Adfer ein hafonydd – sut gall pren fod yn rhan o’r ateb
Nod prosiect Pedair Afon LIFE yw gwella pedair afon - o ran eu cynefinoedd a’r ffordd y maent yn llifo ac yn gweithio - mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Yr afonydd yw: afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau ac afon Wysg.
Ar afon Cleddau Wen yn Sir Benfro, mae swyddogion prosiect wedi cwblhau gwaith i gyflwyno pren i'r afon fel rhan o ymdrechion i adfer strwythur naturiol yr afon.
Yn y blog hwn, mae Swyddog Adfer Afonydd Pedair Afon LIFE, Duncan Dumbreck, yn esbonio pwysigrwydd y gwaith.
Hanes Afon Cleddau yng Nghors Llangloffan
Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Cleddau Wen yn cynnwys Cors Llangloffan - gwlyptir isel sydd wedi'i leoli i fyny'r afon o bentref Treletert yn Sir Benfro.
Mae'r gors yn Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac, fel a nodwyd, yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Gorllewin Cleddau.
Rheolir y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn rhannau gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a rhai tirfeddianwyr preifat.
Mae ACA Afon Cleddau wedi’i diogelu gan ei bod yn gartref i boblogaethau pysgod pwysig fel pennau lletwad a llysywod pendoll, yn ogystal â dyfrgwn a phlanhigion prin fel crafanc y dŵr.
Delweddau o'r chwith i'r dde - Penlletwad a Llysywen Bendoll, Dyfrgi a Chrafanc y Dŵr (lluniau Jack Perks).
Mae gan yr afon hanes hir o addasiadau yn dyddio'n ôl i'r 1800au. Mae arferion fel sianelu (hynny yw, sythu) a charthu (hynny yw, tynnu clogfeini a graean o’r afon) wedi arwain at wely afon cymharol ddinodwedd, gyda rhannau'n debycach i ffos nag afon droellog naturiol.
Erbyn diwedd y 1970au, sylweddolwyd bod yr afon ymhlith yr olaf o gynefin gwerthfawr, ac felly rhoddwyd terfyn ar ymdrechion i'w addasu.
Pam ydyn ni'n cyflwyno pren i'r afon?
Ers y 1980au mae ymchwil wedi amlygu pwysigrwydd a gwerth pren yn ein hafonydd, ac mae tystiolaeth bellach yn dangos inni fanteision pren i’r ecosystem - naill ai o gael ei adael yno, neu drwy ei gyflwyno yn ôl i’n hafonydd.
Mae coed sydd wedi cwympo’n naturiol yn rhan hanfodol o afon iach gan eu bod yn helpu i amrywio strwythur yr afon ac yn darparu cynefin pwysig i infertebratau a physgod. Mae bodolaeth amrywiaeth o rywogaethau o bryfed, ffyngau a microbau eraill yn dibynnu ar bresenoldeb pren.
Gall gadael coed sydd wedi cwympo yn sianel yr afon (lle nad yw’n achosi perygl llifogydd i eiddo, wrth gwrs) helpu afonydd i adfer gan fod malurion pren yn gweithredu fel catalydd i ddal graean a silt, codi lefelau gwely’r afon, a helpu i greu patrymau llif gwahanol.
Er mwyn cynyddu adferiad afon Cleddau Wen, mae prosiect Pedair Afon LIFE yn defnyddio dull a elwir yn adfer ar sail proses.
Trwy ddynwared prosesau naturiol yr afon a chwyddo prosesau buddiol, rydym yn galluogi’r afon i gymryd rheolaeth ac i adfer ei hun dros amser.
Yn yr achos hwn, cyflwynwyd pren mawr i'r sianel ac ar hyd y glannau i ddynwared yr hyn sy'n digwydd pan fydd coeden yn disgyn i'r afon yn naturiol.
Mae'r afon bellach yn llifo o gwmpas a thrwy'r coed, sy'n rhoi llai o le yn y sianel ac sy’n gorfodi'r dŵr yn erbyn y glannau gyferbyn.
Mewn llifoedd uchel mae lefel y dŵr i fyny'r afon yn cynyddu ychydig, gan gynyddu'r pwysau ac felly mae'n rhaid i ddŵr sy'n gwthio heibio'r coed lifo'n gyflymach. Mae'r llif cyflymach hwn yn achosi rhywfaint o erydu mewn mannau ar lannau'r afon. Bydd yr erydiad yma’n dechrau ystumiau newydd yn y sianel - a fyddai’n annaturiol o syth fel arall.
Lluniau uchod: pren a gyflwynwyd eleni gyda'r nod o roi hwb i'r broses ailnaturioli (lluniau CNC).
Wrth i ddeunydd fel graean o'r erydu fynd i orwedd yng nghysgod y llif (sef ardal amhendant o ddŵr llac) i lawr yr afon o'r coed, crëir gwelyau graean newydd hefyd. Mae canlyniadau'r broses honno i'w gweld yn y llun isod, dim ond pedwar mis ar ôl ychwanegu pren i'r sianel (llun CNC).
Mae coed yn gynefin deinamig iawn. Wrth i'r pren bydru a thorri, bydd maint a siâp y pren yn newid. Hefyd, bydd darnau eraill o bren o ymhellach i fyny'r afon yn arnofio i lawr ac yn mynd i orwedd yn sownd i ddarnau mwy sefydlog. Mae'r dynameg hwn yn golygu bod cynefinoedd newydd yn cael eu creu - a'u bod yn newid yn barhaus.
Mae'r coed yn darparu cysgod i bysgod, lle i ochel rhag llif cyflym, dŵr sydd ychydig yn oerach, man i guddio rhag rhag ysglyfaethwyr, marciau tiriogaeth, cyfle i fwydo a mannau bridio.
Wrth i amser fynd yn ei flaen rydym yn gobeithio gweld mwy o bysgod a bywyd gwyllt yn y rhan hon o Gors Llangloffan, a byddwn yn parhau i fonitro’r safle wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
Ceir rhagor o wybodaeth am y dull hwn o adfer yn llyfryn yr Ymddiriedolaethau Natur ar Reoli Malurion Pren
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu gallwch danysgrfio i'n cylchlythyr yma