Canllawiau i gasglwyr a thrinwyr gwastraff: Casgliadau gwastraff ar wahân
Beth sy'n digwydd?
O 6 Ebrill 2024, bydd yn gyfraith i bob eiddo annomestig megis busnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu.
Bydd yn ofynnol i gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunyddiau ailgylchu sy'n rheoli gwastraff tebyg i wastraff domestig o weithleoedd sicrhau bod ffrydiau gwastraff penodol yn cael eu casglu a'u cadw ar wahân.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r gyfraith hon i wella ansawdd a maint y deunydd ailgylchadwy yr ydym yn ei gynhyrchu.
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r awdurdod rheoleiddio ar gyfer y gofynion newydd hyn.
Beth mae'r deddfau newydd yn ei olygu i gludwyr gwastraff, broceriaid a gwerthwyr, cyfleusterau gwastraff trwyddedig a gosodiadau gwastraff?
Y gofynion gwahanu
Bydd angen i chi sicrhau bod y mathau penodedig o wastraff yn cael eu casglu ar wahân a'u cadw ar wahân i fathau eraill o wastraff sydd wedi'u gwahanu a mathau eraill o wastraff, sylweddau neu eitemau.
Gall hyn fod, er enghraifft, o fewn adran hunangynhwysol ar wahân ar gerbyd aml-adran neu mewn cerbydau ar wahân.
Y ffrydiau gwastraff penodedig sydd wedi’u cynnwys o dan y gofynion gwahanu yw:
- bwyd - ar gyfer safleoedd sy’n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos
- papur a cherdyn
- gwydr
- plastig, cartonau a metelau a phecynnau cyfansawdd ffibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg
- cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu
- tecstilau heb eu gwerthu
Gallwch gymysgu papur a cherdyn gyda'i gilydd yn yr un cynhwysydd, a gallwch gymysgu plastig, cartonau a metel gyda'i gilydd.
Mae angen i chi gasglu gwastraff bwyd ar wahân o weithleoedd sy'n cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos, fel arall gellir ei gasglu gyda'r gwastraff gweddilliol.
Rhaid i chi gydymffurfio â hyn tra bod y gwastraff yn eich meddiant a phan fyddwch yn trosglwyddo'r gwastraff i rywun arall.
Nid oes rhaid i chi gasglu'r ystod lawn o wastraff wedi'i wahanu. Gallech is-gontractio’r casgliad o ddeunyddiau penodol os oes angen, neu efallai y bydd deiliad y gweithle am gael contractau ar wahân gyda mwy nag un casglwr.
Gwaharddiadau i dirlenwi a llosgi
Mae angen i gasglwyr a thrinwyr gwastraff fod yn ymwybodol o'r cyfreithiau sy'n gwahardd gwastraff a gesglir ar wahân o ffynonellau domestig ac annomestig rhag cael ei losgi a’i anfon i safleoedd tirlenwi.
Mae'r cyfreithiau newydd hefyd yn ymestyn y gwaharddiadau presennol i safleoedd tirlenwi a llosgi fel y manylir isod.
Gwaharddiadau i dirlenwi’r deunyddiau canlynol lle mae’r rhain wedi’u casglu ar wahân:
- Gwastraff bwyd
- Plastig, metelau a chartonau
- Papur a chardbord
- Gwydr
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu
- Tecstilau
A gwaharddiad ar bob pren gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Gwaharddiadau i losgi’r deunyddiau canlynol lle mae’r rhain wedi’u casglu ar wahân:
- Gwastraff bwyd
- Plastig, metelau a chartonau
- Papur a chardbord
- Gwydr
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu
- Tecstilau heb eu gwerthu
Sut gallwch chi baratoi eich cwsmeriaid
Yn ogystal â gwneud yn siŵr eich bod yn barod, efallai y byddwch am helpu eich cwsmeriaid drwy wneud y canlynol:
- Rhoi gwybodaeth iddynt am y gyfraith newydd a sut y bydd y ffordd y mae angen iddynt gyflwyno eu gwastraff i'w gasglu yn newid.
- Darparu gwasanaeth casglu sy'n cydymffurfio wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion eich cwsmer, gyda chasgliadau dibynadwy a rheolaidd.
- Darparu gwybodaeth am y mathau o ddeunyddiau ym mhob ffrwd wastraff y gellir eu derbyn i'w hailgylchu ym mhob cynhwysydd.
- Rhoi gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaeth yn effeithiol. Er enghraifft, trwy lanhau a sychu deunyddiau i leihau halogiad.
- Labelu biniau a chynwysyddion yn glir i nodi pa ddeunyddiau y dylid eu cynnwys a'u gwahardd.
- Ystyried system o hapwiriadau i wirio am unrhyw ddeunyddiau nad ydynt yn cael eu gwahanu'n gywir, rhoi adborth a'u helpu i'w gywiro, a chael polisi a gweithdrefnau clir ar gyfer sut y byddwch yn delio â materion halogi.
- Darparu gwybodaeth am sut y caiff y deunydd ailgylchu ei reoli, a sut y caiff ei ailgylchu.
Mae adnoddau ar gael i chi gael mwy o help a gwybodaeth
Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Mae gan wefan newydd WRAP, Y Busnes o Ailgylchu Cymru, ddeunyddiau a chanllawiau y gallwch eu rhannu â chwsmeriaid. Bellach mae holl eiconau llif deunydd ar gael i'w lawrlwytho, gan gynnwys un ar gyfer plastig, cartonau a metel. Bydd WRAP hefyd yn darparu canllaw archwilio gwastraff wedi’i ddiweddaru a fydd yn helpu eich cwsmeriaid i ddeall pa ddeunyddiau sydd ganddynt ar hyn o bryd.
- Mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am y newidiadau ailgylchu yn y gweithle: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU
- Cod ymarfer Llywodraethau Cymru, sy'n nodi popeth sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â'r rheoliadau.
- Dyletswydd gofal gwastraff
- Dosbarthu gwastraff
Gallwch gysylltu ag CNC os oes angen rhagor o gyngor arnoch – mae ein manylion cyswllt ar gael drwy glicio yma.