Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang
Mae heddiw yn nodi’r 12fed Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang. Mae'n ddigwyddiad byd-eang sy'n taflu goleuni ar gynhwysiant digidol i bobl ag anableddau.
Mae'n ddiwrnod sydd wedi'i gynllunio i gael pawb i siarad, meddwl a dysgu am hygyrchedd digidol.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod ein gwefannau ac apiau yn bodloni gofynion hygyrchedd.
Hygyrchedd digidol
Rhaid i rywun ag anabledd allu cyrchu ein gwasanaethau ar y we a chynhyrchion digidol eraill. Rhaid iddo allu gwneud hyn gyda'r un canlyniad llwyddiannus â'r rhai heb anableddau.
Mae gan tua 22.7% o boblogaeth Cymru ryw fath o anabledd sy’n cynnwys pobl â:
- golwg isel a dallineb
- cyfyngiadau gwybyddol
- byddardod a cholled clyw
- anableddau dysgu
- symudiad cyfyngedig
- anableddau lleferydd
Mae pobl ag anableddau yn parhau i wynebu heriau dyddiol wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.
Os na allwch ddefnyddio llygoden, yna gall symud o gwmpas gwefan fod yn anodd. Gall fod yn anodd dehongli gwybodaeth a gyflwynir mewn lliw os ydych yn lliwddall. Mae fideos heb gapsiynau yn dda i ddim os ydych chi'n fyddar neu'n byw gyda cholled clyw.
Mae'n bwysig ein bod yn gwneud pethau'n iawn ar ein gwefan i'w gwneud yn gynhwysol i bawb.
Ni all ein cwsmeriaid siopa o gwmpas
Gallwn ddewis siopa mewn siop ar-lein wahanol os byddwn yn gweld gwefan yn anodd i'w defnyddio. Ond nid oes unrhyw opsiwn i bobl siopa o gwmpas am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yma yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ni all pobl fynd at ddarparwr trwyddedau amgylcheddol gwahanol yng Nghymru. Ni allant fynd i rywle arall i ddarganfod a yw rhywun wedi cofrestru i gasglu eu gwastraff. Ni allant fynd i rywle arall i gael gwybodaeth hanfodol am berygl llifogydd.
Mae effaith Coronafeirws ar ein ffordd o weithio yn golygu mai’r unig ffordd o gyflwyno neu gael mynediad at wybodaeth bellach yw ar-lein. Mae hyn yn gwneud hygyrchedd ar y we hyd yn oed yn bwysicach.
Mae hygyrchedd i bawb
Mae hygyrchedd ar y we hefyd o fudd i bobl heb anableddau, er enghraifft:
- pobl sy’n defnyddio dyfeisiau gyda sgriniau bach fel ffonau clyfar
- pobl hŷn â galluoedd sy’n newid wrth heneiddio
- pobl sydd ag anableddau dros dro, fel arddwrn wedi torri
- pobl mewn sefyllfaoedd sy'n cyfyngu ar eu mynediad, er enghraifft mewn man tawel lle na allant wrando ar sain
- pobl sydd â chysylltiad rhyngrwyd gwael
Ein gwaith hyd yn hyn
Rydym yn gweithio ar wella hygyrchedd ein gwefan, gan ei gwneud yn haws dod o hyd i'n cynnwys, ei ddefnyddio a'i ddeall.
Rydym wedi gwella penawdau tudalennau a rhywfaint o'r gwe-lywio i helpu ein cwsmeriaid i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflymach.
Un o'n heriau mwyaf o ran cynnwys yw nifer yr atodiadau ar ein gwefan. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr i drawsnewid cynnwys o ddogfennau i gynnwys gwe a ffurflenni gwe.
Dyma ddechrau proses fwy hirdymor i wella profiad cwsmeriaid a’u teithiau ar draws y safle.
Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i wneud ein gwefan yn hygyrch i bawb.