Trywydd newydd – disgyblion Ysgol Bro Banw yn ymchwilio i gost-effeithiolrwydd tyfu eu bwyd eu hunain
Wedi’i hysbrydoli ac yn teimlo’n frwdfrydig ar ôl cwblhau cwrs garddio 6 wythnos, roedd Victoria Thomas, athrawes Blwyddyn 2 o Ysgol Bro Banw, Rhydaman yn barod i dorchi ei llewys a rhoi cynnig ar dyfu llysiau a ffrwythau gyda’i dysgwyr.
A fyddai’n gost-effeithiol, ac a fyddai’n helpu i daclo gwastraff bwyd? Aeth Victoria a’i dysgwyr Cyfnod Sylfaen ati i ddysgu mwy.
“Bues i ar gwrs hyfforddi a drefnwyd gan Louise Morgan, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Adam yn yr Ardd a oedd yn edrych ar fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy arddio. Mae Adam (Jones) yn arddwr profiadol o Orllewin Cymru sy’n hyrwyddo garddio organig sy’n gyfeillgar i natur. Dysgais i gymaint yn ystod y chwe wythnos, roedd yn ddechrau gwych ac fe wnaeth fy ysbrydoli i greu gardd yma yn y Cyfnod Sylfaen ym Mro Banw. Derbyniodd pob lleoliad a fu’n bresennol £500 ar ôl cwblhau’r cwrs i’w wario ar offer garddio, a chawson ni gyfleoedd i ymweld a dysgu oddi wrth leoliadau eraill a oedd yn mynd amdani ac yn elwa o dyfu eu cynnyrch eu hunain.
“Roedden ni eisiau gwybod a oedd ffordd ratach o gael llysiau a ffrwythau. Aethon ni â’r plant i’r dref i gymharu cost prynu llysiau yn Tesco, Lidl a’r farchnad leol. Edrychon ni ar gost prynu planhigion a hadau o’r ganolfan arddio leol. Fe ddefnyddion nhw’r data i greu graff ac yna dadansoddi’r canlyniadau. Tyfu yn yr ysgol oedd yr opsiwn rhataf yn rhwydd! Roedden ni hefyd eisiau gwybod faint o wastraff bwyd oedd yna o ran llysiau yn yr oergelloedd a’r cypyrddau yng nghartrefi disgyblion. Ar ôl edrych ar y canlyniadau, sylweddolon ni fod llawer o lysiau ac felly arian yn cael eu gwastraffu. Dangosodd canlyniadau’r arolwg hefyd nad oedd rhai dysgwyr yn gwybod o ble mae llysiau’n dod. Ar ôl trafod, mynegodd y plant yr hoffen nhw ddechrau tyfu eu llysiau eu hunain.
“Y cam cyntaf oedd datblygu ein gardd. Cynlluniodd y plant sut y dylai’r ardd edrych, ac roedden ni’n ffodus iawn i dderbyn pecyn gardd i dyfu bwyd gan gynllun ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru gan Cadwch Gymru’n Daclus i’n helpu i wireddu eu gweledigaeth. Roedden nhw’n anhygoel – fe gawson ni dŷ gwydr, sied, gwelyau tyfu wedi’u codi, coed ffrwythau, 9 tunnell o bridd, offer garddio a bin compost. Helpodd rhai o’r rhieni’r plant i adeiladu’r gwelyau ac ar ôl eu hadeiladu y gwaith nesaf oedd eu llenwi â phridd – 9 tunnell i gyd! Doedd dim modd danfon y pridd yn agos at y gwelyau felly roedd yn rhaid ei symud drwy ddefnyddio cadwyn ddynol o blant Blwyddyn 1 a 2 a bwcedi o bridd. Roedd yn waith caled ond yn werth chweil yn y diwedd. Buon nhw’n gweithio’n ddi-baid.
“Ar ôl prynu hadau, roedd hi’n amser i’r plant ddechrau ar y gwaith o’u plannu. Oherwydd adeg y flwyddyn, heuodd y plant hadau letys yn yr ysgol mewn hen flychau ffrwythau ac yna mynd â nhw adref dros wyliau’r Pasg. Er mwyn cynnal diddordeb y plant ac i sicrhau eu bod yn gofalu am eu hadau, fe drefnon ni gystadleuaeth tyfu letys. Plannwyd ffa dringo mewn pocedi plastig er mwyn i’r plant allu gwylio’r gwreiddiau’n tyfu. Unwaith roedd yr eginblanhigion yn ddigon mawr, fe blanon ni nhw allan yn ein gardd. Fe dyfon ni bopeth o bwmpenni i bys, ysgewyll Brwsel i berlysiau. Gan droi problem yn gyfle dysgu, pan sylweddolon ni fod lindys yn bwyta dail yr ysgewyll, fe gasglwyd ambell un a’u gosod mewn basged wedi’i gwneud o ddeunydd rhwyd ieir bach yr haf. Gwelodd y plant y lindys yn mynd trwy eu cylch bywyd gan fesur eu tyfiant cyn rhyddhau’r ieir bach yr haf newydd.
“I ategu a chyfoethogi eu trywydd ymholi, fe drefnon ni dripiau i Barc y Betws, Gerddi Aberglasne, a Gelli Aur. Dyma roi cipolwg i’r dysgwyr ar bwysigrwydd mwydod a chompost a’r amrywiaeth o ddulliau tyfu sydd ar gael. Fe roddodd un o’r rhieni a oedd yn cadw alpacas ychydig o dail i ni – maen nhw’n bwyta llawer o ddanadl poethion, felly roedd y tail yn berffaith ar gyfer ein planhigion, hyd yn oed os oedd y plant yn cwyno am y drewdod! Yn ogystal â phlannu hadau blodau gwyllt o amgylch y cyrion i ddenu peillwyr, daeth ymwelydd hefyd i siarad â’r plant am wenyn mêl. Dysgodd y plant sut mae pobl a byd natur yn dibynnu ac yn effeithio ar ei gilydd a chawson nhw gyfle i ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i weld gwenyn mêl wrth eu gwaith. Fe wnaeth y plant gyfrif faint o blanhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr y gallen nhw eu gweld cyn mynd ymlaen i gyfrifo faint o brotein roedden nhw’n ei gynnig i wenyn. Datgelodd eu cyfrifiadau fod pob planhigyn yn cynhyrchu digon o brotein i wenynen deithio 3.2 metr. Gan ddefnyddio Excel, cyfrifodd y plant gyfanswm y pellter y gallai gwenynen deithio gan ddefnyddio’r protein o’r blodau yn eu hardal chwilio. Roedd yn anhygoel! Fe ddysgon nhw y gallai gwenynen deithio dros 5,000 km diolch i bŵer protein y planhigion oedd yn bresennol.
“Ffrwyth yr holl waith dysgu oedd arddangosfa. Creodd y plant ffeiliau ffeithiau ar lysiau, cylchoedd bywyd a sut i dyfu llysiau o hadau. Gwahoddwyd rhieni i’r ardd er mwyn i’w plentyn fynd â nhw ar daith, rhannu eu dysgu, a chyflwyno eu canfyddiadau. Roedd yn wych gweld y plant yn rhyngweithio â’u rhieni. Roedden nhw’n llawn brwdfrydedd a chyffro i ddangos ein gardd a’r holl sgiliau yr oedden nhw wedi’u dysgu am dyfu llysiau. Roedd gan lawer o’r rhieni ddiddordeb arbennig mewn faint yn rhatach oedd tyfu eich llysiau eich hun a mynegodd rhai ddiddordeb mewn rhoi cynnig arni gartref.
“O ran 4 Diben y Cwricwlwm i Gymru, daeth y plant yn sicr yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog. Daethon nhw’n abl i dyfu eu llysiau eu hunain, gofalu amdanyn nhw, deall pwysigrwydd defnyddio’r compost cywir a rhoi cynnig ar greu eu compost eu hunain. Fe wnaeth y trywydd ymholi ysgogi uchelgais i dyfu eu llysiau eu hunain gartref a’u hannog i feddwl am bwysigrwydd llysiau a ffrwythau. Helpodd i wreiddio gwybodaeth gydol oes bod angen iddyn nhw fwyta llysiau i fod yn iach a bod bod yn iach yn gyfystyr â meddylfryd hyderus.
“Fel dinasyddion gwybodus, roedd yn amlwg i’r plant ei bod yn llawer rhatach tyfu eu llysiau a’u ffrwythau eu hunain na’u prynu. Efallai bod tyfu rhai eu hunain yn rhatach ond a oedd y cynnyrch yn fwy blasus? Cymerodd y plant ran mewn prawf ‘dall’ blasu tatws – Lidl yn erbyn y farchnad yn erbyn tatws cartref. Y tatws cartref enillodd pleidlais y plant. Fe ddaethon nhw hefyd yn fwy moesegol ar ôl sylweddoli bod rhaid i ni beidio â chasglu blodau gwyllt ac y dylid gadael llonydd i wenyn mêl i beillio blodau.
“Caniataodd y trywydd ymholi inni gyflawni yn erbyn yr holl Feysydd Dysgu a Phrofiad fel yr amlinellir isod.”
Maes dysgu a phrofiad
Mathemateg a rhifedd
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig:
- Defnyddir y system rif i gynrychioli a chymharu’r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau
- Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.
Cyflawnwyd trwy’r camau canlynol:
- Cyfrifiannu; adio cost pecynnau hadau yn ein meysydd her
- Cymharu tyfiant
- Cyfrifo’r hyd y bydd cocynau yn eu cymryd i droi’n ieir bach yr haf a nodi hynny ar galendr
- Mesur y pellter sydd ei angen i blannu hadau ac eginblanhigion fel bod y pellter rhyngddynt yn gyfartal
- Mesur blodau’r haul, plotio eu twf ar graff
- Mesur uchder planhigion betys
- Defnyddio ymledyddion mefus i ddangos lluosi a rhannu
- Defnyddio arian ac iaith arian i brisio hadau a llysiau a chyfnewid arian i brynu eitemau
Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig:
- Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd
- Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch
- Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu
Cyflawnwyd trwy’r camau canlynol:
- Creu cylchoedd bywyd
- Defnyddio tablau
- Lluniadu a labelu diagramau
- Cyflwyno eu dadl bod tyfu eich bwyd eich hunan yn rhatach a pham
- Ymchwilio i lysiau
- Sgiliau gwrando – gwrando ar ymwelwyr
- Cyflwyno eu harddangosfa
- Cyflwyno cyfres o gwestiynau
Iechyd a lles
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig:
- Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes
- Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill
Cyflawnwyd trwy’r camau canlynol:
- Trafod ac ymchwilio i bwysigrwydd bwyta llysiau a ffrwythau
- Pwysigrwydd bwyta llysiau a ffrwythau
- Rhoi cynnig ar wahanol lysiau a ffrwythau – bwyta’n iach
Gwyddoniaeth a thechnoleg
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig:
- Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau
- Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas
- Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi
Cyflawnwyd trwy’r camau canlynol:
- Coginio tatws a betys
- Trafod ac ymchwilio i bwysigrwydd gwrtaith
- Defnyddio offer torri i dorri a pharatoi llysiau i wneud cawl
- Ymchwilio i gylchoedd bywyd llysiau ac ieir bach yr haf
- Defnyddio tail o’n hieir ein hunain
- Ymchwilio i’r amodau sydd eu hangen i dyfu llysiau
- Adeiladu fframiau i’r ciwcymbrau a’r pys dyfu
- Ailgylchu bwyd i greu compost
Y dyniaethau
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig:
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol
- Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol
- Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol
Cyflawnwyd trwy’r camau canlynol:
- Dysgu am ardaloedd lleol – ymweld â’r parc lleol
- Dysgu am bwysigrwydd ailgylchu
- Astudio map i ddysgu sut i gyrraedd yno
- Dysgu am y cysyniad o gynaliadwyedd
- Ymweld â Gardd Fotaneg Cymru
- Sicrhau bod blodau gwyllt ar gael i wenyn
- Ymweld â chanolfan leol i gael cadis bwyd
- Dysgu am bwysigrwydd mwydod ar gyfer compost
Y celfyddydau mynegiannol
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig:
- Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
Cyflawnwyd drwy’r camau canlynol:
- Defnyddio llysiau i greu celf bwyd
- Ffeltio blodau â nodwydd
- Ymchwilio i artistiaid enwog