5 ffordd o hybu eich iechyd a’ch lles gyda natur
Mae tystiolaeth i ddangos bod yna 5 cam sy’n gallu helpu i roi hwb i’ch iechyd a’ch lles - rhoi, dysgu, bod yn egnïol, sylwi, a chysylltu.
Mae’r camau canlynol wedi’u haddasu o waith ymchwil a datblygu gan y Sefydliad Economeg Newydd.
1. Rhoi
Cymerwch ran mewn gwarchod a meithrin byd natur yn eich ardal leol.
Fe allech:
- hel sbwriel o amgylch eich mannau gwyrdd neu las lleol
- arbed dŵr – dyma’n hadnodd naturiol mwyaf
gwerthfawr - dechrau tyfu – tyfwch rywbeth o had, ceisiwch greu
blwch plannu, neu plannwch rywfaint o botiau - plannwch goeden – mae coed yn tynnu carbon o’r
atmosffer yn araf bach - rhowch groeso i fyd natur – gwnewch fwydwyr adar,
gwestai trychfilod a chartrefi anifeiliaid
2. Dysgu
Mae dysgu yn yr amgylchedd naturiol, amdano ac ar ei gyfer yn ein helpu i ddeall ein bod yn rhan o natur a bod angen i ni ei gwarchod a gofalu amdani. Mae dysgu yn bwydo ein meddyliau, felly ceisiwch ddysgu rhywbeth newydd a rhyfeddol am fyd natur bob dydd.
Rhieni ac addysgwyr – defnyddiwch ein hadnoddau i helpu plant i ddysgu am yr amgylchedd naturiol
3. Bod yn egnïol
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod ymarfer corff yn yr awyr agored yn well i ni nag ymarfer corff mewn llefydd eraill, gan ein gwneud yn hapusach.
Ewch am dro neu ar eich beic o stepen eich drws i’ch llefydd naturiol lleol er mwyn cysylltu mewn ffordd egnïol â byd natur a mwynhau’r manteision aruthrol i’ch lles corfforol a meddyliol, gan gynnwys:
- gwella’ch iechyd corfforol
- hybu iechyd meddwl cadarnhaol
- lleihau symptomau straen
- cynyddu lefelau fitamin D
- gwella’ch hwyliau a theimlo’n well
4. Sylwi
Mae bod yn fwy ymwybodol o’r byd o’n cwmpas yn ein helpu i werthfawrogi nawr.
Mae sylwi ar fyd natur a’i harddwch yn gwneud i ni deimlo’n bositif. Ceisiwch sylwi ar 3 pheth da ym myd natur bob dydd a phrofi sut gall hyn roi hwb i’ch hapusrwydd.
5. Cysylltu
Mae pobl sy’n cysylltu â byd natur yn dueddol o fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus. Gall cysylltu â byd natur eich helpu i sicrhau bod rhywfaint o’ch ymddygiadau o ddydd i ddydd yn rhai amgylchedd gyfeillgar a chadarnhaol o ran eich lles corfforol a meddyliol.
Gallwch weld sut gysylltiad sydd gennych chi â natur gyda’n model dilyniant naturiol