Mae gelod prin yn dod o hyd i gartref mewn pyllau twyni yn Niwbwrch
A ninnau bellach wedi cyrraedd mis Awst, rydym ymhell i mewn i’r tymor monitro maes pan fydd staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd allan i’r awyr agored i gynnal arolygon hollbwysig i wirio iechyd poblogaethau amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid ar draws ein tirweddau gwarchodedig.
Ar daith ddiweddar i Warchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, fe wnes i gynnal gwaith monitro infertebratau ar un o'n rhywogaethau prinnaf, sef yr ele feddyginiaethol.
Mae'r ele feddyginiaethol hefyd yn un o'n hanifeiliaid sy’n cael ei ddifrïo fwyaf. Maent wrth gwrs yn adnabyddus am eu bwydo ar waed a'u defnydd mewn tynnu gwaed yn y byd meddygol.
Mae gelod i’w cael yn nodweddiadol mewn pyllau a llynnoedd bach, ffosydd a ffeniau dan ddŵr, lle maent yn bwydo ar waed brogaod, llyffantod, madfallod dŵr, mamaliaid (yn enwedig gwartheg a cheffylau), pysgod, a chywion bach adar dyfrol.
Mae penbyliaid yn ogystal â madfallod ifanc yn arbennig o bwysig i elod meddyginiaethol ifanc, nad ydynt yn gallu tyllu croen mamaliaid ar gyfer y ddau borthiant cyntaf. Yn anhygoel, gall pob gelen gymryd rhwng dwy a phum gwaith ei bwysau gwaed ei hun mewn pryd sy'n cael ei dreulio'n araf dros sawl mis.
Am ran helaeth o'r flwyddyn, pan fo tymheredd y dŵr yn isel, mae gelod meddyginiaethol yn dawel ac yn parhau i fod wedi'u claddu mewn mwd neu o dan wrthrychau tanddwr ar ymyl pyllau.
Ond wrth i dymheredd y dŵr godi yn y gwanwyn, maen nhw'n dod i'r amlwg i fwydo ar ôl gaeaf hir o anweithgarwch. Mae gelod yn dod yn ymatebol iawn i aflonyddwch dŵr a achosir gan letywr posibl, ac yn nofio tuag at ffynhonnell y gwaed, gan ddefnyddio system lleoli gwres pan fyddant yn agos at letywr mamalaidd.
Wrth fwydo, maent yn secretu ensym gwrthgeulo pwerus yn eu poer o'r enw hiriwdin sy'n atal ceulo gwaed am hyd at dair awr i ganiatáu bwydo.
Bydd gelod meddyginiaethol aeddfed yn gadael y dŵr ym mis Gorffennaf ac Awst i ddyddodi cocwnau sbyngaidd 10mm o hyd mewn man llaith ychydig uwchben y llinell ddŵr ar y lan neu o fewn nythod adar dyfrol fel cwtieir.
Dros un i 12 diwrnod, bydd pob gelen aeddfed yn dodwy rhwng un ac wyth cocŵn, pob un ohonynt yn cynnwys 12 i 16 wy. Mae amser deor yn amrywio o bedair i ddeg wythnos, yn dibynnu ar y tymheredd, ac mae gelod sydd newydd ddeor yn mesur rhwng wyth a 12mm.
Roedd yr ele feddyginiaethol unwaith yn gyffredin yng nghanol Ewrop o Iwerddon i fynyddoedd yr Wral ac o dde Sgandinafia i wledydd sy'n ffinio â Môr y Canoldir.
Fodd bynnag, mae bellach yn brin ledled gorllewin Ewrop ac yn cael ei dosbarthu fel mewn perygl mewn llawer o wledydd.
Yn y DU, cyfyngir yr ele feddyginiaethol i boblogaethau anghysbell yn y New Forest, Ardal y Llynnoedd, gorllewin yr Alban, de Cymru ac Ynys Môn, gyda phoblogaeth fawr yn gysylltiedig â'r system ffosydd helaeth yn Romney Marsh yng Nghaint. Achoswyd dirywiad hanesyddol gan or-gasglu ar gyfer y fasnach mewn gwaedu meddygol neu ollwng gwaed yn y 18fed a'r 19eg ganrif.
Heddiw mae saith safle yng Nghymru gyda chofnodion cyfoes ar gyfer gelod meddyginiaethol, gyda phump ohonynt ar Ynys Môn, ac mae pob un wedi’i warchod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig neu Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae'r rhan fwyaf o'r poblogaethau'n fach ond mae un o'r poblogaethau mwyaf yn Niwbwrch, yn y pyllau amrywiol sydd i'w cael yn y llennyrch llawn blodau sy'n cael eu pori.
Sefydlwyd llawer o'r llennyrch hyn yn ystod blynyddoedd cynnar cadwraeth natur ar y safle ar ddiwedd y 1950au gan y Warchodaeth Natur mewn partneriaeth â'r Comisiwn Coedwigaeth.
Roedd y Warden-Naturiaethwr ar gyfer Gwarchod Natur ar y pryd, Peter Hope Jones, ynghyd ag ecolegydd twyni enwog a fu’n ymweld, Dr Derek Ranwell, wedi codi pryderon ynghylch y coedwigo arfaethedig, gan awgrymu y dylid cadw nifer o lennyrch i ddiogelu’r fflora a ffawna prin ac y dylid eu cysylltu gan rodfeydd.
Aeth Mr Jones ati i gloddio pyllau fel mesur lliniaru ac un o'r rhain oedd pwll y twyni ym Mhant Mawr, un o'r llaciau mwyaf ar y system dwyni.
Mae'r pyllau hyn o waith dyn sydd wedi'u lleoli mewn llennyrch llawn golau yn darparu microhinsawdd sy'n arbennig o ffafriol i infertebratau sy'n hoff o gynhesrwydd.
Mae pH uchel y dŵr a thywod mwynol glân llawr y pwll yn golygu mai’r rhain yw rhai o’r pyllau gorau o’u math yn y DU ar gyfer rhywogaethau mewn perygl arbenigol megis rhywogaethau rhawn yr ebol prin a phlanhigion dyfrol eraill, yn ogystal â phoblogaethau o weision y neidr, madfallod dŵr cribog, ac, wrth gwrs, yr ele feddyginiaethol.
Mae’r bygythiadau i’r poblogaethau gelod meddyginiaethol heddiw yn deillio’n bennaf o golli cynefin gwlyptir o ganlyniad i effeithiau hydrolegol, olyniaeth a newid hinsawdd, ansawdd dŵr, cysgodi pyllau yn gostwng tymheredd y dŵr, a cholli lletywyr ar gyfer bwydo fel amffibiaid ac anifeiliaid pori.
Mae ymchwil ddiweddar wedi canfod bod cŵn sy'n ymdrochi mewn pyllau cadwraeth yn arbennig o niweidiol i fuddiannau infertebratau, gan gynnwys gelod meddyginiaethol, oherwydd gall triniaethau chwain a roddir i gŵn fynd i mewn i'r golofn ddŵr a lladd pryfed.
Helpwch ni i warchod y rhywogaethau prin hyn trwy ymatal rhag caniatáu i'ch ci ddefnyddio unrhyw un o'r pyllau hyn.
Bydd CNC yn parhau i reoli’r llennyrch hyn er mwyn gwella eu cyflwr drwy gael gwared â phrysgwydd a thrwy barhau i reoli pori gyda’n gre goedwig o ferlod mynydd Cymreig.
Delwedd: Pwll Pant Mawr yn cael ei gloddio ym 1959.