Taith disgyblion Peterlea i ddysgu a darganfod sut mae lleoedd yn newid

Mae Ysgol Gynradd Peterlea, Caerdydd, wedi bod yn cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru drwy deithiau dysgu yn seiliedig ar gwestiwn. Dywedodd Rhianne Rees, athrawes yn Ysgol Gynradd Peterlea, mwy wrthym.

Fe wnaeth disgyblion Blwyddyn 3 a 4, ar draws ein 3 dosbarth blynyddoedd cymysg, felly bron i 60 o blant i gyd, gymryd rhan yn ein taith ddysgu.  Wedi'n hysbrydoli gan y llyfr 'Song of the River' gan Gill Lewis (ISBN-13 978-1800900615), penderfynon ni y byddai hwn yn opsiwn gwych i ennyn diddordeb ein plant.

Byddai’n hawdd cysylltu addysg ddaearyddol sy'n seiliedig ar daith afon a dysgu am wyddoniaeth y cylch dŵr, ond byddai stori am blentyn o oedran tebyg iddyn nhw a'r dinistr sy'n taro cymunedau wedi’u heffeithio gan lifogydd yn creu argraff go iawn arnyn nhw. Mae'r llyfr yn cyfeirio at fywyd gwyllt sy'n dibynnu ar yr afon ac yn edrych yn fanwl ar afancod ac roeddem ni’n teimlo y byddai'r plant yn hoffi dysgu am natur ac anifeiliaid. Felly gyda hyn ar flaen ein meddyliau, fe wnaethon ni lunio ein taith ddysgu ar gyfer tymor y gwanwyn o amgylch y cwestiwn 'Sut mae lleoedd yn newid?'.

Wrth gyflwyno ein taith ddysgu, roeddem ni am i’r plant weld cymaint o rannau o’r afon â phosibl yn gyntaf. Am y rheswm hwn, fe ddechreuon ni ein pwnc drwy fynd i'n sir gyfagos, Bro Morgannwg, gan fynd â'r plant i barc coedwig hardd Porthceri. Yno, buom yn archwilio erwau o goedwigoedd a dolydd y dyffryn cysgodol, gan arwain at y traeth cerrig a chlogwyni ysblennydd. Gwelsom yr afon yn tyfu ac yn newid, gan ddilyn y llwybrau natur a'r afon ei hun, allan i'r môr. Roedd hi’n braf gweld y clogwyni a helpu’r plant i ddeall y cysyniad o erydu arfordirol pan edrychom yn fanylach ar hyn yn nes ymlaen, fel rhan o'n cwestiwn arweiniol cyffredinol, sut mae lleoedd yn newid?

Symudon ni ymlaen i ddarllen y llyfr, gan ddilyn hanes merch 9 oed sy'n symud o'r ddinas i gefn gwlad, ar ôl damwain drasig pan fu farw ei thad. Symudodd y stori emosiynol ymlaen at ei Mam yn sefydlu caffi a cholli eu cartref a'u busnes i lifogydd difrifol. Yn y stori, rydyn ni’n cwrdd â chadwraethwr natur sy'n rhannu ei wybodaeth am afancod. Cynhaliodd ein plant eu hymchwil darganfod ffeithiau eu hunain ar yr afanc anhygoel a rhannu eu dysgu trwy ffeiliau ffeithiau a phosteri tudalen ddwbl. Ar yr un pryd, roedden nhw'n dysgu am afonydd, yn adnabod nodweddion daearyddol, ac yn meithrin dealltwriaeth o systemau afonydd, a sut maen nhw'n newid dros amser. Gyda'n gwybodaeth am afancod a'u sgiliau adeiladu argae anhygoel, fe wnaethom ddefnyddio'r stori fel ysgogiad i gynllunio ac ysgrifennu, mewn cymeriad, i'r cyngor lleol yn gofyn i'r gymuned ystyried cyflwyno afancod i'r ardal i helpu i atal llifogydd yn y dyfodol.

