Rhaglen Rhwydweithiau Natur Forol Newydd: Galwad am geisiadau
Rydym wrthi’n chwilio am arbenigwyr morol uchelgeisiol a brwdfrydig i gyflawni amrywiaeth o brosiectau i wella cyflwr Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.
Ydych chi’n hyderus, brwdfrydig a threfnus, ac yn chwaraewr tîm da sydd â sgiliau pobl rhagorol?
Ydych chi’n frwdfrydig am yr amgylchedd?
Oes gennych chi arbenigedd yn yr amgylchedd morol a sut mae’n cael ei ddefnyddio a’i reoli?
Hoffech chi weithio fel rhan o raglen gyffrous i wella’r amgylchedd morol o gwmpas Cymru?
Os felly, anfonwch gais nawr….
Beth sy’n digwydd?
Rydym yn sefydlu rhaglen newydd gyffrous a fydd yn para tair blynedd i gynnal gwaith morol gyda chymorth Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Rydym yn chwilio am arbenigwyr morol brwdfrydig i ddarparu cyfres o brosiectau sy'n canolbwyntio ar Rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru:
-
Prosiect Cyngor Gwella Cadwraeth Forol
-
Deall graddfa dirywiad nodweddion Ardal Forol Warchodedig (MPA) oherwydd gwasgfa arfordirol
-
Prosiect Adfer Morfa Heli Glanfa Fawr Tredelerch
-
Ymchwiliadau i ddirywiad rhywogaethau a chynefinoedd dyfnforol yn y Rhwydwaith MPA
-
Prosiect Rheoli Rhywogaethau Goresgynnol Morol (INNS) a Chynllunio Bioddiogelwch Rhwydwaith Eang Arolwg Mamaliaid Morol Acwstig Cymreig (WAMMS)
-
Prosiect Sbwriel Morol
-
Prosiect casglu abwyd
Pa swyddi sydd ar gael?
Isod ceir rhestr lawn o'r swyddi morol newydd. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer nifer o swyddi - un ffurflen gais fesul swydd o'r un radd - yn ogystal â cheisiadau am secondiadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn secondiad, trafodwch gyda'ch cyflogwr a chysylltwch â CNC cyn gynted â phosibl.
Arweinydd Tîm: Prosiectau Morol (203179) – Fel arweinydd y tîm newydd hwn yn CNC byddwch yn gyfrifol am arwain a goruchwylio tîm o arbenigwyr technegol i gyflawni amrediad o brosiectau ymarferol i wella ansawdd dŵr, darparu atebion seiliedig ar natur a gwella cyflwr nodweddion Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.
Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol (203183) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect Gwella Cyngor ar Gadwraeth, gan gynhyrchu asesiadau cyflwr a chyngor cadwraeth newydd ar gyfer holl AGAau ac ACAau morol Cymru.
Swyddog Arbenigol, Rheoli Rhynglanwol (203181) Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio o fewn y tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn rheoli’r gwaith a fydd yn ymchwilio, datblygu a chyflawni camau rheoli sy’n ymwneud â gweithgarwch casglu abwyd ledled Cymru.
Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol (203180) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn arwain y gwaith o gyflawni prosiectau sy’n ymchwilio i’r rhesymau dros ddirywiad amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau yn y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol (203184) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau sy’n ymchwilio i’r rhesymau dros y dirywiad mewn amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau yn y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
Swyddog, Prosiectau Morol (203182) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn cefnogi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â sbwriel morol.
Cynghorydd, Rhwydweithiau Natur Morol (203189) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y tîm Cynllunio a Pholisi Morol ac Arfordirol. Byddwch yn cefnogi gwaith a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o golli cynefinoedd morol ac arfordirol o ganlyniad i wasgfa arfordirol.
Cynghorydd, Ecoleg Forol, Rhwydweithiau Natur (203190) Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Ecosystemau Morol ac Arfordirol. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r sail tystiolaeth mewn perthynas â chasglu abwyd ac yn helpu i sefydlu Arolwg Acwstig Mamaliaid Morol Cymru.