Adroddiad blynyddol 2021-22
Rhagair y Cadeirydd
Croeso i adroddiad blynyddol a chyfrifon CNC ar gyfer 2021/22.
Roedd y pandemig yn her i bob un ohonom fabwysiadu dulliau gweithio newydd yn ddi-oed, ac rydym yn parhau â'r momentwm hwn i sbarduno arloesedd a bod yn fwy ymatebol eto i anghenion cwsmeriaid. Mae ein rhaglen Adfywio yn adolygu ble a sut rydym yn gweithio – gan edrych ar ein hadeiladau, ein cludiant a'n peiriannau. Mae lleihau ein hôl troed carbon yn hanfodol wrth i ni gyfrannu at gyrraedd y targedau sero net. Hefyd, rydym yn gwella ein cynnig digidol, gan alluogi ein cwsmeriaid i ymgysylltu â ni'n fwy effeithiol, gan sicrhau arbedion effeithlonrwydd i bob un ohonom.
Wrth i'r cyfyngiadau godi, mae'n amlwg bod manteision gweithio ar-lein yn enfawr o safbwynt teithio llai, mynediad cyfartal a thryloywder, a rhaid sicrhau bod y manteision hyn yn parhau. Fodd bynnag, bydd ailgysylltu â phartneriaid a chydweithwyr trwy ddigwyddiadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn bwysig, ac yn hanfodol ar gyfer cryfhau cysylltiadau a meithrin rhai newydd. Mae ein rhanddeiliaid yn bwysig iawn i ni, felly rydym wrthi'n archwilio sut y gallwn sicrhau bod ein hymgysylltiad yn ystyrlon, yn bwrpasol ac yn effeithiol.
Mae'r dull gweithredu hwn wedi bod yn allweddol fel rhan o waith y tasglu Ansawdd Afonydd Gwell. Gwyddom fod y seilwaith i ddelio â'n carthffosiaeth yng Nghymru o dan bwysau sylweddol oherwydd y newid yn yr hinsawdd, newidiadau mewn dwysedd a dosbarthiad y boblogaeth, a datblygiadau newydd. Heb weithredu, bydd y pwysau hwn yn cyfrannu at gynnydd yn y llifoedd mewn gweithfeydd trin, gan arwain at gynnydd posibl yn nifer y gollyngiadau o orlifoedd storm (y cyfeirir atynt fel gorlifoedd) sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar ein hamgylchedd dŵr.
Mae camau gweithredu cydgysylltiedig rhwng sefydliadau yn hanfodol er mwyn newid a gwella sut rydym yn rheoli ac yn rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru o safbwynt amgylcheddol. Mae'n dda gennyf weithio gyda chydweithwyr CNC, Llywodraeth Cymru, Ofwat, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, Afonydd Cymru a Chyngor Cwsmeriaid Cymru ar y tasglu, sydd wedi bod yn gweithio'n ddiwyd tuag at gyhoeddi llwybr ar y cyd ar gyfer gwella ansawdd afonydd yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio i ddechrau ar orlifoedd storm, ac mae'n darparu sylfaen ardderchog ar gyfer rhagor o gydweithio er mwyn gwella'r sefyllfa o safbwynt gollyngiadau carthion yng Nghymru.
Mae datblygu'r model newydd hwn o weithio mewn partneriaeth wedi bod yn gyffrous gan ein bod wedi gweithio ar draws ffiniau sefydliadol i feithrin dealltwriaeth gyffredin o'r materion, a’r cyfraniad y gallwn ei wneud ar y cyd ac fel sefydliadau unigol at fynd i'r afael â'r mater hollbwysig hwn o ansawdd dŵr. Mae neilltuo'r amser hwn yn bwysig ac rwy'n hyderus y bydd yn rhoi sylfaen gadarn i ni symud ymlaen yn gyflym i fynd i'r afael â phryderon y cyhoedd.
Yn olaf, yn fy mhedwaredd flwyddyn fel Cadeirydd, hoffwn ddiolch i'n staff am eu holl waith caled wrth barhau i gyflawni yn ystod heriau'r pandemig, a hoffwn ddiolch i Aelodau ein Bwrdd am eu cefnogaeth barhaus - yn enwedig y rhai sydd wedi dod i ddiwedd eu cyfnod gyda ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Elizabeth Heywood a Howard Davies wedi bod yn gwbl allweddol i waith y bwrdd, ac rwy'n diolch yn ddiffuant iddynt am eu cefnogaeth dros y chwe blynedd y bu'r ddau yn gwasanaethu ar y bwrdd.
- Syr David Henshaw, Cadeirydd
Archwilydd Cyffredinol Cymru: Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio'r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio'n wreiddiol. Cyfieithiad o'r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw'r fersiwn hwn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid y Archwilydd Cyffredinol.
Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw cynnal gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru a sicrhau ei chywirdeb; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac, yn unol â hynny nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau y gellid bod wedi'u gwneud i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan yn gyfan.
Adroddiad ar berfformiad
Adroddiad ar berfformiad 2021/22
Adroddiad atebolrwydd
Datganiadau ariannol a nodiadau i’r cyfrifon
Datganiadau ariannol a nodiadau i’r cyfrifon ar gyfer 2021/22 (PDF)