Safbwynt athro - rhoi hyfforddiant addysgwyr CNC ar waith
Mae Megan Hughes, athro blwyddyn 3/4 yn Ysgol Sychdyn, Sir y Fflint, wedi cymryd rhan mewn nifer o ddiwrnodau hyfforddi addysgwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, felly gwnaethom ofyn iddi am adborth ynghylch a oedd yr hyfforddiant wedi ei roi ar waith.
Roedd yr adborth mor frwdfrydig ac ysgogol, fel ein bod wedi gofyn a fyddai’n bosibl inni ei rannu'n ehangach.
Yma, mae Megan yn esbonio sut mae cymryd rhan yn un o'n digwyddiadau dysgu proffesiynol ‘Diogelu neu ddatblygu ardal naturiol’ yn Helygain, Sir Fflint, wedi ysbrydoli persbectif addysgu newydd. Dywedodd Megan wrthym:
Roeddwn i WRTH FY MODD â'r sesiwn hyfforddi a gyflwynwyd. A dweud y gwir, ar y dechrau roeddwn yn bryderus ynghylch sut y gallwn ddefnyddio'r hyn yr oeddwn wedi'i ddysgu i gyflwyno prosiect dysgu sy'n canolbwyntio ar yr ardal leol. Mae Helygain yn llawn hanes a rhyfeddodau naturiol; rhywbeth nad oeddwn i'n meddwl y gallwn ei ail-greu yn Sychdyn. Roeddwn i'n hollol anghywir! Roedd dysgu am ein parc, sut y cafodd ei greu, ochr yn ochr â'r atgofion a'r cariad a deimlir tuag ato yn ein cymuned yn ddigon i'r prosiect hwn fod yn llwyddiannus.
Cyflwynwyd y prosiect dysgu hwn fel rhan o'n Hwythnos Gymraeg ym mis Chwefror. Roeddwn i wir eisiau symud oddi wrth y pethau rydw i'n eu gwneud fel arfer oherwydd roeddwn i eisiau i'm dosbarth werthfawrogi lle rydyn ni'n byw yng Nghymru. Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd â'r cysyniad o gynefin ac yn meddwl y byddai fy nosbarth yn ymateb yn dda i'r posibilrwydd y gallai cynnig mor enfawr aflonyddu ar eu cynefin. Fel arfer, byddwn yn cynnal prosiect fel hwn oddi ar yr amserlen dros wythnos. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau amser, roeddwn yn gallu dewis rhai gweithgareddau a'u hamserlennu ar gyfer pob sesiwn foreol a phob prynhawn.
I ddechrau, fe wnes i ymchwilio i ddatblygiad Parc Manwerthu Brychdyn (parc manwerthu siopa mawr y tu allan i'r dref) fel man cychwyn; gan chwilota'r sylw yn y newyddion a'r farn gymunedol am hyn o 25 mlynedd yn ôl! O'r fan honno, ac, wedi f'ysbrydoli, dechreuais ar y gwaith gan ysgrifennu erthygl bapur newydd fy hun, fel ffordd o ennyn diddordeb fy nosbarth.
Cyflwynais fy mhrosiect a'r gweithgareddau a gynlluniwyd i fy nosbarth Blwyddyn 3 a 4, a oedd â diddordeb mawr o'r cychwyn! Er fy mod i'n canolbwyntio ar fy nosbarth, roedd gennym rai plant Blwyddyn 5 a 6 brwd iawn a glywodd am yr hyn yr oeddem yn ei wneud ac oedd â diddordeb mawr yn y syniad o amddiffyn ein parc/cae rhag y cynnig datblygu hwn hefyd!
Diwrnod 1
Dechreuon ni'r wythnos drwy archwilio llonyddwch Cymru a'r ffactorau a allai darfu ar hyn. Yna, rhannais y newyddion diweddaraf o'n papur newydd lleol, The Leader (a wnaed ar Canva), ochr yn ochr â'r caniatâd cynllunio ar gyfer Parc Manwerthu Bagnall a map o Sychdyn. Ar y dechrau, roedd fy nosbarth yn llawn cyffro am y cynnig hwn; yn ecstatig am y posibilrwydd o Nando's a sinema newydd, nes iddynt sylweddoli lle byddai'r parc manwerthu wedi'i leoli... yn eu parc annwyl! Trodd y cyffro yn ddicter yn fuan. Fe wnaethon nhw fynd o amgylch y cae gan weiddi 'achubwch ein hysgol!' gan hyd yn oed ennyn ymateb emosiynol gan ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 a barhaodd i brotestio gyda nhw.