Nesaf, fe ddefnyddion ni’r testun a'r afonydd i greu darnau gwych o farddoniaeth. Edrychodd y plant ar lawer o nodweddion barddonol a rhoi cynnig ar amrywiaeth o gerddi gan gynnwys Haikus, Kennings, Cinquains a Shape, ymhlith eraill. Yn olaf, fe ddewison nhw rai eu hunain i’w hysgrifennu a’u cyhoeddi yn seiliedig ar afonydd.

Yn Peterlea, rydyn ni’n ffodus i fyw ger parc lleol, y Dell, sydd â man bach agored gyda dŵr y mae'r plant yn ymweld ag ef yn rheolaidd. Roedd tir ein hysgol yn ysbrydoliaeth ar gyfer rhan olaf ein tasgau llythrennedd; ysgrifennu cyfarwyddiadau syml ar sut i adeiladu cartref i natur. Dewisodd rhai plant greu bwydwyr adar ar gyfer ein perllan/rhandir. Defnyddiodd eraill y gwrychoedd i annog draenogod, a bu rhai'n gweithio ar greu cyfarwyddiadau ar gyfer gwestai pryfed ar gyfer ein hardal yr ysgol goedwig.

Roedd ein dysgwyr wedi torchi llewys go iawn ar gyfer y daith addysgol hon! Sgidiau mwdlyd, traed gwlyb, llawer o chwerthin ac atgofion gwych o Barc Porthceri! Roedden nhw wrth eu boddau’n dysgu am yr afancod yn arbennig ac yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth. Buon nhw’n dysgu am newid cyflyrau, a'r cylch dŵr, gan ddefnyddio'r broses fel ffocws ar gyfer cynhyrchu eu straeon eu hunain amdano.

Roedd y camau dysgu penodol yn cynnwys:

  • Gall deunyddiau fodoli mewn cyflyrau gwahanol ac mae ganddyn nhw briodweddau gwahanol, e.e. solidau, hylifau, nwyon.
  • Mae cyflyrau mater yn gallu newid, e.e. iâ-dŵr-stêm, oherwydd cynnydd neu ostyngiad mewn egni.
  • Mae'r Ddaear yn cynnwys nodweddion ac amgylcheddau ffisegol gwahanol, e.e. mynyddoedd, afonydd, ardaloedd arfordirol.
  • Mae tirwedd y Ddaear yn newid drwy’r amser ac yn cael ei siapio gan natur, e.e. erydiad arfordirol, dŵr (afonydd) yn siapio tirweddau.

Drwy'r cyd-destun hwn, fe ddysgodd y plant am y canlynol:

  • Priodweddau solidau, hylifau a nwyon.
  • Nodweddion ffisegol Cymru ac un wlad arall, gan edrych ar fynyddoedd ac arfordiroedd yn benodol, gan gynnwys afonydd.
  • Sut mae newidiadau ffisegol yn effeithio ar y dirwedd (llifogydd, erydiad, afonydd).
  • Newidiadau mewn cyflwr a sut mae'n ymwneud â newidiadau ffisegol (llosgfynyddoedd, cylch dŵr).

Erbyn diwedd ein Taith Ddysgu, roedd plant yn gallu:

  • Disgrifio nodweddion ffisegol tirweddau a sut maen nhw’n debyg/wahanol mewn lleoedd gwahanol.
  • Disgrifio sut mae tirweddau'n newid o ganlyniad i rymoedd naturiol.
  • Disgrifio cyflyrau gwahanol mater a sut maen nhw'n newid.

Yn ein gwersi, roeddem yn bachu ar bob cyfle i dynnu sylw at yrfaoedd a sgiliau sydd eu hangen ar eu cyfer. Mae mor bwysig bod plant yn dod i wybod am gyfoeth o swyddi gwahanol, yn enwedig rhai nad ydyn nhw'n gwybod eu bod yn bodoli o bosib. Fel athrawon, rydyn ni bob amser yn ceisio ehangu eu gwybodaeth yn y maes hwn. Er enghraifft, wrth ddarllen y llyfr, byddem yn cyfeirio at ba weithgareddau roedd cadwraethwyr natur a pharcmyn yn eu gwneud. Trafodwyd rolau o fewn y gymuned, fel cynghorwyr. Cafodd y gwasanaethau achub a'r rolau gwirfoddoli ôl-ofal eu hystyried. Pwy sy'n helpu pan fydd trychinebau'n digwydd, a phwy sydd yno i helpu pan fydd pobl mewn trafferth neu'n drist am rywbeth. Pan edrychon ni ar y cylch dŵr a glawiad, byddem ni’n tynnu sylw at bwy sy'n casglu'r wybodaeth am lawiad. O le mae’n dod? Pwy sy'n ei dehongli? Yn wir, roedd ein tasg olaf o ysgrifennu cyfarwyddiadau yn bwrpasol, gyda'r nod terfynol o gynhyrchu set syml o gyfarwyddiadau ar gyfer ymwelwyr safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Buon ni’n trin a thrafod y bobl sy'n dylunio ac yn cynhyrchu'r rhain mewn bywyd go iawn.

