Prosiect i fonitro a lleihau allyriadau amonia sy’n deillio o amaethyddiaeth
Mae amonia yn brif lygrydd atmosfferig ac mae'n niweidiol i iechyd pobl os bydd yn cael ei gyfuno â llygryddion diwydiannol eraill.
Pan gaiff ei ddyddodi ar dir, gall amonia asideiddio priddoedd a dyfroedd croyw, gan ‘or-wrteithio’ cymunedau planhigion naturiol. Gall y nitrogen ychwanegol gynyddu twf rhai rhywogaethau fel glaswelltau garw a danadl, sy'n cystadlu’n well na rhywogaethau eraill.
Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu at fwy na 85% o allyriadau amonia yng Nghymru, ac yn deillio’n bennaf o ddulliau rheoli tail a gweddillion treuliad (treulio anaerobig) ac o ddefnyddio gwrteithiau sy'n seiliedig ar wrea yn benodol.
Mae allyriadau amonia wedi bod yn cynyddu yng Nghymru ers tua 2010 ac erbyn heddiw mae 60% o lystyfiant sensitif yn dod i gysylltiad â lefelau uwch o amonia nag y gall ei oddef.
Mae hyn yn gynnydd o 13% ers 2010, y newid mwyaf a gofnodwyd yn y DU.
Synwyryddion amonia ar ffermydd
Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw synwyryddion amonia. Mae amonia, sy’n sgil-gynnyrch ffermio da byw, yn gallu cael effaith niweidiol ar ansawdd aer a dŵr os na chaiff ei reoli'n effeithiol.
Rydym yn gweithio gyda'r sector amaethyddol yng Nghymru i fonitro a lleihau allyriadau amonia o ffermydd ger safleoedd sensitif. Gwneir hyn drwy osod synwyryddion amonia i fonitro lefelau allyriadau a thrwy gynhyrchu Cynlluniau Gweithredu Nitrogen ar Safleoedd.
Ffermio cynaliadwy yng Ngwenfô
Mae Abi Reader, sy'n flaengar yn y diwydiant amaethyddol ac yn Is-lywydd NFU Cymru, wedi bod yn allweddol o ran sbarduno arloesedd a hyrwyddo arferion ffermio cynaliadwy.
Rydym wedi gosod y synwyryddion amonia diweddaraf ar fferm Abi yng Ngwenfô, sy'n ein helpu i fod ar flaen y gad o ran deall a monitro lefelau allyriadau ac ar yr un pryd mynd ati i gyfrannul at daith y sector amaeth tuag at allyriadau sero-net.
Mae Abi hefyd yn sefydlu system amaeth-goedwigaeth (gwaith plannu coed sy'n cael ei gyfuno'n fwriadol ag amaethyddiaeth ar yr un darn o dir) ar ei fferm gyda chymorth Sida Agroforestry a Coed Cadw. Mae'r ymdrech gydweithredol hon yn brawf o’i hymroddiad i dechnegau ffermio adfywiol ac yn creu model ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy.
Gydag arbenigedd CNC, ymroddiad NFU Cymru, a'r gefnogaeth gan bartneriaid eraill, megis Coed Cadw a Sida Agroforestry, mae gan y fenter hon y potensial i drawsnewid y diwydiant amaethyddol.
Gyda'n gilydd, rydym yn cymryd camau sylweddol tuag at ddyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch fwy am sut i leihau allyriadau amonia sy’n dellio o amaethyddiaeth. Mae gan wefan Cyswllt Ffermio hefyd wybodaeth am amonia a dulliau lliniaru.
Ariennir y prosiect hwn drwy Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, i gryfhau gwytnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru.
Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i atal a gwrthdroi'r golled a'r dirywiad mewn cynefinoedd a rhywogaethau ac yn rhoi sylfaen gadarn i Gymru ar ei thaith tuag at adferiad natur.