatáu i eogiaid fynd at y dŵr oer, glân a’r cynefin da y mae eu hangen arnynt i oroesi.
Mae hanes tynnu cored Cribynau yn ein hatgoffa y gall tynnu’r strwythur lleiaf un wneud byd o wahaniaeth i gydbwysedd bregus ein hecosystemau.