Wrth gynllunio ein teithiau dysgu, buom yn meddwl am y 4 diben, beth maen nhw’n ei olygu i'n plant, a pha rai allen ni ganolbwyntio arnyn nhw trwy gydol tymor y gwanwyn.

Gwnaethon ni hefyd ddewis canolbwyntio ar Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau gyda’r bwriad o ymdrin â'r 'Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig' canlynol:

  • Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
  • Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Yr ail Faes Dysgu a Phrofiad oedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg:

  • Mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau.
  • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.

Maes Dysgu a Phrofiad cysylltiedig arall oedd y Celfyddydau Mynegiannol:

  • Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
  • Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.
  • Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Mae'r ffordd hon o gysylltu'r dysgu â bywyd go iawn yn amhrisiadwy. Roedd y thema benodol hon yn hynod ffeithiol a daearyddol gydag elfen dda o wyddoniaeth hefyd a oedd o ddiddordeb i'r plant. Roedd y testun yn ein galluogi i archwilio'r ochr ddyngarol a chysylltu â'r bobl a'r cymunedau y gwelsom yn y llyfr, wrth ddysgu am natur ac anifeiliaid afonydd, a wnaeth wir gydio yn niddordeb y plant. Mae llifogydd yn rhywbeth sy'n effeithio arnon ni yn y rhan hon o'r byd, a dylai plant ddysgu am hyn a meithrin dealltwriaeth o’r sefyllfa a beth allwn ni ei wneud i leihau’r siawns o lifogydd.

Rydyn ni’n cyflwyno ein Taith Ddysgu trwy weithgaredd wythnosol dan arweiniad athro, deirgwaith yr wythnos. Mae hyn yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar grwpiau bach dan arweiniad athro. Mae'r plant eraill nad ydynt yn y grŵp dan arweiniad athro yn gweithio'n annibynnol ar dasgau. Mae angen iddyn nhw gwblhau sawl tasg dros gyfnod o bythefnos. Nhw sy'n rheoli'r drefn o wneud y teithiau hyn. Mae'r plant wrth eu bodd â'r annibyniaeth sydd ganddyn nhw ac yn cymryd eu teithiau o ddifrif. Byddan nhw’n arfer sgiliau a addysgwyd yn ddiweddar yn y tasgau annibynnol hyn fel 'dysgu dawns yn seiliedig ar y cylch dŵr' (Iechyd a Lles). ‘Creu darn o gelf mewn ymateb i gerddoriaeth' (Celfyddydau Mynegiannol). 'Defnyddio atlas i ddod o hyd i wybodaeth' (Dyniaethau). 'Dylunio poster gan gynnwys iaith berswadiol' - am afancod, llygod dŵr, y gylfinir, neu lyffant y twyni, er enghraifft (Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu). ‘Defnyddio cyfeirnodau grid / cyfesurynnau i bennu lleoliadau' (Mathemateg a Rhifedd). ‘Defnyddio Es i... i ddisgrifio lle aethon ni yng Nghymru' (Cymraeg.) Buom yn gwneud darnau estynedig o waith ysgrifennu (llythyrau, cerddi ac ysgrifennu cyfarwyddiadau) yn ystod ein sesiynau llythrennedd.

Penllanw ein holl waith cynllunio ac addysgu oedd y ffaith fod y plant yn dysgu deall sut mae ein tirweddau'n newid dros amser, sy'n gysyniad mawr iawn!

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru