Adfywio ein corsydd prin yng Nghymru
Gall gwaith adfer i dynnu a thrin coed fod yn bwnc dadleuol, ond mae’n rhan hanfodol o waith Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE i wella cyflwr cynefin prinnaf Cymru – cyforgors yr iseldir.
Mae Jake White, Swyddog Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE, yn esbonio mwy am y gwaith a pham ei fod yn digwydd…
Nod ein prosiect yw adfer saith o'r enghreifftiau gorau oll o safleoedd cyforgors yr iseldir yng Nghymru.
Trwy cael gwared ar brysgwydd (coed bach) wedi'u gwasgaru ar draws 379 hectar (937 erw) o gyforgorsydd yr iseldir, bydd y gwaith yn adfer cyflwr y cynefin pwysig hwn i gyflwr mwy ffafriol.
Mae'r safleoedd wedi dioddef oherwydd rheolaeth wael ar wlyptiroedd yn y gorffennol, gan achosi i blanhigion goresgynnol gymryd drosodd, a chymryd lle planhigion pwysig fel migwyn (mwsogl y gors).
Mae prysgwydd goresgynnol, yn enwedig bedw a helyg, wedi ennill tir ar bump o'r saith safle wrth iddynt fynd yn sychach.
Oedddech chi’n gwybod bod coed yn gallu amsugno hyd at 100 galwyn o ddŵr y dydd? Mae hynny'n cyfateb i ychydig dros ddau faddon. Mae hyn yn sychu'r gors ac yn atal migwyn hanfodol rhag tyfu.
Bydd torri a thrin coed bach yn helpu i gadw'r corsydd pwysig hyn yn wlyb ac yn sbyngaidd, gan ganiatáu goroesiad mwsoglau a phlanhigion a geir yn naturiol mewn corsydd.
Mae prysgwydd yn cael ei dynnu o Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron ger Tregaron, Cors Fochno, sydd yn rhan o GNG Dyfi ger y Borth a GNG Rhos Goch ger Llanfair-ym-Muallt.
Mae prysgwydd wedi'u gwasgaru ar draws 187 hectar (462 erw) yn GNG Cors Caron yn cael eu trin eleni. Bydd y gwaith yn torri boncyffion ac wedyn chwistrellu chwynladdwr cymeradwy i mewn i’r cyff.
Uchod: Gwaith cyn ac ar ôl tynnu prysgwydd yng Nghors Cors Caron – credyd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae chwistrellu’r cyff yn golygu drilio twll yng nghyff neu fonyn coeden sydd wedi'i thargedu a chwistrellu neu osod capsiwl â chwynladdwr yn y cyff neu'r bonyn. Mae hyn yn rhyddhau'r chwynladdwr yn araf iawn, a thros nifer o flynyddoedd mae'r cyff neu'r bonyn yn edwino ac yn pydru.
Uchod: Gwaith chwistrellu – llun gan Drew Buckley Photography.
Mae'r gwaith o drin prysgwydd gwasgaredig wedi bod yn mynd rhagddo ar draws ardal 354 hectar (875 erw) ar Gors Fochno dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phrysgwydd trwchus wedi'u tynnu dros 5 hectar (12 erw) eleni.
Bydd y gwaith yn parhau ar rannau newydd o'r safle, a bydd gwaith i ail-drin prysgwydd a rhododendron a gafodd eu trin yn y gorffennol hefyd yn cael ei wneud.
Mae contractwyr hefyd yn chwistrellu prysgwydd wedi'u gwasgaru ar draws ardal 16 hectar (40 erw) yn GNG Rhos Goch ger Llanfair-ym-muallt.
Mae tystiolaeth a ddatgelwyd i ni yng nghraidd y mawn yng Nghors Fochno a Chors Caron wedi dangos nad oedd rhywogaethau coediog yn rhan o orchudd llystyfiant naturiol y safleoedd hyn.
Felly, rydym yn gobeithio y bydd tynnu a thrin coed sy'n tyfu ar y corsydd ac yn agos atynt yn helpu i annog mwsoglau pwysig y corsydd hyn i dyfu, gan helpu i gadw'r corsydd yn wlyb ac yn sbyngaidd a'u hadfer i'w cyflwr naturiol.
Gellir ystyried cyforgorsydd mewn cyflwr da fel ateb naturiol o fewn ein hecosystemau. Maent yn helpu i atal llifogydd drwy storio llawer iawn o ddŵr ac maent yn gweithredu fel hidlydd i wella ansawdd dŵr. Mae'r mawn hefyd yn storio carbon o'r atmosffer gan helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adfer ewch i'n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu'r dudalen Twitter @Welshraisedbog