CNC yn dathlu arloeswyr morwrol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae Kirsty Lindenbaum, uwch-gynghorydd arbenigol tîm morol Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dathlu dwy arloeswraig forol o Gymru.
Mae gweithio gyda’n partneriaid i ailgysylltu pobl â’n moroedd yn rhywbeth y mae ein timau yn Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ei wneud ers peth amser. Gyda mwy na 60% o bobl Cymru yn byw ger yr arfordir, mae’r môr wedi ffurfio rhan fawr o hunaniaeth a threftadaeth Cymru, a thrwy waith CNC yn y môr rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau am genedlaethau i ddod.
Ond gadewch inni beidio ag anghofio gwaith pobl o genedlaethau’r gorffennol a helpodd i gysylltu pobl â’r môr, ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae’n teimlo’n amserol dathlu rhai o’r arloeswragedd mwyaf blaenllaw yn hanes morwrol Cymru.
Y Misses
Bron i 200 mlynedd yn ôl, yn y 1830au, daeth Ellen Edwards yn athrawes fordwyo arloesol yng Nghaernarfon, gogledd Cymru, gan chwalu’r rhwystrau ac ysbrydoli cenedlaethau o forwyr ar ôl iddi sefydlu ysgol i ddysgu mordwyaeth a morwriaeth i gannoedd o ddynion lleol.
Roedd Ellen wedi dysgu’r gamp o fordwyo gan ei thad, Capten William Francis o Amlwch, Ynys Môn, a oedd hefyd wedi bod yn athro mordwyo.
Er gwaethaf rhai ymdrechion gan addysgwyr Anglicanaidd i fychanu ei haddysgu, bu Ellen, a oedd yn Anghydffurfwraig bybyr, yn hyfforddi cannoedd o forwyr yn llwyddiannus, ac aeth llawer ohonynt ymlaen i gael gyrfaoedd rhyfeddol fel capteiniaid.
Yr oedd Ellen Edwards yn cael ei hadnabod yn annwyl fel ‘y Misses’, a bu farw ar 24 Tachwedd 1889, yn 79 oed. Cymerodd ei merch, a elwid hefyd Ellen, y busnes drosodd. Adroddodd y Caernarfon and Denbigh Herald: “Roedd yr angladd yn un hynod, gyda’r cortège yn cynnwys nifer fawr o gapteiniaid, mêts, morwyr, a bron y cyfan o’r llynges wrth gefn sydd bellach ar ddyletswydd yn y dref.”
Cranogwen
Tra oedd Ellen Edwards yn addysgu sgiliau mordwyo yng ngogledd Cymru, ganed Sarah Jane Rees, a oedd yn cael ei hadnabod fel Cranogwen, ym 1839 ger Llangrannog yng ngorllewin Cymru.
Roedd ei thad yn gapten ar y môr, yn gapten ar longau, ac ef a ysbrydolodd y Sarah Jane ifanc i ddilyn ffordd o fyw forwrol.
Yn ei harddegau, ymunodd â’i thad ar fwrdd ei long, gan deithio o amgylch Cymru ac i Lerpwl, Ffrainc ac Iwerddon.
Pan ddychwelodd, cymerodd le mewn ysgol forwyr i ddysgu mwy am fordwyo ac agweddau eraill ar forwriaeth.
Cwblhaodd ei hyfforddiant yn Llundain, gan ennill cymhwyster capten cyn dychwelyd adref yn 21 oed i fod yn brifathrawes yn ei hysgol bentref ym 1860, lle bu’n dysgu morwriaeth, gan hyfforddi cenhedlaeth newydd o forwyr a chapteiniaid môr.
Parhaodd i lywio ei llwybr ei hun trwy ddod yn siaradwraig gyhoeddus o fri, gan deithio cyn belled ag America yn aml yn pregethu ar fater dirwest (ymatal rhag alcohol) a’r effaith y gallai alcohol ei chael ar fywydau teuluol, i fenywod yn arbennig.
Roedd yn hynod fedrus yn cyfansoddi barddoniaeth, gan ennill gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe’i gwnaed hefyd yn olygydd cylchgrawn Cymraeg i ferched a chwaraeodd ran ganolog yn y mudiad dirwest, lle bu’n un o sylfaenwyr ‘Undeb Dirwestol Merched De Cymru’ ym 1901.
Yn dilyn ei marwolaeth, sefydlwyd Lletty Cranogwen, lloches i fenywod a merched digartref, ym 1922 yn Nhonypandy, Rhondda, er cof amdani.
Mae’r ddwy fenyw ryfeddol yn portreadu’r llu o gysylltiadau hanesyddol sydd gan fenywod â’r môr ac arfordir Cymru. Maent yn parhau i ysbrydoli cymaint yn ein timau morol a thu hwnt, ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni cofiwn y cyfraniad a wnaethant i hanes morwrol Cymru.