Dysgu gyda natur yn blodeuo yn Ysgol Abercarn, Caerffili

Wedi’i lleoli ar lan Afon Ebwy, ac wedi’i hamgylchynu gan fryniau coediog, mae Ysgol Abercarn, Caerffili wedi bod yn gwneud y gorau o dir yr ysgol i wella iechyd a lles dis-gyblion.

Mae’r 97 o ddisgyblion yn yr ysgol sy’n cyflawni Cam Cynnydd 3 (Blynydd-oedd 4-6) wedi bod yn cael anogaeth i ddysgu yn yr awyr agored a mwynhau’r rhydd-id y mae byd natur yn ei gynnig.

Dyma Mrs S. Rhodes o’r ysgol i rannu ei phrofiadau:

“Ry’n ni wedi bod yn defnyddio rhaglen Jigsaw Outdoors i gyflwyno amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gyflwyno sesiynau dros gyfnod o hanner tymor. Mae gallu cyflwyno sesiynau ar dir yr ysgol yn galluogi disgyblion i ddeall bod byd natur o’u cwmpas i gyd a bod pethau’n newid o hyd drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn wedi annog ein disgyblion i ddod i werthfawrogi’n well yr amgylchedd naturiol y mae tir yr ysgol yn ei gynnig ac mae wedi eu helpu i ddeall fod dim rhaid iddyn nhw deithio’n bell o’u cartrefi i werthfawrogi byd natur. Mae’r holl sesiynau ry’n ni’n eu cyflwyno yn yr awyr agored yn dilyn ac yn cefnogi beth sydd wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Y gobaith yw y bydd y gweithgareddau syml y mae disgyblion yn cymryd rhan ynddyn nhw yn cael eu hail-greu yn eu gerddi eu hunain, eu mannau gwyrdd lleol neu o fewn eu cymuned.”

“Ry’n ni’n teimlo bod treulio amser yn yr awyr agored yn ategu beth mae’r disgyblion wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, trwy gyfoethogi eu gwybodaeth mewn ffordd ymarferol a hwyliog. Yn aml mae’n galluogi disgyblion i ddysgu am bynciau penodol mewn amgylchedd sydd fwyaf addas ar gyfer eu harddull dysgu nhw, er enghraifft dysgwyr gweledol a chinesthetig. Ym mhob un o’r sesiynau, mae cyfathrebu yn allweddol, yn enwedig wrth drafod eu teimladau neu eu barn mewn grŵp, neu wrth weithio mewn tîm i gyflawni tasg. Mae’r sesiynau’n ysbrydoli dysgwyr i barchu’r amgylchedd naturiol ac i fynd ati i wneud pethau mewn ffordd gynaliadwy. Mae dysgwyr yn cael eu hannog i ddangos gofal a bod yn ystyriol o fyd natur a bywyd gwyllt.”

“Mae disgyblion yn mwynhau’r her o ddysgu yn yr awyr agored, ac maen nhw’n gofyn yn aml “pryd fydd hi’n amser i ni fynd i ddysgu tu fas?” Yn cael eu cyflwyno i ystod lawn o alluoedd, mae’r sesiynau’n caniatáu i’r holl ddisgyblion fwynhau a chymryd rhan. Ry’n ni’n gwneud amrywiaeth o weithgareddau gyda nhw, o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, sy’n gweithio’n arbennig o dda yn yr awyr agored, i arddio.  Mae ein dysgwyr yn hoff iawn o dyfu felly ry’n ni wedi dynodi ardal arddio i gefnogi hyn ac mae amrywiaeth o blanhigion a llysiau yn cael eu tyfu. Mae’r disgyblion yn cymryd rhan yn dda iawn yn y gwaith, gan fwynhau’r rhyddid i archwilio, i fod yn greadigol, ac i arbrofi o fewn byd natur.”

“Ry’n ni wedi datblygu amserlen strwythuredig i gyflwyno addysg awyr agored yn gyson drwy gydol y flwyddyn, ac mae hynny wedi helpu disgyblion i ddeall y gwahanol dymhorau a’u heffaith ar fyd natur a bywyd gwyllt. Er enghraifft, ry’n ni’n annog ein dysgwyr i sylwi ar y newidiadau o un tymor i’r llall, er enghraifft y coed yn blaguro, newidiadau yn lliwiau byd natur a’r tymheredd y tu allan. Ry’n ni wedi edrych ar newidiadau yn ymddygiad bywyd gwyllt, ac wedi archwilio digwyddiadau biolegol, fel mudo, dodwy wyau, blodeuo, a gaeafgysgu. Mae geirfa a gafael y dysgwyr ar y derminoleg gywir wedi cynyddu, er enghraifft enwau ar fywyd gwyllt, planhigyn, deilen, coeden. Mae ein sesiynau hefyd yn cysylltu â materion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy’n effeithio ar ein planed ac mae’r disgyblion wedi treulio amser yn dysgu ar gyfer yr amgylchedd naturiol, yn archwilio ffyrdd o gymryd camau rhagweithiol i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru