Adroddiad atebolrwydd 2022/23
Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad blynyddol a'n cyfrifon 2022/23
Mae ein Hadroddiad Atebolrwydd yn amlinellu'r prif nodweddion o sut rydym yn rheoli ein sefydliad. Mae ganddo dair adran.
Yn y tudalennau canlynol, bydd ein Hadroddiad Llywodraethu Corfforaethol yn egluro pwy yw ein Bwrdd a'n tîm uwch-reoli, sut maen nhw'n gweithio, a'r trefniadau llywodraethiant sydd ar waith i sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu rheoli a'u goruchwylio'n effeithiol er mwyn cyflawni ein hamcanion.
Mae ein Hadroddiad Cyflogau a Staff yn disgrifio sut rydym yn ymdrin â chyflogau'r Bwrdd ac uwch-reolwyr yn ogystal â darparu trosolwg o gyfansoddiad ein staff.
Mae ein Hadroddiad Atebolrwydd Seneddol ac Archwilio yn dwyn ynghyd ofynion ychwanegol y gofynnir amdanynt i ddangos ein hatebolrwydd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rheoleidd-dra gwariant, a'r farn a roddwyd gan ein harchwilydd allanol.
Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol
Adroddiad y Cyfarwyddwyr
Mae’r Tîm Gweithredol yn cynnwys y Prif Weithredwr a’r tîm o gyfarwyddwyr gweithredol sy’n ei gefnogi. Ni fu unrhyw newidiadau i’r Tîm Gweithredol yn ystod 2022-23.
Enw |
Deiliad y swydd |
Hyd gwasanaeth yn y Tîm Gweithredol |
---|---|---|
Prif Weithredwr |
Clare Pillman |
26 Chwefror 2018 – presennol |
Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu |
Ceri Davies |
1 Ebrill 2013 – presennol |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol |
Rachael Cunningham |
7 Medi 2020 – presennol |
Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau |
Gareth O’Shea |
27 Ebrill 2015 – presennol |
Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol |
Prys Davies |
1 Ebrill 2019 – presennol |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol |
Sarah Jennings |
7 Medi 2020 – presennol |
Mae’r gofrestr ganlynol yn nodi buddiannau ein Tîm Gweithredol fel yr oeddent ym mis Mawrth 2023.
Enw |
Swydd |
Buddiant |
Unigolyn |
Rôl |
---|---|---|---|---|
Clare Pillman |
Prif Weithredwr |
Preswylydd mewn ardal a allai gael ei hystyried ar gyfer y Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig |
Personol |
N/A |
Clare Pillman |
Prif Weithredwr |
Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth |
Personol |
Aelod o Fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru |
Ceri Davies |
Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu |
Arall |
Personol |
Aelod o'r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff |
Prys Davies |
Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol |
Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth |
Personol |
Llywodraethwr, Ysgol Pen-cae, Caerdydd |
Gareth O’Shea |
Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau |
Dim buddiannau i'w datgan |
N/A |
N/A |
Rachael Cunningham |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol |
Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth |
Personol |
Ymddiriedolwr elusen Chwarae Teg |
Sarah Jennings |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol |
Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth |
Personol |
Ymddiriedolwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru |
Sarah Jennings |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol |
Aelodaeth weithredol neu anweithredol o fwrdd, pwyllgor neu ymddiriedolaeth |
Personol |
Ymddiriedolwr Sefydliad Cymunedol Cymru |
Mae datganiad o fuddiannau'r Cadeirydd wedi cael ei adolygu gan gadeirydd newydd a chadeirydd ymadawol y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a'r Pennaeth Llywodraethiant ac Ysgrifennydd y Bwrdd.
Mae'r gofrestr buddiannau ar gyfer aelodau o’n Bwrdd ar gael ar ein gwefan o dan Cofrestr Buddiannau.
- Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 18 Hydref 2023
Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu
Mae paragraff 23 (1) o'r Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i CNC lunio datganiad o gyfrifon bob blwyddyn ariannol, ar y ffurf a'r sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar ffurf croniadau, a rhaid iddynt roi darlun gwir a theg o sefyllfa CNC ac o'r incwm a gwariant, y newidiadau yn ecwiti trethdalwyr, a'r llifoedd arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth a gwneud y canlynol:
- cadw at y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a chymhwyso polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson
- gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol
- nodi a ddilynwyd y safonau cyfrifyddu perthnasol a nodwyd yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, a datgelu ac egluro unrhyw amrywiadau perthnasol yn y datganiadau ariannol
- paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw
- cadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad oedd archwilwyr CNC yn ymwybodol ohoni, a chymryd pob cam i wneud ei hunan yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a sicrhau bod archwilwyr CNC yn ymwybodol o'r wybodaeth honno
- cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol amdanynt ac am y dyfarniadau sydd eu hangen i bennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.
