Mawn Wlad i Mi!
Wrth feddwl am adnoddau naturiol Cymru, un o’r rhai mwyaf gwerthfawr, yn yr ymdrech i arafu newid hinsawdd, yw mawn. Mae mawn, i bob golwg, yn blaen a diymhongar, ac yn hynny o beth mae’n ymdebygu i Sinderela yn ein stori ar weithredu ar newid hinsawdd. Ac eto, o ddilyn y wyddoniaeth, gwelwn effaith negyddol mawndir sydd wedi’i ddifrodi, a’r potensial mawr o ran storio carbon pan mae mawndir wedi’i adfer. Felly mae CNC yn benderfynol o fwrw goleuni ar adfer mawndiroedd!
Diweddariad 10/11/2022: Mae Rownd 2 o'r Grant Datblygu bellach yn agored o 8/11/2022 i 8/2/2023, am fwy o wybodaeth gweler tudalen we Mawndir.
Bellach yn ei hail flwyddyn, mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn rhoi sylw amserol i atebion Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth. Ar y cyd â mewnbwn perchnogion tir, ffermwyr a chontractwyr, mae effaith y rhaglen adfer mawndir yn dod yn fwyfwy amlwg.
Cyllid i ddechrau arni...
Serch hynny, gall cymryd y camau cyntaf tuag at adfer mawndir ymddangos yn ddyrys i ffermwyr, perchnogion tir neu grwpiau cymunedol. Cyffrous, felly, yw gweld lansiad grant datblygu sydd â’r nod o helpu prosiectau ar y cam cyntaf o fynd ati i adfer mawndir. Bydd y grantiau £10-30K yn ariannu’r gwaith datblygu cychwynnol sydd ei angen i baratoi ar gyfer prosiect adfer mawndir dichonadwy yn y blynyddoedd dilynol. Y gobaith yw y bydd prosiectau’r grant datblygu, a fydd wedi’u cwblhau erbyn mis Mawrth 2023, yn arwain at waith adfer dilynol ar gyfer 2023/4, wedi’u hariannu o bosib drwy’r Rhaglen Weithredu neu ffrydiau ariannu eraill. Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth, gan gynnwys dolen i gofrestru ar gyfer y gweminarau arweiniad ar 26 a 27 Ebrill, ar dudalen y Rhaglen Weithredu yma.
Rhoi mawn ar y map!
P’un a ydych chi’n gwneud cais am gyllid neu beidio, mae’n werth cael golwg ar adnodd newydd sef y map mawn hygyrch Cymru-gyfan. Yn bell-gyrhaeddol yn ei uchelgais, ym mis Ebrill 2022 lansiwyd Porth Data Mawndiroedd Cymru, sef adnodd data siop-un-stop.
Mae Map Mawndiroedd Cymru, sydd i’w gael yma, yn adnodd agored sydd â gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd, perchnogion tir ac arbenigwyr. Mae’n nodi maint a dyfnder mawndiroedd Cymru, yn cynnwys gwybodaeth am faint o garbon sydd wedi’i storio, neu faint sy’n cael ei ryddhau os yw’r mawndir wedi’i ddifrodi. Mae yna hefyd haenau data diddorol yn ymwneud â chynefinoedd a rhywogaethau. Bydd y Map yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, i ddangos darlun o adferiad y cynefinoedd drwy waith rheoli cadwraethol.
Gyda munud i fynd tan hanner nos ar y cloc ecolegol, mae’n hen bryd i ni weithio gyda’n gilydd i alluogi mawn i chwarae ei ran wrth gyflawni ein nodau #NaturUchelCarbonIsel.