Gwella ein rheolaeth o orlifau stormydd
Nid oes gwadu bod y pwysau sy'n wynebu ein dyfroedd yn fwy nag erioed.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae diddordeb y cyhoedd yng nghyflwr y dŵr yn ein hafonydd ac yn ein moroedd wedi cynyddu gyda lleisiau o bob rhan o’r gymdeithas yn galw am weithredu brys.
Mae poblogaeth gynyddol, newid yn yr hinsawdd a llygredd parhaus ein dyfroedd yn cael effaith enfawr ar ein hamgylchedd.
Mae hefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar ein system garthffosiaeth sy’n heneiddio – un sy’n dyddio’n ôl i Oes Fictoria, a ddyfeisiwyd gan Syr Joseph William Bazalgette yn dilyn Drewdod Mawr Llundain ym 1858.
Cyn iddo gyflwyno draeniau a charthffosydd tanddaearol, roedd Afon Tafwys yn cael ei thrin fel carthffos agored, ac roedd clefydau sy’n cael eu cludo gan ddŵr fel colera a thwymyn teiffoid yn rhemp.
Yn amlwg, mae technoleg a chymdeithas wedi datblygu'n aruthrol ers oes Fictoria, ond mae'n syndod bod llawer o'n system garthffosiaeth yn y DU yn dal i ddibynnu ar yr un egwyddorion.
Dyma'r hyn rydyn ni'n ei alw'n system garthffosiaeth gyfun. Mae hyn yn golygu bod yr holl ddŵr gwastraff o'ch cartref (o'ch tŷ bach, peiriant golchi a sinc y gegin) yn cael ei ddraenio i bibell garthffosiaeth sydd hefyd yn casglu'r glaw a'r dŵr budr o'n ffyrdd a'n strydoedd.
Mae'r holl ddŵr budr hwnnw gyda’i gilydd yn cael ei gario mewn pibellau i waith trin carthion lle mae'n cael ei drin cyn iddo gael ei ryddhau'n ddiogel yn ôl i'r amgylchedd.
Mae gorlifoedd storm yn cael eu cynnwys yn y system i ryddhau’r pwysau pan fydd y system garthffosiaeth dan bwysau - pan fo gormod o law yn mynd i mewn i'r system, neu pan fydd pibell yn cael ei blocio.
Rydym ni’n rhoi trwyddedau i ganiatáu i ddŵr storm a charthffosiaeth heb eu trin gael eu rhyddhau i afonydd, nentydd neu'r môr heb driniaeth yn y fath amgylchiadau i leihau'r risg iddynt gronni a gorlifo i strydoedd, ffyrdd a chartrefi pobl.
Fodd bynnag, mae'r system a oedd yn arloesol ar un adeg bellach yn gorfod delio â chyfeintiau uwch o ddŵr gwastraff, mwy o ddŵr wyneb o ffyrdd ac ardaloedd wyneb caled a glawiad mwy dwys sy'n llawer mwy na’r hyn y gall ymdopi ag ef.
Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym yn disgwyl i gwmnïau dŵr reoli eu system dŵr gwastraff yn effeithiol, buddsoddi digon ynddi a chadw at yr amodau o fewn eu trwyddedau amgylcheddol.
Mae gennym dystiolaeth nad yw rhai systemau'n gweithredu fel y cawsant eu cynllunio i weithredu a bod dŵr gwastraff yn gollwng trwy orlifoedd storm yn amlach nag a ganiateir yn ô leu trwydded, gan gael effaith ar yr amgylchedd a mwynhad y bobl ohono.
Mae cefnogaeth y cyhoedd i'n hafonydd yn wych
Rydym am weld byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.
Gwnaeth pandemig Covid i ni gyd werthfawrogi gwerth ein hamgylchedd. Bu’n help i lawer ohonon ni oroesi’r cyfnod tywyll ac ansicr hwnnw.
Mae'r cynnydd mewn gweithgareddau dŵr fel nofio gwyllt, padlfyrddio a physgota wedi rhoi chwyddwydr ar ansawdd ein dyfroedd. Ac yn briodol felly, mae'n wych gweld cymaint o ddiddordeb yn ein hamgylchedd naturiol.
Felly beth allwn ni ei wneud i sicrhau y gall ein seilwaith etifeddol barhau i ddiwallu anghenion yr amgylchedd a'r gymdeithas sydd ohoni?
Nid yw carthffosydd newydd bellach yn cael eu hadeiladu yn yr un ffordd, ond amcangyfrifir bod tua 60% o'n tai yng Nghymru yn dal i ddibynnu ar y system garthffosiaeth gyfunol. Ac mae 'na dros 2000 o orlifoedd storm yng Nghymru.
Er mwyn cael gwared ar yr angen amdanyn nhw byddai angen i gwmnïau dŵr ail-beiriannu rhannau helaeth o'r rhwydwaith tanddaearol i wahanu dŵr gwastraff y cartref a dŵr glaw
Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y byddai hyn yn costio rhwng £7 biliwn - £12 biliwn.
Mae rheoleiddwyr fel ni ac Ofwat wedi bod yn glir bod y defnydd presennol o orlifoedd storm yn annerbyniol a bod angen newid.
Heb fuddsoddiad sylweddol, a newid aruthrol ym mherfformiad cwmnïau dŵr, bydd yr amgylchedd yn parhau i dalu'r pris.
Cymryd camau i atal gollyngiadau heddiw rhag dod yn broblem ar gyfer y dyfodol
Ym mis Gorffennaf 2022 sefydlwyd Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru. Gyda’i gilydd mae’r aelodau'n ceisio lleihau effeithiau gorlifoedd storm ar ein hafonydd, gwella rheoleiddio ac addysgu cymunedau ar gamddefnyddio carthffosydd.
Trwy ein gwaith gyda'r Tasglu rydyn ni wedi bod yn adolygu ac yn gwneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni’n rheoleiddio gorlifoedd storm yng Nghymru.
Yr wythnos hon, rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau llymach newydd i'r cwmnïau dŵr yng Nghymru, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, ynghylch yr amodau y mae'n dderbyniol gollwng gorlifoedd storm oddi tanyn nhw.
Bydd hyn yn ein galluogi ni fel rheoleiddiwr i nodi'n well ble y gallai asedau fod yn achosi niwed amgylcheddol a helpu'r cwmnïau dŵr i ganolbwyntio eu gwaith cynnal a chadw a'u buddsoddiad yn well.
Bydd y canllawiau yn gwella'r ffordd y mae cwmnïau dŵr yn cynllunio, yn blaenoriaethu ac yn darparu gwelliannau i fynd i'r afael ag effaith amgylcheddol gollyngiadau o orlifoedd storm a sicrhau bod gan yr holl orlifoedd storm statws boddhaol.
Maent hefyd yn rhoi gwell eglurder i weithredwyr a rheoleiddwyr ynghylch pryd y mae gollyngiadau yn mynd yn groes i’w trwydded amgylcheddol ac yn ein galluogi i gryfhau ein hymateb gorfodi.Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi canllawiau sy'n amlinellu ein safbwynt rheoleiddio ar orlifoedd heb drwydded, a'r camau y mae'n rhaid i gwmnïau dŵr eu cymryd i'n hysbysu o orlifoedd sydd newydd eu nodi ac sydd heb eu caniatáu.
Yng nghynllun gweithredu'r Tasglu rydyn ni wedi ymrwymo i raglen waith i ddod â'r holl orlifoedd heb drwydded o dan ein rheolaeth reoleiddio. Mae'r gwaith hwn yn parhau.
Hefyd yr wythnos hon mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd, adroddiad Tystiolaeth ar Orlifoedd Storm yng Nghymru, gan yr ymgynghorwyr Stantec.
Mae hwn yn cymharu costau a buddion gwahanol opsiynau polisi ar gyfer rheoleiddio gorlifoedd ac mae'n cynnwys opsiynau peirianneg galed yn ogystal ag atebion sy'n seiliedig ar natur.
Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir nad oes atebion tymor byr er mwyn cyflawni'r canlyniadau yr ydym am eu gweld; mae angen i ni gymryd ymagwedd hirdymor.
Bydd y Tasglu nawr yn ystyried yn ofalus yr opsiynau i ystyried y camau nesaf priodol.
Chwilio am y canlyniadau gorau ar gyfer yr amgylchedd
Yn gynharach y mis hwn, cyflwynodd cwmnïau dŵr eu cynlluniau busnes drafft a'u hymrwymiadau ariannu cysylltiedig i Ofwat fel rhan o broses Adolygu Prisiau Ofwat. Dyma ein cyfle i sicrhau ymrwymiad a buddsoddiad gan gwmnïau dŵr ar gyfer gwelliannau amgylcheddol mawr eu hangen.
Yn ein trafodaethau gyda'r cwmnïau dŵr, rydyn ni wedi bod yn glir iawn am ein disgwyliadau ac wedi gwthio am raglen sylweddol o waith yn ystod y cyfnod buddsoddi nesaf hwn i leihau llygredd a gwella ansawdd dŵr.
Ar ôl eu cwblhau ac ar ôl i Ofwat gytuno arnyn nhw bydd y cynlluniau busnes a'r cyllid cysylltiedig yn cael eu darparu gan y cwmnïau dŵr rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2030.
Rydyn ni’n parhau i herio cwmnïau dŵr i wella eu perfformiad ar draws yr holl asedau ac i sicrhau bod gorlifoedd yn cael eu rheoli'n iawn.
Mae hyn yn golygu'r cymysgedd cywir o waith cynnal a chadw, rheoli a buddsoddi gan gwmnïau dŵr, ochr yn ochr â gweithredu i leihau dŵr wyneb sy'n mynd i garthffosydd.
Mae prosiectau fel Grangetown Werddach, a GlawLif Llanelli Dŵr Cymru eisoes yn dod o hyd i atebion arloesol i helpu i leddfu'r pwysau ar y system.
Gallwn ni i gyd wneud ein rhan
Gallwn ni i gyd helpu, pob un ohonon ni. Trwy fod yn ofalus am yr hyn rydyn ni’n fflysio lawr ein toiledau ac yn arllwys lawr ein sinciau, gallwn atal rhwystrau, neu 'fynyddoedd braster' a all niweidio'r seilwaith neu achosi i orlifoedd storm weithredu'n ddiangen.
Os ydyn ni’n defnyddio dŵr yn ddoeth, ac yn effeithlon o amgylch y cartref, gallwn gyfyngu ar faint o ddŵr sy'n mynd i mewn i'r garthffos.
Mae newidiadau a wnawn i'n heiddo, megis dewis gerddi blaen athraidd a chasglu dŵr glaw mewn casgenni dŵr, i gyd yn ffyrdd sy'n cyfrannu at arafu neu gyfyngu ar faint o ddŵr sy'n mynd i mewn i'r garthffos.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gallwch helpu drwy ymgyrch Gallwch Chi Stopio'r Bloc Dŵr Cymru.