Dathlu tirweddau unigryw ar ddiwrnod Twyni Tywod y Byd
Cyn Diwrnod Twyni Tywod y Byd, mae arweinydd tîm Twyni Byw, Kathryn Hewitt, yn siarad â ni am bwysigrwydd cynefinoedd twyni tywod a'r gwaith i'w hadfer yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.
Ddydd Sadwrn, 24 Mehefin, byddwn yn dathlu trydydd Diwrnod Twyni Tywod y Byd blynyddol, a sefydlwyd yn 2021 gan brosiectau Twyni Byw a Thwyni ar Symud.
Mae’r diwrnod yn tynnu sylw at y ffaith bod y tirweddau unigryw hyn, sy’n pontio’r tir a’r môr, yn rhai o’r lleoliadau gorau ar gyfer bywyd gwyllt yng Nghymru ac yn ardaloedd prysur o ran bioamrywiaeth, yn ogystal â bod yn lleoedd gwych i ymlacio ac ailgysylltu â natur.
Mae twyni tywod yn aml yn cael eu hanwybyddu, ond maent yn gartref i ehedyddion cerddorol a charpedi o degeirianau, caldrist a chrwynllys, yn ogystal â chacophoni o infertebratau fel gloÿnnod byw, chwilod prin a gwenyn turio.
Rhestrir twyni tywod fel y cynefin sydd fwyaf mewn perygl yn Ewrop ac maent yn cynnal mwy na 70 o rywogaethau sy’n brin yn genedlaethol neu yn y Llyfr Data Coch.
Mae twyni yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd unigryw, gan gynnwys tywod noeth a symudol, llaciau twyni gwlyb a glaswelltir twyni sefydlog, sydd oll yn sensitif i ddylanwadau hinsoddol a dynol.
Mae'r cynefinoedd hyn yn cynnal amrywiaeth uchel o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin ac arbenigol, y mae llawer ohonynt wedi'u dosbarthu fel rhai dan fygythiad neu'n agored i niwed.
Mae tua 30 y cant o arwynebedd twyni tywod gwreiddiol Cymru wedi’i golli i ddatblygiadau ac erydiad ers 1900, ac mae’r rhan fwyaf o’r gweddill wedi’i orsefydlogi gan lystyfiant yn y 50 mlynedd diwethaf, gan arwain at golled sylweddol o fioamrywiaeth.
Dim ond 8,000 hectar o dwyni tywod sydd ar ôl – 0.003 y cant o dir Cymru. Ni ellir ail-greu twyni ac mae eu ffurf a'u cynefinoedd yn hynod arbenigol.
Mae’r twyni yn Niwbwrch, ochr yn ochr â Thywyn Aberffraw a Morfa Dinlle, yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Abermenai i Aberffraw, sy’n bwysig yn rhyngwladol, ac maent wedi’u cysylltu gan gerhyntau arfordirol cylchol sy’n dod â’r tywod i’r lan. Dyma'r system dwyni fwyaf yng Nghymru ac mae'n gartref i fflora a ffawna cyfoethog sydd dan fygythiad.
Yn anffodus, mae cyflwr y twyni yn Niwbwrch a ledled Ewrop yn dirywio, felly mae Tîm Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru a phrosiect Twyni Byw wedi bod yn buddsoddi mewn amrywiaeth o waith adfer dwys ar draws y system dwyni.
Yn Niwbwrch - yn y Goedwig ac ar y Tywyn - mae Twyni Byw wedi:
Creu pum hectar o dywod noeth newydd yn y llennyrch agored, i adfywio cynefinoedd ar gyfer planhigion prin ac infertebratau
Adfer neu greu chwe phwll
Torri glaswellt ar dros 20 hectar o laswelltir
Clirio 53 hectar o rywogaethau estron goresgynnol, fel Crib-y-ceiliog a ‘Cotoneaster’, a phrysgwydd brodorol a oedd yn dechrau dominyddu cynefinoedd pwysig
Tynnu coed conwydd marw, hen fonion, boncyffion a changhennau o gynefin llawn blodau mewn ardal bron i 10 hectar o faint
Codi bron i 10 cilomedr o ffensys i alluogi da byw i bori mewn modd cynaliadwy
Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo yn Niwbwrch gyda chynlluniau yn eu lle i agor a chrafu rhannau o’r llennyrch a adwaenir fel Pant Canada a Phant y Fuches yn y goedwig, cael gwared ar goed marw ar hyd Llwybr y Gymanwlad ar gyrion y goedwig yn Nhwyni Penrhos, adfer dwy ardal o laciau twyni ar y tywyn, a pharhau i reoli rhywogaethau goresgynnol i wella cyflwr y system twyni tywod wych hon sy'n bwysig yn rhyngwladol.
Gallwch ddod o hyd i adnoddau addysg twyni tywod Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Twyni tywod