Dangoswch y data i mi!
Nod Prosiect Pedair Afon LIFE yw gwella cyflwr pedair afon ACA (Ardal Cadwraeth Arbennig) yn ne Cymru, sef afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg.
Mae pob un o’r pedair afon ar hyn o bryd yn methu eu targedau ecolegol o ganlyniad i bwysau megis ansawdd a swm dŵr, rhwystrau o waith dyn, newid hinsawdd, diraddio cynefinoedd, a rhywogaethau estron goresgynnol.
Yma mae Sophie Gott, Uwch-swyddog Monitro ar gyfer Prosiect Pedair Afon LIFE, yn sôn am weithgarwch monitro’r prosiect, gan ganolbwyntio’n benodol ar ei gwaith diweddar yn arolygu rhywogaeth o bysgod o’r enw’r wangen.
Beth yw monitro a pham mae’n bwysig?
Y data a’r dystiolaeth a gasglwn yn ein harolygon sy’n llywio ein gwaith a’r penderfyniadau a wnawn dros oes y prosiect hwn.
Mae hefyd yn cefnogi sut rydym yn mesur cynnydd yn erbyn targedau ac yn cyfleu'r effeithiau y mae ein gwaith yn eu cael.
Mae cyfoeth o ddata eisoes yn bodoli mewn sefydliadau fel y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol, y Ganolfan Adfer Afonydd (partner y prosiect LIFE), a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn CNC i ddefnyddio eu data, lle bo'n briodol, fel ‘llinell sylfaen’. Mae hyn yn rhoi man cychwyn i ni ar gyfer cyfrifo a mesur cynnydd yn erbyn amcanion ein prosiect.
Bydd ein holl waith monitro yn defnyddio dull cyn ac ar ôl, rheolaeth ac effaith (BACI). Bydd yn ystyried amcanion y prosiect a’r gyfradd ymateb sy’n debygol o ddod o’n technegau adfer, a’u heffeithiolrwydd yn y tymor byr, canolig a hir.
Fel rhan o'r prosiect, rydym yn monitro mudo pysgod a chysylltedd yr afonydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar un rhywogaeth bwysig – y wangen.
Mae’r wangen yn un o bysgod prinnaf Prydain gyda dim ond pedair afon yn y DU yn cael eu cydnabod fel rhai â phoblogaethau bridio. Mae tair o'r afonydd hyn yng Nghymru – afonydd Tywi, Wysg a Gwy.
Y wangen oedd un o’r pysgod cyntaf i gael ei gwarchod yn y DU, ac roedd presenoldeb poblogaethau yn afonydd Cymru yn ffactor allweddol a gyfrannodd at eu dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).
Mae Afon Hafren hefyd yn gartref i boblogaethau gwangod ond ar hyn o bryd dim ond yn yr afon ar ochr Lloegr i'r ffin y maent i'w cael.
Mae ‘Datgloi’r Hafren’ yn brosiect LIFE sydd â'r nod o adfer 158 milltir o'r afon, gan alluogi gwangod i gyrraedd eu mannau silio naturiol unwaith eto. Gallwch ddarllen mwy am y prosiect yma.
Beth mae monitro gwangod wedi ei ddangos i ni hyd yn hyn?
Mae gwangod (Alosa fallax) yn lliw arian (gweler llun isod) ac yn bysgod dŵr halen y teulu penwaig. Mae pysgod llawndwf fel arfer tua 30cm o hyd pan fyddant yn mudo i fyny afonydd i silio.
Maent yn mudo o'r môr i fyny ein hafonydd dŵr croyw ym mis Mai ac yn cyrraedd eu man silio tua mis Mehefin. Credir mai tymheredd y dŵr a hyd y dydd yw'r ffactorau allweddol sy'n sbarduno'r mudo silio.
Pysgod sy'n nofio'n gyflym yw gwangod o ran hyd corff yr eiliad. Fodd bynnag, mae eu hanallu i neidio dros rwystrau neu ymdopi â chyflymder dŵr cyflym iawn wedi golygu bod coredau yn broblem sylweddol iddynt.
Er bod y wangen yn bysgodyn môr, mae'n rhaid iddi fynd i mewn i ddŵr croyw i atgenhedlu. Dim ond 30 diwrnod o'r flwyddyn maent yn treulio ar gyfartaledd yn ein hafonydd, gyda'r rhan fwyaf yn dychwelyd i'r môr ar ôl silio.
Mae ein prosiect wedi bod yn arolygu am wangod yn Afon Tywi mewn perthynas â rhwystrau yn Llangadog ac ymhellach i fyny'r afon.
Mae arolygon hanesyddol wedi dangos bod wyau gwangod yn bresennol cyn belled â hyn i fyny dalgylch yr afon ar adegau prin. Fodd bynnag, mae silio yn digwydd yn fwy nodweddiadol o Landeilo i lawr yr afon.
Mae ein harolygon sylfaenol yn 2022 a 2023 wedi dangos bod silio wedi digwydd cyn belled i fyny’r afon â Llandeilo eleni, a Nantgaredig y llynedd.
Yn Afon Wysg, mae gwangod yn silio'n rheolaidd cyn belled i fyny'r afon â'r Fenni, ac maent hefyd wedi'u cofnodi yn y darn rhwng y Fenni a Chrugchywel, er yn llai aml.
Mae arolygon gwangod eleni eto wedi dangos nad yw gwangod wedi silio i fyny'r afon o bont Llan-ffwyst (y Fenni). Roedd hyn hefyd yn wir yn 2022.
Mae pontydd Crughywel (gweler llun isod) a Llan-ffwyst yn groesfannau priffyrdd lle mae sylfeini concrit helaeth yn cynnal y pontydd. Maent yn ffurfio rhwystrau rhannol (Llan-ffwyst) neu gyflawn (Crughywel) i fudo pysgod.
Efallai mai un ffactor allweddol yw’r glawiad isel a’r llifau afonydd is yr ydym wedi’u profi dros fisoedd y gwanwyn eleni a’r llynedd.
Mae hyn yn golygu bod cyfaint y dŵr sy'n mynd dros y sylfeini hyn yn isel, ac mae'r gostyngiad o'r sylfeini yn rhy uchel i wangod basio.
Pwysau yn wynebu gwangod yn ein hafonydd
Y prif ffactorau sy'n effeithio ar leihad poblogaeth y gwangod yw rhwystrau mewn afonydd, llif dŵr ac ansawdd dŵr.
Mae gwangod yn wahanol i rywogaethau pysgod eraill, oherwydd cyn gynted ag y byddant yn cael y sbardunau i fynd i fyny'r afon, mae ganddynt gyfnod byr o amser i wneud y mudo hwnnw, silio, a dychwelyd i'r môr.
Ar y llaw arall, gall eogiaid gymryd sawl wythnos i fudo i fyny'r afon ac maent yn fwy abl i aros am yr amodau cywir i wneud hynny.
Gall gwangod hefyd silio mewn lleoliadau llai na delfrydol os nad yw amodau'n caniatáu iddynt fudo ymhellach. Gall hyn arwain at ostyngiad mewn cyfraddau goroesi wyau a llai o amrywiaeth enetig yn y boblogaeth.
Mae gwangod yn gallu ymdopi â rhai rhwystrau, ond os ydynt yn defnyddio eu hegni i fynd heibio i un rhwystr, mae'r tebygrwydd y byddant yn llwyddo i basio'r nesaf yn dirywio ac maent yn fwy tebygol o fod â diffyg egni i nofio ymhellach i fyny'r afon.
Mae’n hollbwysig inni sicrhau nad yw adeileddau o waith dyn yn cyfrannu at y golled egni hon, a’r gostyngiad yn y cynefin silio sydd ar gael.
Gall swm y dŵr chwarae rhan o ran a yw gwangod (neu bysgod eraill) yn gallu pasio rhwystr. Gall yr hyn y gellid ei basio mewn un gwanwyn, lle mae’r afonydd yn profi llifoedd uwch, fod yn rhwystr llwyr mewn blynyddoedd eraill lle mae llif afonydd yn isel.
Mae ansawdd dŵr hefyd yn allweddol i oroesiad wyau. Mae angen dŵr glân ffres arnynt gyda digon o ocsigen i ddatblygu. Mae cadw mewnbynnau maethynnau i lawr hefyd o fudd i'r rhywogaeth ac mae'n un o nodau'r prosiect.
Gallai diffyg gorchudd coed ar hyd glan yr afon olygu y gallai tymheredd yr afon hefyd fod yn cynyddu ac yn methu ag oeri.
Gall coed ar hyd afonydd helpu i sefydlogi glannau’r afon gyda’u gwreiddiau, ond maent hefyd yn darparu cysgod a gorchudd pwysig, gan oeri’r afon wrth iddi lifo wrth ar yr un pryd ddarparu cysgod y mae mawr ei angen ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt arall.
Bydd sefydlogi glan yr afon hefyd yn helpu i reoli faint o waddod mân sy'n mynd i'r afon. Gall gwaddodion rwystro graean, gan leihau'r cynefin sydd ar gael i wyau setlo, a mygu wyau trwy leihau'r ocsigen sy'n cael ei amsugno.
Sut ydyn ni'n monitro gwangod?
Wrth wneud arolwg o afon, rydym yn chwilio am ran lle mae gan yr afon ddarn llyfnach o ddŵr (llithriad) i fyny'r afon ac yna darn bas, crychlyd (riffl) i lawr yr afon. Dyma'r senario berffaith.
Wrth arolygu, byddwn yn gosod ein hunain gyda'r llithriad y tu ôl i ni a'r riffl o'n blaenau (gweler llun isod).
Mae'r swbstrad yn cael ei gicio am ychydig eiliadau, gyda'r rhwyd yn cael ei dal i lawr yr afon, ac archwilir cynnwys y rhwyd. Mae'r holl wyau gwangod yn cael eu cyfrif a'u rhyddhau yn ôl i'r afon ar unwaith.
Bydd y gwangod yn silio yn y nos, ar wyneb y dŵr yn ardaloedd tawelach dyfnach yr afon. Bydd yr wyau'n arnofio'n araf i lawr yr afon, gan setlo i'r graean yn y rifflau lle mae'r cynnwrf yn darparu mwy o ocsigen yn yr afon, gan ddarparu'r amodau perffaith ar gyfer yr wyau wrth iddynt dyfu.
Bydd gwaith monitro yn parhau ar gyfer gwangod, a physgod eraill fel eogiaid a llysywod pendoll, yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Dysgwch fwy am ein prosiect trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr neu drwy ein dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram.