Sut gall clogfeini adfer afonydd?

Gwaith prosiect Pedair Afon LIFE yw gwella strwythur cynefin a swyddogaeth y pedair afon ACA: Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Cleddau ac Afon Wysg.

Ar ddiwedd hydref 2023, dechreuodd prosiect adfer cynefinoedd afon ar Afon Cleddau Wen yn Sir Benfro.

Ailgyflwynodd y prosiect glogfeini i sianel yr afon i greu cynefin mwy amrywiol ac adfer prosesau naturiol yr afon.

Yn y blog hwn, mae’r Swyddog Adfer Afonydd, Duncan Dumbreck, sy’n gweithio ar brosiect Pedair Afon LIFE, yn sôn am y gwaith hwn a sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth.

Edrych yn ôl – beth ddigwyddodd a pham?

Mae rhannau o Afon Cleddau Wen yn llifo’n agos at bentref Treletert yn Sir Benfro ac wrth arolygu’r ardal yn 2022 daethpwyd o hyd i glogfeini mawr ar hyd lan yr afon.

Credir i’r clogfeini gael eu tynnu o’r afon fel rhan o waith carthu hanesyddol ar ddiwedd y 1960au.

Cadarnhawyd hyn gan bresenoldeb clogfeini o fathau a meintiau tebyg a ddarganfuwyd gerllaw.

Roedd y clogfeini hyn yn dangos arwyddion clir o hindreulio ac erydu, yn wahanol i glogfeini amddiffyn y glannau, sydd wedi’u cloddio ac yn onglog eu siâp.

Yn wreiddiol, dyddodwyd y clogfeini yn y rhan hon o’r afon gan rewlifoedd, yn fwyaf tebygol, yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.

Fe’u clystyrwyd gyda’i gilydd yn y rhan hon, gan ddylanwadu ar yr afon a’i phrosesau i fyny o’r lleoliad nes iddynt gael eu symud.

Gwnaeth symud y clogfeini ansefydlogi gwely’r afon, gan achosi i’r graean mân gael eu herydu a’u cludo i lawr yr afon pan oedd yn llifo’n gryf.

O ganlyniad, gostyngodd gwely’r afon, gan greu siâp sianel newydd yn unol â’r llif a’r gwaddod a oedd yno. Byddai hyn wedi newid y cynefin yno yn sylweddol - o ran cymhlethodd ac argaeledd i greaduriaid.

Sut bydd clogfeini yn helpu’r afon?

Er bod gan afonydd allu rhyfeddol i adfer eu hunain, gall fod yn broses araf iawn - ac mae’n dibynnu ar faint o raean sydd ar gael a’r grym y mae ei angen i’w symud.

Nid oes gan yr afon ar y rhan hon y grym i symud y clogfeini ar ei phen ei hun, ac felly ar y safle hwn dewisodd y prosiect ddychwelyd y clogfeini i’r afon i gynorthwyo adferiad naturiol a chreu mwy o gymhlethdod o ran y cynefin.

Dychwelwyd y clogfeini i’r sianel gan ddefnyddio peiriannau estyniad hir (gweler y llun isod).

Wrth i’r clogfaen cyntaf gael ei osod yn ôl yn yr afon, gwelwyd ei effaith ar unwaith. Bellach, rhaid i ddŵr a oedd gynt yn gallu llifo’n rhydd i lawr yr afon fynd o gwmpas neu dros y clogfaen.

Mae hyn yn creu amrywiaeth o ran llif: mae’r dŵr yn cyflymu naill ochr i’r clogfaen ac yn arafu i fyny’r afon ac i lawr yr afon.

Clogfeini yn creu cynefin i fywyd gwyllt

Wrth i ragor o glogfeini gael eu dychwelyd, rydym wedi gweld mwy o newid eto wrth iddynt effeithio ar lif yr afon.

Mae’r mathau gwahanol hyn o lif yn creu cynefinoedd ar gyfer gwahanol bryfed sy’n rhan o’r gadwyn fwyd, sy’n cadw rhywogaethau fel eogiaid a dyfrgwn yn hapus.

Mae’r cysgodion llif (ardal gynnil o ddŵr mwy llonydd i lawr yr afon o’r clogfeini) yn rhoi cyfle i bysgod eu defnyddio fel mannau gorffwys, wrth iddynt symud i fyny ac i lawr yr afon a nofio o un clogfaen i’r llall i arbed eu hegni.

Gall clogfeini helpu i symud graean, tywod a silt

Bydd y gwahaniaeth mewn cyflymder llif hefyd yn dylanwadu ar y ffordd y mae’r afon yn cludo graean, tywod a silt.

Mae’r afon yn didoli meintiau gwahanol y gwaddodion hyn yn ffurfiau naturiol (y crychdonnau a’r twyni ar wely afon).

Trwy osod y clogfeini mewn grwpiau ac mewn gwahanol ffyrdd, gallwn annog yr afon i ffurfio gwahanol fathau o lif a chynefin, gan gynyddu nifer y gwahanol fathau o gynefin yn y darn hwnnw o afon.

Mae rhan fwyaf o’r effeithiau hyn yn fach iawn mewn amodau llif isel, ond cyn gynted ag y bydd yr afon yn dechrau codi, mae’n dechrau codi graean a thywod, gan gludo’r gwaddodion hyn i lawr yr afon a’u dyddodi mewn ardaloedd llai grymus.

Beth nesaf i Afon Cleddau?

Yn fuan ar ôl cwblhau’r gwaith, bu glaw trwm a diflannodd y clogfeini o dan wyneb y dŵr, ond roedd y newid yn y llif yn dal i’w weld yn glir.

Mae arolygon blaenorol o bysgod a thrychfilod dyfrol wedi canfod cymysgedd o frithyllod, llysywod pendwll, pennau lletwad a chrethyll yn y rhan hon o’r afon.

Bydd y cynefin hwn wedi’i adfywio yn hanfodol i oroesiad rhywogaethau fel eogiaid, sydd mewn perygl o ddiflannu mewn rhai afonydd yng Nghymru.

Mae adfer cynefinoedd yn broses araf iawn a gall gymryd cannoedd o flynyddoedd. Bydd y gwaith hwn yn rhoi hwb i’r broses adfer trwy ddefnyddio dulliau a fyddai’n digwydd yn naturiol.

Rydym yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r safle yn y gwanwyn i fonitro effaith y gwaith.

Cyn: rhan o’r afon wedi’i thargedu ar gyfer ailgyflwyno clogfeini

Ar ôl: clogfeini wedi’u hailgyflwyno i’r afon

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru