Blog o'r gors - Ddoe a heddiw, wyneb newidiol cadwraeth mawndir
Wrth i Wythnos Hinsawdd Cymru gychwyn, rydym yn edrych ar adfer mawndir fel ateb sy’n seiliedig ar natur wrth frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn ystyried sut mae dulliau adfer wedi newid dros y blynyddoedd, gan ganolbwyntio ar waith Prosiect Adfer Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Beth yw cyforgorsydd?
Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ac oherwydd eu bod o ddiddordeb a phwysigrwydd amgylcheddol maen nhw wedi’u dynodi yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).
Dim ond saith cyforgors yng Nghymru sydd wedi'u dynodi'n safleoedd ACA, ac mae'r rhain yn cynrychioli dros 10% o adnodd cyforgorsydd ACA y DU.
Mae cyforgorsydd Cors Fochno a Chors Caron yng Ngheredigion yn ddau o'r saith safle ac mae’r ddwy gors yma’n cynrychioli'r enghreifftiau mwyaf o gynefin cyforgors sydd ar dir isel, a hynny yn unrhyw fan yn y DU.
Cafodd cyforgorsydd yr enw hwnnw oherwydd eu siâp cromennog. Maent yn ardaloedd o fawn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd ac yn aml gallant gyrraedd dyfnder o 12 metr. Mae mawn Cors Fochno yn cyrraedd hyd at 8 metr o ddyfnder a mawn Cors Caron hyd at 12 metr o ddyfnder.
Mae'r cyforgorsydd yn gartref i blanhigion prin fel migwyn (sphagnum - mwsogl cors) a chwe math o blanhigion sy'n bwyta pryfed e.e. pob un o dair rhywogaeth y gwlithlys a’r chwysigenddail.
Migwyn yw’r sylfaen gwaelodol mewn cyforgorsydd ac wrth iddo ddadelfennu'n araf dan amodau dwrlawn mae'n ffurfio pridd mawn sydd o liw brown tywyll.
Mae gweddillion planhigion sydd wedi pydru’n rhannol neu heb ddadelfennu, sef deunydd crai mawn, yn storfa garbon, ac mae hyn yn golygu bod mawndiroedd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron a Chors Fochno yn un o'r sbyngau carbon mwyaf effeithiol ar wyneb y Ddaear.
Datrysiadau yn seiliedig ar fyd natur
Caiff atebion sy'n seiliedig ar fyd natur eu hysbrydoli a'u darparu gan natur a phrosesau naturiol. Maen nhw’n cynnig dulliau cost-effeithiol o fynd i'r afael â rhai o'n heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mwyaf, gan gynnwys cyflwyno addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd trwy gynnwys gwytnwch yn ein hadnoddau naturiol a'n hecosystemau.
Mae adfer a chadwraeth mawndir yn ateb sy'n seiliedig ar natur ac mae'n cynnig cyfle cost isel, technoleg isel ac effaith uchel er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd byd-eang.
Trwy adfer mawndiroedd a'u gwneud yn fwy gwydn, gallwn atal gollyngiadau sylweddol o allyriadau nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. Os nad yw cyforgorsydd mewn cyflwr da, maen nhw'n rhyddhau carbon niweidiol i'r atmosffer.
Ar yr un pryd, gall mawndiroedd iach greu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, cynnig amddiffyniad rhag llifogydd, a bod yn lleoedd i ni eu mwynhau. Gallant hefyd ddenu twristiaid gan hybu economïau lleol.
Mae prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yn adfer saith safle lle ceir cyforgorsydd mawndirol ACA yng Nghymru. Dyma’r safleoedd: GNG Cors Caron a Chors Fochno yng Ngheredigion ynghyd â safleoedd ger Trawsfynydd, Abergwaun, Crosshands, Llanfair ym Muallt a Chrughywel.
Bydd y gwaith hwn yn helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd trwy greu mawn newydd er mwyn cadw mwy o garbon dan glo. Bydd hefyd yn helpu i wella ansawdd dŵr ac yn helpu storio ac arafu llif y dŵr er mwyn cynorthwyo i leihau llifogydd o afonydd lleol.
Ddoe a heddiw - sut mae’r gwaith o adfer mawndiroedd wedi newid
Rydym yn gwybod bod y safleoedd hyn wedi dioddef o ddraenio a thorri mawn yn y gorffennol, ac mae hyn wedi effeithio ar lefelau'r dŵr. Mae'r lefelau hyn yn is na'r hyn y dylent fod yn achos cyforgors iach – yn enwedig yn yr haf.
Mae lefelau dŵr isel wedi caniatáu i weiriau a phrysgwydd sefydlu a ffynnu ar y safleoedd, ac mae hyn wedi arwain at laswellt Molinia yn ennill lle blaenllaw ar ran o’r corsydd ac wedi rhoi cyfle i goed bach hadu a thyfu.
O’r 1970au i’r 1990au, mewn ymgais i wyrdroi’r sychu hwn, defnyddiwyd dull adfer o’r enw ‘byndio pwysau’ (‘pressure bunding’) ar safleoedd cyforgorsydd dynodedig yn y DU ac Iwerddon - gan gynnwys ar Gors Fochno a Chors Caron.
Mae byndiau yn cloddiau mawn sy'n gweithredu fel argaeau, ac yn dal dŵr ar y gyforgors gan arafu llif y dŵr fel bod y gors yn parhau'n wlyb ac yn feddal - amodau delfrydol i blanhigion pwysig fel migwyn (mwsoglau cors) dyfu.
Creodd y gwaith byndio gwreiddiol yn y 70au a'r 80au fyndiau oedd bron i ddau fetr o uchder, a byddai pwysau'r bwnd yn gwasgu ar wyneb y gors (dyna darddiad yr enw byndiau pwysau) gan greu sêl i atal dŵr rhag llifo oddi ar gromen y gyforgors.
Adeiladwyd y ‘byndiau pwysau’ mewn celloedd neu adrannau siâp sgwâr gan mai dyma oedd y dull gweithredu gorau ar gyfer cadw dŵr ar gyforgorsydd, yn ôl y gred ar y pryd. Gellir gweld hyd heddiw, o luniau o'r awyr, y raddfa (gweler llun isod) a'r ymdrech a wnaed wrth y gwaith hwn ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron.
Erbyn hyn, mae arbenigwyr ym maes adfer mawndir yn credu bod y ‘byndiau pwysau’ gwreiddiol wedi bod yn rhy uchel, am fod hyn wedi peri i ran uchaf y bwnd sychu gan arwain at goed yn ymsefydlu ac yna’n tyfu. Dros amser, parodd hyn i hyd yn oed fwy o'r bwnd sychu a chracio a mynd yn aneffeithiol.
Pryder arall gafodd ei ddatgelu wrth fabwysiadu’r dull hwn oedd bod ‘byndiau pwysau’ yn creu ardaloedd mawr a phyllau o ddŵr agored. Gan fod rhai cyforgorsydd yn safleoedd agored, mae’r gwynt yn creu crychdonnau a thonnau bach ar y pyllau agored hyn sy'n atal migwyn rhag sefydlu. Mae llawer o'r pyllau hyn yn dal heb eu gorchuddio â phlanhigion ac yn foel heddiw, fel y gwelwch yn y llun isod.
Yn 2010 datblygwyd dull cymharol newydd am y tro cyntaf gan brosiect Cumbria Bog LIFE a elwir ‘byndio isel’. Roedd yr effeithiau mor gadarnhaol nes bod y dechneg bellach wedi ei defnyddio gan nifer o brosiectau adfer mawndir eraill ar draws y DU. Defnyddir y dull hwn gan Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Techneg arloesol yn cael effaith ar unwaith
Mae'r prosiect wedi bod yn creu byndiau cyfuchlinol lefel isel ar raddfa fawr ers 2020. Caiff y byndio ei godi hyd at 25cm o uchder gan ddilyn cyfuchliniau naturiol cromenni'r cyforgorsydd.
Bydd y dull hwn yn adfer lefelau dŵr naturiol trwy gau unrhyw dyllau neu graciau yn arwyneb y gors, gan arafu llif y dŵr sy’n dianc oddi yno a thrwy'r gors. Bydd yr uchder cymharol isel yn sicrhau bod y mawn yn y byndiau'n aros yn wlyb ac yn atal unrhyw goed rhag ymsefydlu yn y tymor hir.
Mae'r prosiect eisoes yn elwa o'r gwaith, gyda sawl metr o ddŵr yn weladwy ac yn cael ei ddal yn ôl i fyny llethr y byndiau hynny sydd wedi eu hadeiladu hyd yma (gweler y llun isod).
Bydd gwaith ailbroffilio ar y ‘byndiau pwysau’ 2metr o uchder gwreiddiol hefyd yn digwydd gan y prosiect a bydd yn anelu at leihau uchder crib y bwnd ac, ar yr un pryd, troi’r graddiannau yn rhai mwy bas.
Bydd hyn o fudd i fywyd gwyllt ac yn creu ardaloedd bwydo mwy bas ar gyfer adar fel y pibydd coesgoch a’r gïach cyffredin, tra bydd creu pyllau migwyn bas yn fannau bridio perffaith ar gyfer infertebratau prin fel y mursennod bach coch yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf.
At ei gilydd, mae'r prosiect yn anelu at greu bron i 40 milltir (64km) o fyndiau cyfuchlin lefel isel ac ailbroffilio 22 milltir (35km) o fyndiau pwysau gwreiddiol a hynny dros ychydig flynyddoedd nesaf y prosiect. Dyma'r gwaith mwyaf y mae unrhyw brosiect mawndir yng Nghymru wedi rhoi cynnig arno.
Trwy adfer dros 900 hectar o gyforgorsydd yng Nghymru, amcangyfrifir y bydd prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yn gallu gweld gostyngiad o tua 400 cilodunnell y flwyddyn mewn allyriadau CO2 - sy'n hafal i oddeutu 7% o'r holl allyriadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yng Nghymru, a 76% o gyfanswm allyriadau CO2 Ceredigion.
Derbyniodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyllid ar gyfer y prosiect o grant rhaglen LIFE yr UE, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE dilynwch ni ar Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu Twitter @Welshraisedbog