Er mwyn datblygu'r profiad ymhellach, fe wnes i argraffu arwyddion 'diogelwch safle' a 'gwaith ar y gweill’ a'u gosod yn yr ardal o amgylch y cae a'r parc. Yna, cefais help adeiladwyr yr ysgol i ymgymryd â rôl y gweithwyr, a ymwelodd â'r parc ac ynysu'r ardal dan sylw. Fodd bynnag, nid oedd y profiad ar ben. Yn ôl yn yr ysgol, derbyniodd ein pennaeth alwad ffôn yn ei hysbysu ynglŷn â'r cynlluniau newydd hyn, gan egluro y byddai gostyngiad o 10% i athrawon! Erbyn hyn, roedd fy nosbarth yn barod i amddiffyn eu cynefin!
Diwrnod 2
Ar yr ail ddiwrnod, fe wnaethon ni ddechrau amlinellu'r stori newyddion hon trwy ysgrifennu ein hadroddiad papur newydd ein hunain. Yn y prynhawn, gwnaethom ymgymryd â rôl haneswyr; gan ymchwilio i hanes Sychdyn. Dysgom fod Mr Banks, perchennog tir lleol, wedi rhoi'r tir i Gymuned Sychdyn yn 1952, a bod y pwyllgor wedi gweithio'n eithriadol o galed i godi digon o arian i adeiladu parc er mwyn i blant allu chwarae. Ar ôl dysgu hyn, ni wnaeth hyd yn oed negeseuon trydar gan Barry a Bethany Bagnall yn esbonio y byddent yn adeiladu parc newydd eu rhwystro! Clywsom hefyd gan aelodau o gymuned yr ysgol a wnaeth sylwadau ar ein neges Facebook - roedd yn rhaid i ni rag-rybuddio'r gymuned nad oedd y cynnig datblygu hwn yn un go iawn...fe wnaethon ni hyd yn oed anghofio hynny weithiau!
Diwrnod 3
Ar y trydydd diwrnod, daethom yn Gynghorwyr Tirwedd; a buom wrthi’n cynnal arolygon traffig ar yr ardal leol ac yn defnyddio cyfarwyddiadau cwmpawd i dynnu sylw at harddwch y man naturiol hwn.
Diwrnod 4
O'r diwedd, ar y pedwerydd diwrnod, aethom ati i weithio i ddadansoddi ansawdd sain a golau’r ardal hon, ochr yn ochr â chynnal arolygon natur a defnyddio sgiliau mathemategol y plant i geisio dyrannu mannau parcio i wahanol fathau o gerbydau. Yma, sylweddolodd y plant na fyddai'r lle oedd ei angen ar gyfer y datblygiad yn ddigon mawr ac y gallai fod angen i'r bobl sy'n byw yn y tai y tu ôl iddo adleoli. Yn ôl yn y dosbarth, defnyddiwyd Canva i greu cynrychioliadau gweledol o'r parc manwerthu a'r maes parcio, yn ogystal ag ysgrifennu argymhellion synhwyrol.
Diwrnod 5
Ar y pumed diwrnod, fel rhan o'n Heisteddfod, fe wnaethom ni ddangos yr hyn yr oeddem wedi dysgu i'n teuluoedd. Yma, gofyn i rieni am eu barn ar y datblygiad hwn a'u hannog i wneud safiad i amddiffyn y parc hefyd!