Mae’r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol i Lywodraeth Cymru wedi dynodi Prif Weithredwr CNC fel ei Swyddog Cyfrifyddu. Cyfrifoldebau'r Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, yw sicrhau priodoldeb a rheoleidd-dra'r cyllid cyhoeddus y mae'n atebol amdano; cadw cyfrifon priodol; gweinyddu mewn modd darbodus ac economaidd; osgoi gwastraff a gorwario; a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac effeithiol, fel y nodwyd yn y Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu CNC.
Datganiad Llywodraethiant
Mae'r datganiad hwn yn nodi'r strwythurau llywodraethiant a’r fframweithiau rheoli a sicrhau mewnol sydd wedi gweithredu yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 ac mae’n unol â chanllawiau Trysorlys ei Mawrhydi a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.
Fel y Swyddog Cyfrifyddu dynodedig ar gyfer CNC, fy rôl hefyd yw diogelu arian cyhoeddus ac asedau sefydliadol drwy roi trefniadau ar waith ar gyfer llywodraethu ein materion ac arfer ein swyddogaethau mewn modd effeithiol. Gallaf gadarnhau fod yr wybodaeth yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn gywir ac yn gyfrif teg o sut mae'r sefydliad wedi cyflawni ei swyddogaethau eleni. Cadarnhaf hefyd nad oes gwybodaeth heb ei chasglu sydd wedi dod i'm sylw, neu wybodaeth yr wyf yn ymwybodol ohoni, nad yw wedi cael ei chyflwyno er sylw Archwilio Cymru.
Ein strwythur llywodraethu
Mae ein strwythur sefydliadol yn dangos sut rydym wedi'n sefydlu i weithio a chyflawni ein hamcanion.
Penodir aelodau ein Bwrdd gan Weinidogion Cymru, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus, ac felly mae ein cadeirydd yn atebol i'n Gweinidog nawdd yn Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, mae gennym 13 o aelodau bwrdd sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol, dan arweiniad ein cadeirydd, Syr David Henshaw, gydag 11 aelod anweithredol a finnau fel aelod gweithredol o'r Bwrdd. Yr Athro Steve Ormerod yw is-gadeirydd penodedig CNC a Julia Cherrett yw'r Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol. Cyflwynwyd y rôl Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol i gefnogi'r cadeirydd yn ei rôl, gweithredu fel cyfryngwr ar gyfer cyfarwyddwyr anweithredol pan fo angen; arwain y cyfarwyddwyr anweithredol wrth oruchwylio'r cadeirydd, a sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu’n glir rhwng y cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Roedd saith newid i’n Bwrdd eleni: daeth tymor Paul Griffiths i ben ar 25 Mai 2022, tymor Catherine Brown i ben ar 8 Tachwedd 2022 a thymhor Karen Balmer i ben ar 31 Mawrth; cafodd yr Athro Peter Fox a Helen Pittaway eu penodi yn gyfarwyddwyr anweithredol o 16 Chwefror 2023; penodwyd Kathleen Palmer yn gyfarwyddwr anweithredol o 1 Ebrill 2023; a phenodwyd yr Athro Rhys Jones yn gyfarwyddwr anweithredol o 9 Mai 2023.
Er mwyn cyflawni ein dyletswyddau, rydym yn cwrdd fel Bwrdd llawn ac mae gwaith craffu ychwanegol yn cael ei wneud gan saith pwyllgor. Mae ein Tîm Gweithredol yn darparu diweddariadau strategol a gweithredol i'n Bwrdd a'n pwyllgorau o ran craffu a gwneud penderfyniadau yn ôl y gofyn.
Caiff pob pwyllgor ei gadeirio gan aelod anweithredol o'r Bwrdd a, heblaw am y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth, mae pob un yn cynnwys o leiaf tri aelod anweithredol arall o'r Bwrdd. Mae gan aelodau anweithredol eraill o'r Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau heb hawliau pleidleisio. Nid oes gennym Bwyllgor Enwebu, gan fod ein haelodau anweithredol o'r Bwrdd yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu meysydd ffocws gwaith a phresenoldeb ein Bwrdd a'n pwyllgorau.
Aelodau anweithredol |
Tymor |
Dyddiad dechrau |
Dyddiad gorffen cyfredol |
---|---|---|---|
Syr David Henshaw (Cadeirydd) |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2025 |
Yr Athro Steve Ormerod |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2025 |
Karen Balmer |
2 |
9 Tachwedd 2015 |
31 Mawrth 2023 |
Catherine Brown |
1 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2022 |
Julia Cherrett |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Mai 2023 |
Zoe Henderson |
2 |
9 Tachwedd 2015 |
8 Mai 2023 |
Yr Athro Peter Rigby |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2023 |
Yr Athro Calvin Jones |
2 |
1 Medi 2021 |
31 Hydref 2028 |
Mark McKenna |
2 |
1 Medi 2021 |
31 Hydref 2028 |
Paul Griffiths |
1 |
1 Medi 2021 |
25 Mai 2022 |
Dr Rosie Plummer |
2 |
1 Tachwedd 2018 |
31 Hydref 2024 |
Geraint Davies |
2 |
1 Ionawr 2019 |
31 Hydref 2024 |
Yr Athro Peter Fox |
1 |
1 Chwefror 2023 |
31 Hydref 2026 |
Helen Pittaway |
1 |
1 Chwefror 2023 |
31 Hydref 2026 |
Kathleen Palmer* |
1 |
1 Ebrill 2023 |
31 Hydref 2026 |
Yr Athro Rhys Jones* |
1 |
9 Mai 2023 |
31 Hydref 2027 |
* Wedi gwasanaethu fel Aelod Cyswllt o’r Bwrdd o 16 Chwefror 2023 tan ddechrau ei rôl fel aelod llawn o'r Bwrdd.
Cyfarfodydd y Bwrdd
Gwnaethom gynnal chwe chyfarfod deuddydd; cynhaliwyd dau gyfarfod rhithwir a phedwar wyneb yn wyneb yn dilyn llacio’r cyfyngiadau symud a roddwyd ar waith yn ystod pandemig COVID-19. Unwaith eto roedd aelodau'r cyhoedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac arsylwi arnynt. Mae'r eitemau sefydlog ar ein hagenda yn cynnwys y canlynol: cyllid yn ystod y flwyddyn; adrodd ar berfformiad; ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur; a diweddariadau strategol a gweithredol gan y cadeirydd, y Prif Weithredwr a phwyllgorau.
Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth eang o wybodaeth ynghylch ein gwaith ar ein gwefan, gan gynnwys papurau i'w hystyried gan y Bwrdd cyn y cyfarfodydd hynny a gynhelir yn gyhoeddus. Mae papurau Bwrdd yn cael eu paratoi gan ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael ac maent yn destun craffu a chymeradwyaeth fewnol cyn cyfarfodydd Bwrdd.
Mae holl ddyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol ac agendâu blaenorol ar gael ar ein gwefan, yn ogystal â'r papurau a'r cofnodion o'n sesiynau cyhoeddus.
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd 2022/23
Enw |
Presenoldeb yn y cyfarfodydd |
---|---|
Syr David Henshaw (Cadeirydd) |
5 allan o 6 |
Yr Athro Steve Ormerod |
6 allan o 6 |
Karen Balmer |
6 allan o 6 |
Catherine Brown |
2 allan o 3 |
Julia Cherrett |
6 allan o 6 |
Geraint Davies |
6 allan o 6 |
Zoe Henderson |
6 allan o 6 |
Yr Athro Calvin Jones |
6 allan o 6 |
Mark McKenna |
5 allan o 6 |
Paul Griffiths |
Amherthnasol |
Dr Rosie Plummer |
5 allan o 6 |
Yr Athro Peter Rigby |
6 allan o 6 |
Yr Athro Peter Fox |
1 allan o 1 |
Helen Pittaway |
1 allan o 1 |
Kathleen Palmer |
1 allan o 1 |
Yr Athro Rhys Jones |
1 allan o 1 |
Clare Pilman (Prif Weithredwr) |
6 allan o 6 |
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Prif rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yw cynghori'r Bwrdd a chynorthwyo'r Swyddog Cyfrifyddu yn y gwaith o fonitro, craffu ar a herio'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer archwilio, llywodraethu, rheolaethau mewnol a rheoli risg. Yn dilyn diwedd tymor Catherine Brown fel aelod o’r Bwrdd ar 8 Tachwedd 2022, cymerodd Karen Balmer yr awenau fel cadeirydd y pwyllgor hwn. Ar ddiwedd tymor Karen Balmer fel Aelod Bwrdd ar 31 Mawrth, daeth Kathleen Palmer yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn. Mae'r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod fel Swyddog Cyfrifyddu CNC, ynghyd â'n Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Mae aelodau'r Tîm Gweithredol bellach yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor i drafod unrhyw adroddiadau archwilio mewnol â sicrwydd cyfyngedig.
