Dewch yn arwr y draenogod

Yn un o'n mamaliaid mwyaf annwyl, rhoddwyd draenogod ar restr goch yr IUCN fel rhai sy'n agored i ddifodiant ym Mhrydain Fawr, yn 2020.

Yn anffodus, mae ein ffrindiau bach pigog yn aml yn canfod eu hunain wedi'u hanafu neu mewn perygl, ac angen rhywfaint o ofal tyner a chariadus.

Yn ffodus, mae yna arwyr i ddraenogod allan yna, sy’n gweithio i achub a gofalu am y draenogod, a’u hadfer pan fyddant angen cymorth. Arwyr fel Tracy Pierce, a sefydlodd Hedgehog Help Prestatyn, ac sydd hyd yn oed wedi ysgrifennu llyfr i helpu i ledaenu’r gair, ‘Prickly Pals in Peril!’.

A allwch chi a’ch dysgwyr roi help llaw i ddraenog, neu linell gymorth draenogiaid?

Mae 17 rhywogaeth o ddraenogod ar draws y byd, ond yr un y gallech chi ei weld efallai yn difa’r plâu yn eich gardd yw’r draenog Ewropeaidd. Yn greadur poblogaidd y gellir dadlau ei fod yn edrych fymryn yn wahanol, mae draenogod wedi mynd trwy ddirywiad hir oherwydd amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys colli cynefinoedd, diffyg cysylltedd cynefinoedd, a chynnydd mewn traffig.

Weithiau mae draenogod yn mynd yn sâl neu'n cael eu hanafu, gan gael eu gweld yn aml yn ystod y dydd, ac yna gellir eu dal a'u cludo i ganolfan achub. Gall achub draenog achub ei fywyd, ac ar ôl eu codi’n ôl ar eu traed, bydd llawer o ddraenogod yn cael eu rhyddhau'n llwyddiannus yn ôl i'r gwyllt.

Gellir dod o hyd i linellau cymorth a chanolfannau achub draenogod ledled Cymru, sy'n cael eu rhedeg gan bobl ymroddedig sy'n gwneud eu gorau i gefnogi poblogaeth draenogod iach. Un unigolyn o’r fath yw Tracy Pierce, a dyma hanes sut y daeth hi’n arwr draenogod Cymru.

Sut wnes i ddod yn arwr y draenogod

Meddai Tracy, "Cefais fy magu ar fferm ym Mhrestatyn ac roeddwn yn nyrs am 32 mlynedd. Roedd darganfod draenogod yn yr ardd lle’r oeddem yn byw wedi tanio fy angerdd dros fagu’r mamaliaid rhyfeddol hyn.

"Dechreuodd pobl leol, a ddaeth o hyd i ddraenogod sâl neu wedi’u hanafu allan yn ystod y dydd, ddod â nhw ataf i, ond doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn sut i helpu, felly cofrestrais fel gofalwr gyda’r British Hedgehog Preservation Society a dilyn cwrs gofal draenogod, yn Ysbyty Bywyd Gwyllt Vale. Defnyddiais y wybodaeth honno i sefydlu Hedgehog Help Prestatyn, gyda milfeddyg gwych wrth law a gwirfoddolwyr.

"Yn y flwyddyn 2022-23, fe wnaethom dderbyn 358 o ddraenogod. Cafodd 160 ohonyn nhw eu rhyddhau yn ôl i'r gwyllt, ond yn anffodus roedd 182 yn rhy sâl a buont farw. Ar hyn o bryd, mae gennym 43 o ddraenogod yn ein gofal ac mae chwech o'r rhain wedi cael eu maethu gyda gofalwr hyfforddedig.

"Mae draenogod ar y rhestr goch ar gyfer difodiant yn y DU, datganiad ofnadwy! Mae llu o ffactorau yn cyfrannu at hyn a dyma rai:

  • mae rhwystrau, fel ffensys, yn cyfyngu ar eu mynediad i erddi ar gyfer bwyd, dŵr, mannau nythu ac i baru
  • mae gwrychoedd lle gallant wneud cartref diogel yn cael eu cymryd oddi yno
  • mae ffyrdd yn brysurach nag erioed, gan arwain at anafiadau a marwolaethau
  • mae moch daear, llwynogod a rhai cŵn yn ymosod ar ddraenogod
  • maen nhw’n cael eu hanafu gan beiriannau gardd, yn mynd yn sownd mewn sbwriel, rhwydi ac i lawr draeniau
  • maen nhw’n amlyncu cemegau niweidiol fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer garddio neu amaethyddiaeth
  • mae newid hinsawdd yn achosi gaeafau gwlyb a sychder yn yr haf

"Mae'r rhain i gyd yn gwneud i ddraenogod wanhau ac yn llai abl i ymdopi â chlefydau a pharasitiaid mewnol.

"Rwy’n cyflwyno sgyrsiau i amrywiaeth eang o grwpiau, oherwydd mae addysg a chodi ymwybyddiaeth yn aruthrol o bwysig i helpu draenogod a byd natur yn gyffredinol, sy’n cydblethu. I gefnogi hyn, roeddwn i eisiau cynhyrchu llyfr plant, yn trafod yr agweddau pwysig sydd wedi’u cynnwys yn fy sgyrsiau. Cysylltais â’r hyfryd Joanna Greenwood, o Fwcle, a fis Medi diwethaf cyhoeddwyd ein llyfr, Prickly Pals in Peril (ISBN-13 979-8861699969).

"Rydyn ni bob amser yn ceisio rhyddhau draenogod yn ôl i le maen nhw wedi dod, gan y byddan nhw'n gwybod lle mae eu nythod, ffynonellau bwyd a dŵr, ac yn bwysicaf oll, draenogod eraill, fel y gallant fridio.

"Er mwyn i leoliad addysg fod yn safle rhyddhau, rhaid bod draenogod yn yr ardal. Bydd angen i'r draenogod allu symud o gwmpas yr ardal, trwy dyllau mewn ffensys a phriffyrdd draenogod. Maen nhw angen mynediad diogel at ddŵr, fel pwll gydag ymylon bas neu ramp mynediad. Y cynefinoedd delfrydol yw ardaloedd gwyllt, gwrychoedd, llwyni a phentyrrau compost. Byddai tai draenogod pwrpasol yn ddelfrydol, gyda gorsaf fwydo gerllaw. Mae camerâu llwybr yn hynod ddefnyddiol, gan eu bod yn wych i ddysgwyr fonitro sut mae'r draenogod yn dod y neu blaenau.

"Gallai eich lleoliad gymryd rhan mewn prosiect gwych, campws cyfeillgar i ddraenogod. Mae yna adnoddau gwych, a gallai eich lleoliad ennill gwobrau am ofalu am ddraenogod."

Gallwch gysylltu â Tracy drwy ei gwefan Hedgehog Help Prestatyn, a dilyn ei gwaith arwrol ar X (Twitter).

Am fwy o wybodaeth am sut i gefnogi eich draenogod lleol, ewch i British Hedgehog Preservation SocietyHedgehog Street

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru