Blog: Rhwydweithiau Natur
Wrth i COP15 ddirwyn i ben yng Nghanada, rydym wedi clywed am y trafodaethau parhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r hinsawdd a'r dirywiad digynsail yn ein bioamrywiaeth oherwydd gweithgaredd dynol a newid yn yr hinsawdd.
Nawr, rydym am droi ein golygon yn ôl at yr hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru, yn enwedig yr ymdrechion i sicrhau fod 30% o dir a môr y wlad wedi eu diogelu a'u gwella ar gyfer natur erbyn 2030.
Mae safleoedd gwarchodedig yn gonglfaen i’r uchelgais yma o 30x30 gan eu bod yn gorchuddio 12% o dir a 69% o foroedd Cymru. Fodd bynnag, mae angen gwaith adfer ar frys ar y rhan fwyaf o'r safleoedd hyn ac felly un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod ein safleoedd daearol, dŵr croyw a morol yn cael eu dwyn i gyflwr ecolegol llawer gwell, fel y gall bywyd gwyllt wirioneddol ffynnu yn y mannau arbennig hyn .
Mae hyn wedi arwain at ddatblygu'r Rhaglen Rhwydweithiau Natur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i helpu i wella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd gwarchodedig a'u gwneud yn fwy gwydn yn sgil newid yn yr hinsawdd.
Rhagwelir y bydd cyllideb y rhaglen hon dros dair blynedd oddeutu £45miliwn.
Rydym ni yn gwneud cais am gyfran o’r gyllid yn flynyddol, ond mae’r cyfran helaeth ar gael ar gyfer sefydliadau a grwpiau. Gallant gynnig am arian grant gan Gronfa Rhwydwaith Natur a weinyddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ymhlith prosiectau eraill a gefnogir gan raglen y Llywodraeth mae ein prosiectau LIFE: LIFE Quake a 4 Rivers for LIFE.
Wrth wraidd y rhaglen mae nod cynyddu rheolaeth bositif ar safleoedd gwarchodedig - ein Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNC), Ardaloedd Arbennig o Gadwraeth (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA).
Mae ein hardaloedd gwarchodedig yn gonglfeini’n gwaith adfer natur, ac yn diogelu ystod, ansawdd ac amrywiaeth o’n rhywogaethau pwysicaf.
Yn ogystal â gwneud gwaith ar y tir rydyn ni'n ei reoli, byddwn yn gallu cynnig cytundebau i ffermwyr a phartneriaid eraill i helpu i ddod â'r safleoedd hyn i gyflwr gwell.
Nid mynd yn ôl i bwynt hiraethus yn y gorffennol yw hyn. Mae'n ymwneud â chydweithio i adeiladu dyfodol sy'n llawn natur, gydag ecosystemau wedi'u hadfer sy'n fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd ac yn darparu mwy o fanteision i fwy o bobl.
Felly, pa fath o brosiectau mae CNC yn ei wneud gyda'r arian?
Maent yn amrywio o'r bychan i raddfa'r dirwedd; o'r mynyddoedd i dan ddŵr ac o ymchwil a thystiolaeth yn casglu i weithredu ymarferol. Gallwch ddarllen ychydig am ardaloedd y prosiect:
Ond dwi'n siŵr mai'r hyn sydd gennym ni i gyd â diddordeb ynddo yw canlyniadau!
Mae prosiectau wedi'u cynnal ar dros 200 SoDdGA – a dyma rai enghreifftiau yn unig:
- Rydym ni wedi tynnu Dail-ceiniog arnofiol (rhywogaeth ymledol iawn, sy'n frodorol i'r Amerig) oddi ar bwll yn SoDdGA Comin Llantrisant, a bydd hyn yn caniatáu i blanhigion dyfrol eraill ffynnu.
- Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Tiroedd Comin Gŵyr wedi cael llai o bori yn ystod y blynyddoedd diwethaf am sawl rheswm gan gynnwys trafferthion o ran rheoli a thrin stoc yn ogystal â chyfyngiadau symudiadau profi TB. I wneud yn siŵr ein bod yn cadw gwartheg ar yr ardal bwysig hon, rydyn ni'n cefnogi'r cominwyr i wneud y gwaith ychydig yn haws drwy brynu system trin gwartheg symudol.
- Rydym wedi ariannu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu Robocutter i dorri gwair a chrafu amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys llaciau’r twyni tywod a’r glannau yng Ngwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Oxwich a Chwitffordd, lle na all peiriannau confensiynol sy’n cael eu tynnu gan dractorau eu cyrraedd.
- Yn Sir Benfro rydym yn ymchwilio i greu llithrfeydd hunanlanhau. Gan weithio gyda'r Awdurdod Lleol a Phrifysgol Abertawe, rydym yn bwriadu dod o hyd i ateb sy'n seiliedig ar natur a fydd yn atal cemegolion rhag mynd i mewn i'r ACA forol. Mae ein prosiect peilot yn cynnwys tyllu’r llithrfa gyda dril i greu tyllau bychain lle gall gwichiaid bychain fyw, yn ogystal â thrawsblannu llygaid meheryn – gan fod y ddwy rywogaeth hyn yn gallu tynnu'r algâu'n naturiol.
- Ar raddfa hynod wahanol rydym yn gweithio gyda phartneriaid i adfer gweundir ar Fynydd Llantysilio, ger Llangollen, a gafodd ei niweidio gan dân gwyllt yn 2018. Wedi i hofrennydd o hadau gyrraedd y lleoliad anghysbell, dechreuwyd ar y gwaith i ail-hadu’r pridd moel a adawyd ar ôl y tân. Defnyddiwyd technegau confensiynol (hau tractorau) yn ogystal â hydrohadu hefyd a fydd yn caniatáu adfer y cynefin hwn yn gyflymach.
Mae llawer mwy o brosiectau ar y gweill. Gallwch ddarllen am lu o brosiectau bach a mawr yn ein adran newyddion.
Rydym yn gwybod ein bod ni'n dioddef heb amgylchedd naturiol iach a gwerthfawr. Pan fyddwn yn bygwth yr amgylchedd, rydym yn bygwth ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi a'n hymdeimlad o le. A dyma pam mae adfer natur er mwyn natur er lles pawb. Ac rwy'n falch bod CNC yn arwain y ffordd wrth wneud hynny drwy ein prosiectau Rhwydwaith Natur.