Yn galw ar bob arbenigwr morol neu'r rhai sydd â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy ar y môr – mae gennym gyfleoedd efallai yr hoffech eu hystyried!
Fel rhan o ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd targedau ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae ein gwasanaethau cynghori a rheoleiddio morol yn chwilio am bobl uchelgeisiol ac angerddol i weithio gyda ni – a gobeithiwn efallai eich bod chi â diddordeb.
Mae arnom angen arbenigwyr yn yr amgylchedd morol neu reoleiddio i’n helpu i wneud hynny, gan wneud gwahaniaeth i Gymru, ein hamgylchedd a sicrwydd ynni.
Rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau mewn ystod o arbenigeddau, a daw pob un ohonynt â chyfres o fanteision staff rhagorol.
Mae’r amrywiaeth o rolau a gynigir yn cynnwys pobl i weithio ar gynghori datblygwyr sy’n gwneud ceisiadau am ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar yr effeithiau amgylcheddol posibl, pobl a all ddatblygu canllawiau i sicrhau bod cynefinoedd morol yn cael eu diogelu, i bobl a all weithio ar wella ein gwasanaethau rheoleiddio morol a llawer o bethau yn y canol.
Felly, beth yw diben hwn?
Mae ynni adnewyddadwy ar y môr yn faes o ddiddordeb gwleidyddol, cyhoeddus a pholisi mawr yng Nghymru, wedi’i ysgogi gan nodau datgarboneiddio uchelgeisiol, symudiad tuag at economi carbon isel, a datganiad o “argyfwng hinsawdd”. Mae CNC wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a chyrraedd targedau ynni adnewyddadwy.
Mae datblygiadau ynni gwynt ar y môr eisoes yn cyfrannu'n sylweddol at gyflawni'r nodau ynni adnewyddadwy hyn ac mae potensial enfawr ar gyfer twf pellach. Er enghraifft, mae cyfleoedd ar gyfer prydlesu gwely'r môr gan Ystad y Goron yn mynd rhagddynt yn dda, gan gynnig cyfle i arloesi yn y sector ynni adnewyddadwy morol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, sy’n darparu fframwaith trosfwaol ar gyfer rheoli moroedd Cymru yn gynaliadwy ac mae ynni morol yn brif flaenoriaeth.
Mae’r gwaith o harneisio'r adnodd tonnau a llanw enfawr o amgylch Cymru eisoes yn mynd rhagddo gydag ardaloedd o ddiddordeb yng ngogledd a de Cymru. Mae’r gwaith o arbrofi prototeipiau a dyfeisiau llif llanw a thonnau ar raddfa lawn wedi dechrau ac mae nifer o ymgeiswyr posib ar y gweill.
Swnio'n gyffrous! Ond pam dylwn i ymuno ag CNC?
Yn ogystal â chael rôl sy’n cynnig boddhad swydd, her, a bod yn rhan o dîm sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, mae amrywiaeth o fanteision i bob rôl, gan gynnwys:
Manteision:
-
Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
-
Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn cynnig cyfraniadau cyflogwr o 26.6% i 30.3%
-
28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
-
Hawliau gwyliau hael ar gyfer eich holl anghenion bywyd
-
Buddiannau a chefnogaeth iechyd a llesiant
-
Awr llesiant wythnosol i’w defnyddio fel y dymunwch
Gweler y manylion llawn am yr holl fanteision gweithwyr y byddwch yn eu derbyn.
A oes unrhyw beth arall y dylwn feddwl amdano?
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt ar y swydd-ddisgrifiad, cysylltwch â ni o hyd. Byddem wrth ein boddau yn cael sgwrs a gweld a yw'r cyfle yn addas i chi.
Rydym yn frwdfrydig dros greu gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu cyfle cyfartal heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, rhyw a chyflwyniad rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.
Iawn, dwi am fod yn rhan! Beth yw'r swyddi a sut wyf yn gwneud cais?
Dyma’r rolau rydym yn recriwtio ar eu cyfer gyda dolenni i’n tudalen swyddi ar-lein.
Dewch ymlaen … beth ydych yn aros amdano? Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer sawl swydd (un ffurflen gais ar gyfer pob swydd) yn ogystal â cheisiadau ar gyfer secondiadau. Os oes diddordeb gennych mewn secondiad, trafodwch gyda'ch cyflogwr a chysylltwch ag CNC cyn gynted â phosibl.
Arweinydd y Tîm Ynni Adnewyddadwy: Fel arweinydd tîm cyngor ynni adnewyddadwy, byddwch yn arwain ac yn rheoli tîm o saith neu fwy o arbenigwyr morol i ddarparu cyngor, arweiniad a thystiolaeth ym maes ynni adnewyddadwy. Mae'r tîm yn cynnwys arbenigwyr technegol ar ystod o dderbynyddion, megis mamaliaid morol, adar morol, pysgod a chynefinoedd benthig. Mae’n debygol y bydd gennych brofiad o oruchwylio a chefnogi sawl aelod o staff, naill ai fel arweinydd tîm neu drwy oruchwylio tîm cyflawni rhithwir, a phrofiad o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau.
2 x Uwch-gynghorydd Morol: Fel un o uwch-gynghorwyr morol CNC, byddwch yn gyfrifol am y gwaith o gydlynu a rheoli achosion cyngor CNC ar gynigion datblygu, gan gynnwys ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol, bioleg forol, ecoleg neu brosesau arfordirol ac y byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Cynghorydd Arbenigol Adareg Forol: Fel un o gynghorwyr arbenigol CNC ar adareg morol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheolaeth yr amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Cynghorydd Arbenigol Mamaliaid Morol: Fel un o gynghorwyr arbenigol CNC ar famaliaid morol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheolaeth yr amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Cynghorydd Arbenigol Ecoleg Forol: Fel un o gynghorwyr arbenigol CNC ar ecoleg forol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheolaeth yr amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Cynghorydd Arbenigol Pysgod Morol ac Aberol: Fel un o gynghorwyr arbenigol CNC ar bysgod morol ac aberol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ar effeithiau posibl a rheolaeth yr amgylchedd morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn asesu amgylcheddol a byddwch yn gallu dadansoddi adroddiadau a data technegol yn feirniadol.
Arweinydd y Tîm Dulliau Polisi a Rheoleiddio Morol: Fel arweinydd tîm polisi a dulliau rheoleiddio morol CNC, byddwch yn arwain ac yn rheoli tîm newydd sy’n arwain datblygiad a gwelliant parhaus ym maes trwyddedu morol. Mae'n debygol y bydd gennych arbenigedd mewn goruchwylio staff a dealltwriaeth dechnegol o reoleiddio, gyda sgiliau cyfathrebu a chynllunio gwaith cryf.
Polisi a Dulliau Rheoleiddio Morol – 3 x Arbenigwr Arweiniol: Fel Arbenigwr Arweiniol CNC ar gyfer Polisi a Dulliau Rheoleiddio Morol, byddwch yn gyfrifol am ddylanwadu ar ddatblygiad polisi, gweithio gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol, adolygu prosesau, datblygu canllawiau a hyfforddiant, a darparu cyngor arbenigol ar reoleiddio morol. Mae'n debygol y bydd gennych wybodaeth am ysgogwyr polisi a deddfwriaeth Cymru a'r DU sy'n ymwneud â rheoleiddio morol, ac arbenigedd mewn gwelliant parhaus.
Prif Gynghorydd Arbenigol Dadansoddi Prosesau ac Adolygu Ffioedd: Fel Prif Gynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Dadansoddi Prosesau ac Adolygu Ffioedd, byddwch yn arwain ar adolygiad o ffioedd trwyddedu morol. Gan ddefnyddio data a thystiolaeth, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o osod ffioedd a thaliadau a sicrhau bod y ffordd yr ydym yn gweithio mor effeithlon â phosibl. Byddwch hefyd yn nodi ac yn cyflawni gwelliannau proses. Mae'n debygol y bydd gennych brofiad o weithio gyda chyfundrefnau codi tâl, lle byddwch wedi datblygu sgiliau dadansoddi cryf, a phrofiad o ddarparu gwelliant parhaus a rheoli rhaglenni llwyddiannus.
Rheolwr Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr: Fel rheolwr rhaglen ynni adnewyddadwy morol, chi fydd yr arweinydd arbenigol ar reoli rhaglenni ynni adnewyddadwy ar y môr a rheoli’r gwaith o baratoi polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC. Byddwch hefyd yn gyfrifol am weithio ar draws CNC i ddwyn ynghyd staff eraill CNC sy’n gweithio o fewn y Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr, gan weithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector ynni adnewyddadwy, gan drosi tystiolaeth a pholisi yn ddulliau gweithredu ymarferol. Mae'n debygol y bydd gennych gwybodaeth am deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â chynllunio, rheoli a rheoleiddio'r amgylchedd morol, a profiad o gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.