Y flwyddyn hon, rhoddodd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg sylw i amrediad o faterion, gan gynnwys y canlynol:
- Gwelliannau i'n dull rheoli risg
- Mapio sicrwydd sefydliadol
- Cynllun Archwilio Mewnol 2022/23
- Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2021/22 a chynlluniau ar gyfer yr adroddiad hwn, 2022/23
- Risg seiber
Presenoldeb aelodau'r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn 2022/23
Enw |
Nifer y cyfarfodydd |
Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd |
---|---|---|
Catherine Brown (cadeirydd, tan fis Tachwedd 2022) |
3 |
3 |
Karen Balmer (cadeirydd, rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Mawrth 2023) |
6 |
5 |
Kathleen Palmer (cadeirydd, o fis Ebrill 2023) |
1 |
1 |
Dr Rosie Plummer |
6 |
4 |
Yr Athro Peter Rigby |
6 |
6 |
Y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid
Mae'r Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid (y Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn flaenorol) yn ystyried materion sy'n ymwneud â rheoli pobl, gwobrwyo a newid sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio tâl ac amodau cyflogaeth staff ar y lefel uchaf, strategaeth dâl gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan CNC, darparu cynllun pensiwn, gwaith cynllunio sefydliadol, llesiant, iechyd a diogelwch, gofal cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a datblygu cynllun y Gymraeg. Yn dilyn diwedd tymor Zoe Henderson fel Cadeirydd ym mis Mehefin 2022, cymerodd Julia Cherrett yr awenau fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn. Ar ddiwedd tymor Julia Cherrett fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn ym mis Mawrth 2023, daeth Mark McKenna yn Gadeirydd y Pwyllgor. Mae'r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod.
Aeth y pwyllgor i'r afael ag amrywiaeth o faterion yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y canlynol:
- Llesiant, iechyd a diogelwch ac adolygiadau o ddigwyddiadau difrifol
- Gwaith craffu ar bolisïau Rheoli Pobl arfaethedig
- Recriwtio a'r broses recriwtio
- Mapio taith y cwsmer
- Cynllunio ar gyfer olyniaeth sefydliadol
- Y Strategaeth Profiad ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid
- Y Rhaglen Adfywio
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn 2022/23
Enw |
Nifer y cyfarfodydd |
Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd |
---|---|---|
Zoe Henderson (cadeirydd, hyd at fis Mehefin 2022) |
4 |
4 |
Julia Cherrett (cadeirydd, o fewn Mehefin 2022 hyd at fis Mawrth 2023) |
4 |
4 |
Karen Balmer |
4 |
4 |
Mark McKenna (cadeirydd, o fis Mawrth 2023) |
4 |
3 |
Y Pwyllgor Cyllid
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn darparu cyngor, trosolwg a gwaith craffu ar strategaeth, rheolaeth a pherfformiad mewn perthynas â chyllid, cynllunio busnes a pherfformiad, cynlluniau codi tâl, a materion masnachol. Wrth gyflawni ei rôl, mae'r pwyllgor yn canolbwyntio ar gyfeiriad a datblygu strategol, ond mae hefyd yn chwarae rôl wrth graffu ar berfformiad a chyflawniad. Mae Syr David Henshaw wedi bod yn gweithredu fel cadeirydd dros dro'r pwyllgor tan i Helen Pittaway gymryd y rôl o fis Mawrth 2023 ymlaen.
Eleni, gwnaeth y pwyllgor ystyried y canlynol:
- Monitro perfformiad ariannol yn ystod y flwyddyn
- Cynllunio ariannol a chynllunio’r busnes ar gyfer 2023/24
- Adolygiad strategol o godi tâl
- Goruchwylio gwerthu a marchnata pren
- Ymarferiad llinell sylfaen CNC
- Strategaeth grantiau
- Fframwaith ariannu caffael a chontractau
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid yn 2022/23
Enw |
Nifer y cyfarfodydd |
Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd |
---|---|---|
Syr David Henshaw (cadeirydd dros dro, hyd at fis Mawrth 2023) |
6 |
6 |
Helen Pittaway (cadeirydd, o fis Mawrth 2023) |
1 |
1 |
Julia Cherrett |
5 |
3 |
Paul Griffiths |
1 |
1 |
Yr Athro Calvin Jones |
6 |
6 |
Dr Rosie Plummer |
6 |
5 |
Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig
Mae'r Bwrdd wedi dirprwyo ei gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â deddfwriaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur a thirweddau gwarchodedig i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig. Mae aelodau o'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig hefyd yn cefnogi'r Tîm Gweithredol a'r Bwrdd drwy ddarparu cyngor ar faterion ehangach sy’n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos strategol, gan gynnwys rheoli tirweddau, Tirweddau Dynodedig, a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Gwnaeth y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig adolygu gwahanol feysydd gan gynnwys rôl CNC fel y dynodwr ar gyfer parc cenedlaethol newydd arfaethedig, y Polisi Bioamrywiaeth, a'r rhaglen cyflawni Safleoedd Gwarchodedig.
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn 2022/23
Enw |
Nifer y cyfarfodydd |
Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd |
---|---|---|
Dr Rosie Plummer (Cadeirydd) |
3 |
3 |
Geraint Davies |
3 |
2 |
Yr Athro Steve Ormerod |
3 |
3 |
Mark McKenna |
3 |
3 |
Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd
Mae'r pwyllgor yn gynghorol ac mae'n adrodd i Fwrdd CNC.
Ei brif gyfrifoldebau yw craffu ar raglenni buddsoddi Rheoli Perygl Llifogydd presennol a rhai ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac ystyried materion allweddol a allai effeithio ar gyflawni gwaith sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd yng Nghymru. Yn dilyn diwedd tymor Julia Cherrett fel Cadeirydd ym mis Mawrth 2023, cymerodd yr Athro Peter Fox yr awenau fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn.
