Disgyblion Ysgol Licswm yn ymchwilio i effaith cais cynllunio ar yr amgylchedd naturiol
Yn ddiweddar, bu Stacey Jones, athrawes ddosbarth cymysg o 18 o ddisgyblion blwyddyn 4, 5 a 6 yn Ysgol Gynradd Licswm, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir yn Wirfoddol yn Sir y Fflint, yn defnyddio’r gweithgareddau yn ein pecyn hyfforddiant ‘Diogelu neu ddatblygu ardal naturiol - dyna’r cwestiwn’ gydag Addysgu STEM gyda’i dysgwyr. Bu Ffion Hughes o’n tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol, yn siarad gyda Stacey i weld beth oedd barn ei dysgwyr am ddyfodol Mynydd Helygain, ger yr ysgol, wedi iddynt gwblhau’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad.
“Yn y gorffennol rydym wedi ei chael hi’n anodd ymgorffori pwnc cyfan gyda gwreiddiau a hanes lleol Licswm oherwydd diffyg gwybodaeth a chynnwys. Ar ôl derbyn yr hyfforddiant, gwelsom sut y byddai modd cysylltu’r amgylchedd naturiol gyda’r gweithgareddau a’r wybodaeth a ddarparwyd – fe wnaethom ni ddefnyddio’r pwnc drwy gydol tymor yr haf.”
“Dechreuodd y dysgu gyda’r disgyblion yn derbyn ‘llythyr’ trwy’r post trwy law pennaeth yr ysgol. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am gais cynllunio i Gyngor Sir y Fflint i adeiladu parc manwerthu ar Fynydd Helygain. Gan fod y dysgwyr yn lleol, roedd y Cyngor yn gofyn am gymorth y disgyblion i adolygu’r cais. Fe wnes i esgus ‘anghofio’ ein pwnc ar gyfer yr haf gan ein bod wedi derbyn mater llawer pwysicach i'w ymchwilio!”
“Aeth y disgyblion ati ar unwaith i gasglu gwybodaeth am Fynydd Helygain o ran ei leoliad, ei arwynebedd a’i fywyd gwyllt cyn mynd ati i greu ‘poster’, y maen nhw i gyd yn falch iawn ohono! Buont yn ymchwilio i hanes yr ardal ac yn cydweithio i lunio llinell amser ar gyfer Mynydd Helygain. Arweiniodd hynny at edrych ar stori’r creu mewn perthynas â damcaniaethau gwyddonol o sut cafodd y byd ei greu – cysylltiad pwysig i ni gan ein bod yn ysgol Eglwys.“
“Llwyddodd y pwnc i feithrin llawer o gysylltiadau gyda’r gymuned leol - daeth Ieuan ap Siôn sy’n byw yn lleol ac sy’n wybodus iawn am Fynydd Helygain i’r ysgol i rannu ei wybodaeth. Roedd Mynydd Helygain yn un o’r cynhyrchwyr plwm mwyaf ym Mhrydain, ac mae cerrig wedi cael eu chwarela o’r ardal ers cannoedd o flynyddoedd. Erbyn heddiw, mae chwareli mawr, peirianyddol yn gweithredu yn yr ardal. Sut fyddai’r cais hwn yn effeithio ar y chwareli? Fe drefnwyd ymweliad â chwarel Cemex ar Fynydd Helygain ac fe gafwyd cyfle i weld y graig yn cael ei ffrwydro.”
“Bu’r plant hefyd yn ymchwilio i anifeiliaid brodorol ar Fynydd Helygain, gan edrych ar gadwyni bwyd ac effaith gweithgaredd dynol arnynt. Cafwyd cyfle i feithrin eu sgiliau braslunio wrth iddyn nhw astudio a braslunio pryfed sy’n byw ar y Mynydd, a chawsant arddangos eu gwaith yng Nghanolfan Gymunedol Helygain fel rhan o Bioblitz a gynhaliwyd gan Grŵp Cadwraeth Natur Mynydd Helygain. Gan ddefnyddio’r ardaloedd y tu allan i’r ysgol a theithiau i’r Mynydd, cynhaliodd y plant arbrofion gwyddonol i fonitro ansawdd yr aer, golau a lefelau sŵn, gan ystyried sut fyddai’r parc manwerthu’n effeithio ar y rhain pe bai’n cael ei adeiladu. Cyflwynwyd eu barn a’u canfyddiadau terfynol i Gyngor Cymuned Ysceifiog (mae un o lywodraethwyr yr ysgol hefyd ar y cyngor) i’w hadolygu a’u cyflwyno yng nghyfarfod cynllunio’r cyngor.
“Ar ddechrau’r cyfnod pan dderbyniodd y plant y llythyr yn wreiddiol, roedd teimladau cymysg am adeiladu’r parc manwerthu, gyda nifer yn gweld y manteision o gael siopau llawer agosach nag oedden nhw ar hyn o bryd, ond roedd nifer yn ddim yn ymwybodol o’r effaith ar yr amgylchedd lleol. Ar ddiwedd yr astudiaeth pan gyflwynodd y plant eu safbwyntiau, roedd y plant i gyd yn erbyn adeiladu’r parc manwerthu ac roedd ganddyn nhw sawl rheswm pam na ddylid gwneud hynny. Un o’r deiliannau a ddaeth i’r amlwg o’r astudiaeth oedd bod y plant wedi datblygu gwerthfawrogiad dwfn o’r hyn sydd ar eu stepen drws, sef eu cynefin. Mae ganddyn nhw well gwerthfawrogiad bellach o fywyd gwyllt a phrydferthwch naturiol yr ardal lle maen nhw’n byw. Mae eu gwybodaeth o bwysigrwydd hanesyddol a chrefyddol yr ardal hefyd wedi gwella. Maen nhw’n teimlo’n gryf iawn ynghylch diogelu'r gwerthoedd hyn trwy eu gweithredoedd eu hunain ond hefyd trwy addysgu eraill o fewn y gymuned ehangach. Yn y dyfodol gobeithio y byddan nhw’n tyfu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yn yr ardal.”
“Pam benderfynodd Stacey dderbyn y senario a’r syniadau gafodd eu rhannu yn yr hyfforddiant a’u rhannu gyda’i dysgwyr? “Roedd yn gweddu ac yn asio mor berffaith fel pwnc o fewn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Roedd y cysylltiadau gyda phob un o’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad yn gadarn ac wedi’u cynllunio’n dda, ac roedd yn cwmpasu’r cyfan. Hefyd roedd yma gysylltiadau cryf â’r ardal leol, cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau â’r gymuned leol a chysylltiadau cryf ag Addysg Grefyddol yr oedden yn edrych i’w datblygu gan ein bod yn ysgol Eglwys gymharol newydd. Roedd y Pedwar Diben yn amlwg yn ganolog i’r broses gynllunio ar gyfer y cwrs, yr adnoddau a’r deunyddiau, felly roedd cyflwyno’r pwnc yn helpu fy nysgwyr i ddatblygu ar draws y pedwar diben, ond yn benodol i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus.”
“Un o’r anawsterau wrth ymgymryd ag unrhyw fath o destun sy’n astudio eich ardal leol ydy’r diffyg adnoddau a deunydd darllen ar eich cyfer chi a’r plant. Mae llai byth o adnoddau ar gael os ydych chi’n byw mewn tref wledig neu bentref. Mae edrych ar eich ardal leol a’ch cynefin yn rhan greiddiol o’r cwricwlwm newydd ond mae’n gallu cymryd llawer iawn o amser i ymchwilio, casglu a choladu darnau o wybodaeth ar gyfer paratoi’r testun. Felly, roedd yr ymchwil gefndirol a’r adnoddau a ddarparwyd gan y cwrs yn hynod werthfawr. Byddai wedi cymryd cryn amser i greu a choladu’r adnoddau - amser nad oes ar gael yn aml gan athrawon. Roedden nhw’n adnoddau amhrisiadwy! Roedd cael y sylfaen ar gyfer y pwnc a’r gweithgareddau yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar dreulio amser yn eu mireinio i fod yn addas ar gyfer plant rydw i’n eu haddysgu. Mae’n gyfle i mi blethu a chysylltu hanes lleol y pentref lle mae’r ysgol, ond yn bwysicach fyth, i greu a meithrin cysylltiadau o fewn y gymuned leol a threfnu teithiau.”
“Dyma’r pwnc cyntaf i mi ei gyflwyno ac rydw i’n teimlo’n gryf bod y ddarpariaeth yn cwmpasu pob un o’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad, ac nad oedd angen addysgu unrhyw beth yn unigol neu ei wasgu i mewn ar y diwedd. Roedd y cysylltiadau i gyd yno ac roedd hynny’n caniatáu dilyniant ar draws y pwnc gan lifo o un elfen i’r llall yn naturiol. Mae cynnal y gweithgareddau a’r senario wedi fy ngwthio’n broffesiynol ac yn bersonol gan fy mod yn teimlo ei fod yn bwnc arloesol a blaengar o ran y cwricwlwm newydd.”