I gydlynu'r dysgu, fe wnaethom esgus cynnal cyfarfod a oedd yn cynnwys yr holl bartïon â diddordeb. Ar gyfer cyfarfod y cyngor, cafodd aelodau fy nosbarth eu rhoi mewn grwpiau gwahanol i chwarae rolau gwahanol fel aelod o'r gymuned, y tirfeddiannwr Mr Banks, Cynghorwyr Tirwedd ac yn y blaen. Cynlluniodd a thrafododd pawb yr hyn yr oedd eu rôl am ei ddweud ymlaen llaw. Yna fe wnaethant ddadlau o blaid neu yn erbyn datblygu Parc Siopa a Manwerthu Bagnall. O ganlyniad i'w gwaith caled, cafodd y datblygiad ei atal, a chafodd ein parc ei achub!
Cynhaliais y prosiect hwn yn y parc gyferbyn â'r ysgol. Mae'r parc hwn yn ysgogi cymaint o atgofion i'n plant a'r gymuned ehangach. Mae neiniau a theidiau yn cofio mynd â'u plant eu hunain a'u hwyrion i chwarae yn y parc. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor bwysig oedd y parc i'r ysgol gyfan a'r gymuned ehangach, felly roeddwn i'n ffodus iawn o gael bachyn mor gryf.
Ymatebodd fy nosbarth yn hynod o dda i'r wythnos hon. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar brofiadau bywyd go iawn ac yn addas iawn ar gyfer Erthygl 31 CCUHP - yr hawl i ymlacio a chwarae. Dysgodd fy nosbarth bwysigrwydd sefyll dros yr hyn maen nhw'n credu ynddo, empathi, pwysigrwydd cymuned a daeth y cysyniad o gynefin yn bwysig iawn iddynt.
Mae'r prosiect hwn yn arbennig o addas ar gyfer y Pedwar Diben Craidd. Mae'r prosiect cyfan hwn yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn, ac er bod fy nosbarth yn gwybod nad oedd hyn yn wir, fe wnaethant barhau i fynegi y gallai'r hyn nad yw'n wir nawr fod yn wir yn y dyfodol. Ac roedd yn bodloni'r 6 Maes Dysgu a Phrofiad. Dim ond hyn a hyn y gallwn ei gyflawni yn ystod yr wythnos ond mae cyfoeth o gyfleoedd dysgu yn aros i gael eu harchwilio yn y prosiect hwn.
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu - adroddiadau papur newydd, llythyrau at y cyngor, barddoniaeth y cynefin.
- Mathemateg a Rhifedd – pwyntiau’r cwmpawd, cyfesurynnau, canrannau, adio a thynnu, cyfrifo arwynebedd a pherimedr y safle.
- Y Celfyddydau Mynegiannol - celf gynrychioladol weledol o'r Parc Manwerthu, symffoni natur, gweithio mewn rôl fel aelodau o'r gymuned/gweithwyr.
- Y Dyniaethau - gwaith map, hanes ardal, pobl nodedig, dysgu mwy am pam mae Cymru wedi'i rhestru fel un o'r 3 lle mwyaf tawel yn y byd.
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg - lefelau pH o bridd, mathau o goed (gellir ei gysylltu â pha goed sy'n cael eu gwarchod), iMovies.
- Iechyd a Lles - Hawliau'r Plentyn, sefyll dros yr hyn rydych chi'n credu ynddo, aflonyddwch i lonyddwch (sbwriel, ymddygiad gwrthgymdeithasol, gorlenwi, costau byw - trafodwyd y rhain i gyd gan fy nosbarth!).
Mae cymryd rhan yn y diwrnod hyfforddi arddull Mantell yr Arbenigwr wedi newid fy arfer addysgu. Mae fy addysgu yn hollol wahanol nawr. Gan gymryd yr Wythnos Gymraeg fel enghraifft, roeddwn i'n gwybod fy mod i am wneud rhywbeth gwahanol. Ar ôl cael yr hyfforddiant hwn, roedd gen i feddylfryd gwahanol o sut y gallwn ei ddarparu mewn ffordd a oedd yn bwrpasol ac yn berthnasol i'm dosbarth. Mae'r sesiynau hyfforddi a gyflwynwyd i gyd yn dilyn dilyniant tebyg a dyma beth rwy'n tueddu i'w wneud nawr wrth gyflwyno gwaith thema/pwnc.
Rhowch fi ar y rhestr ar gyfer unrhyw gyfleoedd hyfforddi newydd sydd gennych os gwelwch yn dda! ❤️