Adfer beleod ym Mhrydain: safbwynt Natural England, NatureScot a Cyfoeth Naturiol Cymru
Trawsleoli cadwraeth yw symud a rhyddhau organebau’n fwriadol pan mai’r prif amcan yw budd cadwraeth1. Mae’n arf pwysig y gallwn ei ddefnyddio i wella statws cadwraeth rhywogaethau yn lleol neu’n fyd-eang, ac i adfer ecosystemau.
Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd ac â phartneriaid dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu arferion gorau ac wedi cefnogi trawsleoliadau cadwraeth wedi’u cynllunio’n dda sydd â manteision cadwraeth clir ac sy’n ystyried dyheadau a phryderon pobl. Mae nifer o brosiectau o’r fath wedi digwydd, rhai ohonynt yn ymwneud â thrawsleoli rhwng gwahanol wledydd Prydain i helpu adfer byd natur ar draws ein hynysoedd. Er enghraifft, mae gwyniaid, gweilch, yr eryr cynffon wen ac afancod Ewrasiaidd i gyd wedi’u trawsleoli o’r Alban i Loegr, a beleod i Gymru a Lloegr. Mae gwyniaid hefyd wedi’u trawsleoli i’r Alban o Loegr. Ym mhob achos rydym yn disgwyl i ymarferwyr gymhwyso Canllawiau’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar gyfer ailgyflwyno a thrawsleoliadau cadwraeth eraill a’r codau cenedlaethol cysylltiedig.
Proffil
Roedd y bele unwaith yn eang ei wasgariad ac yn gyffredin ledled Prydain ond mae bellach yn brin ac yn cael ei ddosbarthu fel un sydd mewn perygl difrifol yng Nghymru a Lloegr, ac o dan ddim bygythiad yn yr Alban3. Mae beleod yn hollysyddion yn gyffredinol, yn bwyta ystod eang o wahanol rywogaethau bwyd. Maent yn ysglyfaethu mamaliaid bach fel llygod pengrwn y gwair yn bennaf, ac mae hyn fel arfer yn cynnwys hyd at 50% o’u deiet. Mae eu deiet o ddewis yn cael ei bennu gan yr hyn sydd fwyaf toreithiog yn lleol.
Mae ysglyfaethwyr yn rhan hanfodol o ecosystem weithredol. Disgwylir i gymuned amrywiol o ysglyfaethwyr gyfyngu ar boblogaethau toreithiog o ysglyfaeth yn naturiol. Fodd bynnag, mae beleod ar eu pen eu hunain yn gyffredinol yn byw ar ddwysedd isel; mae poblogaeth o un i bob km2 yn cael ei ystyried yn ddwysedd uchel, ac yn gyffredinol mae angen o leiaf 200 hectar o goetir addas ar bâr o feleod4.
Cynllun adfer strategol hirdymor ar gyfer beleod ym Mhrydain a rôl trawsleoliadau cadwraeth
Yn fwy diweddar rydym wedi dod yn ymwybodol o nifer cynyddol o gynigion newydd i drawsleoli beleod o’r Alban i Gymru a Lloegr. Mae gennym gyfrifoldeb i warchod poblogaethau beleod a chyfrifoldeb i’r cymunedau lleol sy’n cynnal y poblogaethau hyn ar hyn o bryd, er mwyn cadw cydbwysedd rhwng y nod o wella statws cadwraeth y rhywogaeth ledled Prydain, wrth sicrhau nad yw poblogaeth yr Alban yn cael ei niweidio drwy gymryd gormod ohonynt o’r fan honno yn rhy gyflym. Felly buom yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent i lunio strategaeth 10 mlynedd ar gyfer bele’r coed4 i helpu i lywio penderfyniadau. Mae’r gwaith hwn wedi’i gymeradwyo gan Natural England, NatureScot a Cyfoeth Naturiol Cymru a dylai prosiectau sy’n cyfrannu at adfer y bele ym Mhrydain ddilyn hyn.
Mae’r strategaeth yn pwysleisio pwysigrwydd gwarchod y boblogaeth sy’n dal i adfer yn yr Alban ac yn darparu map trywydd ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer rhyddhau’r bele yn y ffordd orau bosibl yn rhanbarthol yn nhrefn blaenoriaeth. Mae adfer y bele i dde-orllewin Lloegr a hybu ailgytrefu naturiol de Cumbria o dde’r Alban yn flaenoriaeth ar hyn o bryd.
Yn ogystal, pe bai angen rhyddhau rhagor i helpu i feithrin cydnerthedd neu wella cywirdeb genetig poblogaethau presennol Cymru a Lloegr, rhoddir blaenoriaeth i atgyfnerthu’r poblogaethau hynny ag anifeiliaid o’r Alban.
Os yw poblogaeth mewn ardal yn gallu adfer trwy gytrefu naturiol, dylid cefnogi hyn. Dim ond os oes tystiolaeth glir bod cytrefu naturiol yn annhebygol o ddigwydd o fewn amserlen resymol, fel y’i disgrifir yn y strategaeth, y byddai modd cyfiawnhau trawsleoli cadwraeth er mwyn hwyluso’r broses hon.
Cyrchu beleod ar gyfer prosiectau
Mae’r strategaeth yn amlygu pwysigrwydd hanfodol gwarchod cywirdeb genetig y boblogaeth beleod ym Mhrydain, felly dylid ond cyrchu beleod ar gyfer prosiectau rhyddhau o boblogaethau brodorol Prydain yn unig.
Mae’r ddeddfwriaeth yn amrywio rhwng y tair gwlad. Fodd bynnag, ym mhob gwlad, mae gan feleod warchodaeth lwyr, ac mae angen trwydded gan yr asiantaeth berthnasol i ddal, meddu neu gludo beleod gwyllt. Ar gyfer eu rhyddhau yn Lloegr, mae beleod sy’n hanu o boblogaethau y tu allan i Brydain yn ddigon gwahanol ym marn Natural England fel eu bod yn ddarostyngedig i’r rheolaethau yn adran 14 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae eu rhyddhau i’r gwyllt felly yn anghyfreithlon (ac eithrio dan drwydded). Mae angen trwyddedau ar gyfer trawsleoli beleod ar gyfer cadwraeth o fewn yr Alban, ac ni fyddai NatureScot yn caniatáu rhyddhau anifeiliaid sy’n hanu o’r tu allan i Brydain. Yng Nghymru, mae CNC yn argymell yn gryf cyrchu anifeiliaid o Brydain fel y nodir yn y strategaeth ar gyfer y Bele, ac ni fyddai’n rhoi trwydded ar gyfer beleod sy’n hanu o’r tu allan i Brydain.
Mae alinio â’r Codau yn allweddol
Wrth ystyried prosiect trawsleoli beleod, dylai prosiectau ddilyn y codau cenedlaethol cysylltiedig a’r canllawiau ar gyfer ailgyflwyno a thrawsleoliadau cadwraeth eraill (os ydynt ar gael).
Ar gyfer Lloegr:
Ailgyflwyno a thrawsleoliadau cadwraeth eraill: cod a chanllawiau ar gyfer Lloegr
Cysylltwch â speciesrecoveryreintroduction@naturalengland.org.uk neu enquiries@naturalengland.org.uk
Ar gyfer yr Alban:
Cod yr Alban ar gyfer trawsleoliadau cadwraeth
Cysylltwch â licensing@nature.scot
Ar gyfer Cymru:
Cysylltwch ag enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu specieslicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Disgwylir i bob prosiect sy’n bwriadu trawsleoli beleod ymgynghori â NatureScot am gyngor ar gyrchu’r bele ac anghenion trwyddedu ac, yn ogystal, gysylltu â’r asiantaeth statudol ddatganoledig berthnasol lle byddai’r rhyddhau arfaethedig yn digwydd; Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru neu NatureScot.
Mae angen i’r rheini sy’n cynnig prosiect gydweithio a chysylltu â rhanddeiliaid lleol
Er mwyn atal poblogaeth y bele yn yr Alban rhag cael ei niweidio, mae’n hanfodol bod unrhyw ymarferwyr sy’n ystyried trawsleoliad i Gymru, Lloegr neu rywle arall yn yr Alban, yn cysylltu ac yn cydlynu eu cynlluniau gyda phrosiectau eraill fel bod gofynion cyffredinol yn cael eu sefydlu a goblygiadau posibl yn cael eu hasesu. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth bod cyfathrebu o’r fath wedi digwydd ac nad yw prosiectau’n gweithio ar eu pen eu hunain. Byddwn hefyd angen tystiolaeth na fydd y cyfuniad o safleoedd rhoddwyr, amseriad a nifer y beleod y cynigir eu dal, ar y cyd ag anifeiliaid sy’n cael eu cymryd ar gyfer prosiectau eraill, yn cael effaith andwyol gyffredinol ar statws cadwraeth.
Bydd Natural England, NatureScot a Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn ymgynghori â’i gilydd, i sicrhau ein bod yn gyfforddus na fydd poblogaethau rhoddwyr yn cael eu niweidio a bod y gwaith rhyddhau wedi’i gynllunio’n dda. Mae cymunedau lleol hefyd yn gwerthfawrogi eu poblogaethau o feleod, ac felly efallai y bydd gan rai rhanddeiliaid bryderon os yw anifeiliaid yn cael eu symud o’u hardaloedd. Disgwyliwn bod ymgysylltu priodol â rhanddeiliaid yn digwydd yn y safleoedd rhoddwyr a’r safleoedd rhyddhau, fel y nodir yn y codau cenedlaethol.
Adfer y bele ledled Prydain
Ein dyhead yw bod y bele yn dychwelyd i bob cynefin addas ledled Prydain, felly mae’n wych gweld cymaint o frwdfrydedd dros adfer un o ysglyfaethwyr mwyaf carismatig Prydain. Disgwylir i’r ymdrechion sylweddol sydd ar y gweill i adfer byd natur wella’r cyfleoedd ar gyfer ailgytrefu naturiol. Disgwyliwn lwyddo i gyflawni’r dyhead hwn ynghyd â thrawsleoli wedi’i dargedu.
Cliciwch yma i weld ddatganiad NatureScot
Llyfryddiaeth
1 IUCN/SSC (2013). Guidelines for Reintroductions and Other Conservation Translocations. Fersiwn 1.0. Gland, y Swistir: IUCN Species Survival Commission, viiii + tt 57.
2 Mathews ac eraill (2018) A Review of the Population and Conservation Status of British Mammals. A report by the Mammal Society under contract to Natural England, Natural Resources Wales and Scottish Natural Heritage. Natural England, Peterborough. ISBN 978-1-78354-494-3.
3 Mathews F, a Harrower C. (2020). IUCN – compliant Red List for Britain’s Terrestrial Mammals. Assessment by the Mammal Society under contract to Natural England, Natural Resources Wales and Scottish Natural Heritage. Natural England, Peterborough ISBN 978-1-78354-485-1
4MacPherson, J. a Wright, P. (2021). Long-term strategic recovery plan for pine martens in Britain. Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, Ledbury
Mae’r postiad blog hwn yn rhan o gyfres o safbwyntiau gan Natural England ar brosiectau trawsleoliadau cadwraeth rhywogaeth-benodol, y bwriedir eu cyhoeddi dros yr ychydig fisoedd nesaf.