Mae'r pwyllgor fel arfer yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd ynghyd â'r Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau, a'r Pennaeth Cyllid.
Gwnaeth y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd adolygu meysydd yn cynnwys:
- Blaenoriaethu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd
- Llywodraethu rhaglen gyfalaf rheoli perygl llifogydd
- Goruchwylio’r rhaglen adfer llifogydd ac adolygu’r rhaglen weithredu
- Sgiliau a chynllunio olyniaeth
- Goruchwylio gwaith i wella'r ffordd y mae CNC yn rheoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr
- Rheoli asedau
Presenoldeb aelodau'r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn 2022/23
Enw |
Nifer y cyfarfodydd |
Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd |
---|---|---|
Julia Cherrett (cadeirydd, hyd at fis Ebrill 2022, a rhwng mis Mai 2022 a mis Mawrth 2023) |
4 |
4 |
Paul Griffiths (cadeirydd, rhwng mis Ebrill a mis Mai 2022) |
1 |
1 |
Yr Athro Peter Fox (cadeirydd, o fis Mawrth 2023) |
Amherthnasol |
Amherthnasol |
Geraint Davies |
4 |
2 |
Yr Athro Calvin Jones |
4 |
3 |
Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth
Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn gynghorol ac yn darparu cyngor a her annibynnol mewn perthynas â swyddogaeth tystiolaeth CNC. Mae'r pwyllgor hefyd yn helpu i gryfhau dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil ehangach – a chyda defnyddwyr tystiolaeth yn y llywodraeth – o brosesau tystiolaeth a blaenoriaethau.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys dau aelod anweithredol o'r Bwrdd, saith aelod allanol annibynnol, y Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, a’r Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth.
Gwnaeth y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth adolygu meysydd yn cynnwys:
- Adroddiad CNC ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol
- Rôl CNC fel dynodwr Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig
- Technegau Rheoli Llifogydd yn Naturiol
- Ymagwedd CNC tuag at wyddoniaeth dinasyddion
- Data gwyddoniaeth agored
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn 2022/23
Enw |
Nifer y cyfarfodydd |
Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd |
---|---|---|
Yr Athro Peter Rigby (cadeirydd) |
3 |
3 |
Yr Athro Steve Ormerod |
3 |
3 |
Y Pwyllgor Ystad Tir
Cyfarfu’r Pwyllgor Ystad Tir am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2023 ac mae’n cael ei gadeirio gan yr Athro Calvin Jones. Prif rôl y pwyllgor yw cynghori’r Bwrdd ar reoli ystad tir CNC yn gynaliadwy, gan gynnwys buddsoddi yn yr ystad, y ffordd y caiff ei rheoli, a chynigion ar gyfer newidiadau i’r modd y caiff ei defnyddio.
Adolygodd y Pwyllgor Ystad Tir feysydd yn cynnwys y Strategaeth Hamdden a'r Fenter Datblygwyr Ynni Adnewyddadwy.
Presenoldeb aelodau’r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Ystad Tir yn 2022/23
Enw |
Nifer y cyfarfodydd |
Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd |
---|---|---|
Yr Athro Calvin Jones (cadeirydd) |
1 |
1 |
Dr Rosie Plummer |
1 |
1 |
Geraint Davies |
1 |
1 |
Mark McKenna |
1 |
1 |
Adolygiadau o aelodau’r Bwrdd
Mae'r cadeirydd yn cynnal arfarniadau blynyddol gyda phob cyfarwyddwr anweithredol a'r Prif Weithredwr, ac mae'r broses adolygu yn cynnwys hunanasesiad cryno a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r Prif Weithredwr yn cynnal gwerthusiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn gyda'r pum cyfarwyddwr gweithredol.
Ein Tîm Gweithredol
Caiff rheolaeth y sefydliad o ddydd i ddydd ei chyflawni drwy'r Tîm Gweithredol, sy'n fy nghynnwys i fel y Prif Weithredwr a phum Cyfarwyddwr Gweithredol sy'n atebol i mi. Mae'r Tîm Gweithredol yn cwrdd ddwywaith y mis i ystyried busnes corfforaethol craidd, er enghraifft diweddariadau cyllid; gwybodaeth am berfformiad; llesiant, iechyd a diogelwch; adolygu a chraffu ar y gofrestr risg strategol, ac ati. Maent hefyd yn ystyried ac yn craffu ar benderfyniadau sy'n ymwneud â strategaethau, polisïau a materion gweithredol.
Islaw ein Tîm Gweithredol, mae ein Tîm Arwain yn chwarae rôl arweiniol wrth reoli'r busnes o ddydd i ddydd. Mae ei aelodau'n benaethiaid adrannau sy'n atebol i'r Tîm Gweithredol, gan gynnwys y rheiny yn ein swyddogaethau corfforaethol (megis Cyllid, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu).
Mae ein strwythur yn pwysleisio gwaith cyflawni sy’n canolbwyntio ar leoedd: saith Pennaeth Lleoedd o fewn Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau unigol i oruchwylio cyflawniad ein holl swyddogaethau mewn rhanbarth penodol yng Nghymru. Yna mae gennym Benaethiaid Gwasanaeth enwebedig (sydd hefyd yn Benaethiaid Lleoedd) sy'n arwain ar oruchwylio cyflawniad swyddogaeth benodol ledled Cymru. Mae'r Penaethiaid Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'n harweinwyr polisi – o'r enw Penaethiaid Busnesau – sy'n goruchwylio cyfeiriad strategol ein gwaith ledled Cymru.
Er mwyn sicrhau cydlyniant rhwng meddwl strategol a chyflawniad gweithredol, mae gennym gyfres o Fyrddau Busnes sy'n nodi'r gofynion polisi ac sy'n cynllunio natur weithredol ein gwaith ar draws y strwythur sy'n canolbwyntio ar leoedd. Mae pob un o'r rhain yn cael ei arwain gan y Pennaeth Busnes / Pennaeth Gwasanaeth.
Mae ein cynllun corfforaethol yn nodi ein hamcanion llesiant a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni. Yn y cynllun busnes blynyddol, rydym yn amlinellu sut y byddwn yn bwrw ymlaen â’r camau hynny sydd i’w cymryd yn ystod y flwyddyn i ddod.
Y cynllun busnes hwn ar gyfer 2022/23 yw'r olaf sy’n cyd-fynd â'r cynllun corfforaethol ar gyfer 2017-23. Dros y 18 mis diwethaf bu newidiadau sylweddol i’r cyd-destun polisi strategol yr ydym yn gweithio ynddo, gyda datgan yr argyfwng hinsawdd a natur a chyhoeddi'r adroddiadau tystiolaeth pwysig cyn COP 26 a COP15. Llywiodd hyn y trafodaethau yng nghyfarfodydd ein Bwrdd a chyda gweinidogion ac, o ganlyniad iddynt, cytunodd y Bwrdd ar bum blaenoriaeth strategol sy’n adlewyrchu’r trafodaethau strategol dan arweiniad ein Bwrdd yn ogystal â phum blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer y flwyddyn gyda Gweinidogion. Roedd y blaenoriaethau strategol a gweinidogol hyn yn ymwneud â 2022/23 yn unig, wrth i ni ddatblygu ein cynllun corfforaethol newydd yn unol â llythyr cylch gwaith tymor y Llywodraeth.
Roedd 2022/23 yn flwyddyn o drawsnewid i CNC, a thrwy gydol y flwyddyn rydym wedi bod yn gosod y conglfeini ar gyfer dyfodol ein sefydliad. Mae’r cynllun busnes hwn yn ymateb i uchelgais y Llywodraeth, ond mae hefyd yn cydnabod y pwysau cyllidebol parhaus ar draws y sector cyhoeddus. Rydym wedi gweithio gyda gweinidogion a swyddogion drwy gydol 2022/23 i feithrin dealltwriaeth gyffredin o’n hadnoddau, ein blaenoriaethau a’r awydd a’r cyfle i wneud pethau’n wahanol. Wrth weithio drwy’r broses hon, rydym yn ddiolchgar i weinidogion am gynnal lefel y cyllid ar gyfer 2022/23 fel ein bod yn gallu cynnal y gwasanaeth rydym yn ei darparu.
Daethom â’r gwaith hwn i ben yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau bod yr allbynnau’n llywio proses gosod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24.
Drwy gydol y flwyddyn rydym wedi bod yn cynnwys staff, ein Bwrdd a phartneriaid yn y gwaith o baratoi’r cynllun corfforaethol nesaf, drwy gynnal gweithdai a chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu yn ystod y flwyddyn, gan arwain at lansio’r cynllun corfforaethol ym mis Mawrth 2023. Yn y cynllun corfforaethol newydd hwn, rydym yn nodi lle y gall CNC wneud gwahaniaeth gan ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym, ond hefyd y meysydd lle bydd angen inni addasu sut a ble rydym yn gweithio, ac arloesi a chydweithio er mwyn sicrhau newid sy’n deg ac yn gyfiawn ac sy’n sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Fel ymatebwr Categori 1 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, rydym wedi parhau i gyflawni ein dyletswyddau mewn ffordd broffesiynol ac effeithiol, gan ymateb i nifer sylweddol o ddigwyddiadau o fewn ein cylch gwaith yn ogystal â chefnogi ein partneriaid amlasiantaethol gyda digwyddiadau ehangach, fel y bo'n briodol. Rydym wedi parhau i hyfforddi a datblygu staff er mwyn eu galluogi i gefnogi ein rotâu dyletswydd, yn dilyn y newid cytundebol a wnaed gennym y llynedd ac, o ganlyniad, mae gennym fwy o staff ar gael bellach i gefnogi ein hymateb i ddigwyddiadau o fewn a’r tu allan i oriau ac rydym yn parhau i hyfforddi mwy o staff er mwyn atgyfnerthu rotâu ymhellach ar gyfer y dyfodol. Mae staff wedi mynychu nifer o ymarferion digwyddiadau mewnol ac allanol ac rydym yn parhau i adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd gan yr ymarferion hyn a digwyddiadau gwirioneddol er mwyn gwella ein galluoedd a’r gwasanaeth a ddarparwn, wrth i ni wynebu’r heriau a’r cynnydd yn nifer y digwyddiadau sy’n deillio o’r argyfwng hinsawdd a natur.
Cyfarwyddiadau Gweinidogol
Nid ydym wedi cael unrhyw Gyfarwyddiadau Gweinidogol eleni.
Ein fframwaith rheolaethau mewnol
Mae ein fframwaith rheolaethau mewnol yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau, mesurau ac achrediadau rydym wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu ein hadnoddau wrth i ni gyflawni'n hamcanion.
Mae ein rheolaethau ariannol allweddol o fewn systemau awtomatig a'n cynlluniau dirprwyo i sicrhau y caiff dyletswyddau eu gwahanu’n briodol yn parhau i fod ar waith ac yn gyfredol. Mae'r dogfennau ‘Rheoli ein Harian’ a ‘Cynllun Statudol a Chyfreithiol CNC’ yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Nodwyd rheolaethau newydd lle gweithredwyd newidiadau sylweddol – er enghraifft gofynnwyd i reolwyr gynnal rhestrau o asedau TGCh ar gyfer eitemau ychwanegol yr aethpwyd â nhw adref i gefnogi cynnydd parhaus mewn gweithio gartref.
Rheoli risg
Mae fframwaith rheoli risg cadarn yn rhan hanfodol o'n fframwaith llywodraethu. Mae'n ein cynorthwyo i reoli ein busnes, gan ddiogelu ein hadnoddau a'n henw da.
Mae ein fframwaith rheoli risg yn canolbwyntio ar nodi, asesu, rheoli ac adrodd ar ein risgiau o fewn terfynau ein parodrwydd i dderbyn risg, ac mae’n cael ei lywio gan nifer o safonau rheoli risg cydnabyddedig, fel y bo’n berthnasol.
Ein Tîm Gweithredol sy'n gyfrifol am ein cofrestr risg strategol, gyda chyfarwyddwr unigol – wedi'i gefnogi gan reolwr/reolwyr risg ar lefel arwain neu ar lefel reoli – yn gyfrifol am bob risg. Mae ein risgiau strategol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gan berchnogion risg sydd ar y lefel weithredol, a chan y Tîm Gweithredol ar y cyd. Mae'r risgiau strategol yn destun archwiliadau dwfn gan y Pwyllgor Bwrdd perthnasol, ac mae’r Bwrdd yn adolygu'r gofrestr risg strategol gyflawn yn flynyddol.
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg sy’n goruchwylio’r fframwaith rheoli risg a’i effeithiolrwydd ac maent, yn eu tro, yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd.
Mae ein strategaeth risg yn cael ei gosod a'i hadolygu'n flynyddol gan y Bwrdd. Ategir hyn gan ein matrics RACI (Cyfrifol, Atebol, Ymgynghori, Hysbysu) rheoli risg sefydliadol, sy'n nodi'n glir atebolrwydd a chyfrifoldeb am wahanol agweddau ar ein fframwaith rheoli risg, yn ogystal â'r bobl hynny y mae angen eu hysbysu neu y mae angen ymgynghori â hwy mewn perthynas â materion rheoli risg. Mae ein polisi rheoli risg a chanllawiau cysylltiedig i staff yn cael eu gosod a'u hadolygu'n flynyddol gan ein Tîm Gweithredol. Mae ein fframwaith rheoli risg yn nodi'n glir sut a phryd y dylid uwchgyfeirio risgiau. Mae hwn wedi cael ei ddefnyddio’n ymarferol drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r Bwrdd yn dynodi lefel parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer pob un o’n risgiau strategol, ac mae datganiad parodrwydd i dderbyn risg penodol yn rhoi crynodeb manylach o sut mae’r archwaeth risg yn berthnasol i’r risg benodol honno. Fel rhan o'n rhaglen hyfforddiant strwythuredig ar reoli risg, darparwyd sesiynau hyfforddi ar barodrwydd i dderbyn risg drwy gydol y flwyddyn er mwyn galluogi perchnogion risg i ddeall sut i gymhwyso parodrwydd i dderbyn risg i’w risgiau ar gofrestrau ledled y sefydliad. Mae'r parodrwydd i dderbyn risg yn cael ei adolygu'n flynyddol gan y Bwrdd ochr yn ochr â'r gofrestr risg strategol.
Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi gweithio ar wella ein cynnig rheoli risg i’r sefydliad, gan ddiweddaru a gwreiddio’r offerynnau sydd ar waith i gefnogi arferion rheoli risg, gan gynnwys templed y gofrestr risg, sydd bellach yn cynnwys adrannau sy’n canolbwyntio ar effeithiolrwydd ein rheolaethau a'n mesurau lliniaru arfaethedig, a pha un a ydynt yn gweithio yn ôl y bwriad.
Sicrhau gwybodaeth
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu llywodraethu a'u rheoli'n dda, a’n bod yn parhau i gyflawni cydbwysedd rhwng bod yn agored a diogelwch, gan sicrhau bod staff a chwsmeriaid yn cael eu sicrhau bod lefelau diogelwch priodol ar waith. Mae'r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn parhau i arwain rhaglen integredig o waith i gryfhau ein hymateb i wydnwch rhag bygythiadau seiberddiogelwch a gwybodaeth. Unwaith eto, rydym wedi ennill ein hachrediad Cyber Essential Plus blynyddol, sy'n cael ei gymeradwyo gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'i archwilio'n annibynnol gan arbenigwr trydydd parti cymwys. Byddwn yn parhau i gyflawni rhaglen seiberddiogelwch o waith yn seiliedig ar ein strategaeth seiber. Mae hyn yn cynnwys mentrau ar gyfer gwella ymwybyddiaeth staff, gan gynnwys hyfforddiant seiberddiogelwch ar-lein. Rydym hefyd yn cynnal ymarferion pen bwrdd bob chwarter er mwyn profi ein gweithdrefnau a'n hymateb i ddigwyddiad diogelwch gwybodaeth.
Bob blwyddyn, rydym yn cynnal cyrsiau dysgu ar-lein gorfodol i'r staff ar y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Diogelwch Cyfrifiaduron yn y Gweithle ac ar ddiogelu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol ac yn gwybod y diweddaraf am sut rydym yn rheoli'r wybodaeth rydym yn ei chael a'i chadw. Mae cyfraddau cwblhau gweithgareddau dysgu ar-lein gorfodol yn parhau i wella, ac ategir y rhain gan sesiynau ymwybyddiaeth wedi'u targedu. Rydym yn parhau i gydweithio â phartneriaid strategol fel Llywodraeth Cymru, y gymuned diogelu data, y fforwm cydnerthedd leol a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i rannu dysgu a chynnal safonau.
Eleni, roeddwn yn falch na chawsom unrhyw doriadau diogelwch gwybodaeth yr oedd yn rhaid eu hadrodd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Blwyddyn | Nifer yr achosion |
---|---|
2020/21 | 0 |
2021/22 | 0 |
2022/23 | 0 |
Datganiad o fuddiannau
Mae ein polisi a'n canllaw ar wrthdaro buddiannau yn cefnogi'r holl staff ac aelodau'r Bwrdd gyda'n proses barhaus i ddatgan buddiannau personol perthnasol er mwyn ein helpu i reoli unrhyw wrthdaro posib neu wrthdaro canfyddiedig o fewn eu rolau proffesiynol. Yn dilyn adolygiad o archwiliadau mewnol yn 2020/21, gwnaed gwelliannau sylweddol i’n polisi gwrthdaro buddiannau, ein gweithdrefnau, ein hyfforddiant a’n systemau adrodd.
Chwythu'r chwiban
Chwythu'r chwiban o fewn CNC
Rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o onestrwydd, uniondeb ac atebolrwydd. Mae disgwyl y bydd pawb sy’n gweithio i CNC sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd ar waith CNC yn gallu dod ymlaen i leisio’r pryderon hynny. Mae CNC wedi ymrwymo i gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael ag unrhyw ddrwgweithredu a ddaw i’r amlwg.
Felly, rydym wedi sefydlu mesurau fel y gellir mynegi pryderon difrifol am gamymddwyn neu amhriodoldeb. Mae ein fframwaith yn cynnwys mynediad at linell gymorth ffôn a ffurflen ar-lein, lle gall pobl fynegi pryderon yn ddienw os yw’n well ganddynt.
Yn ystod 2022/23, rhoddwyd gwybod am 20 o achosion posibl o chwythu’r chwiban drwy’r systemau chwythu’r chwiban. Cafodd pob achos ei ystyried yn unol â pholisïau a gweithdrefnau chwythu'r chwiban CNC. O’r 20 adroddiad hyn, cafodd 7 eu hadolygu a’u trin yn ffurfiol fel achosion chwythu’r chwiban, roedd 9 yn ymwneud â materion y tu allan i CNC ac ni ystyriwyd bod 4 yn achosion o chwythu’r chwiban, fel sy’n cael ei ddiffinio gan Bolisi Chwythu’r Chwiban CNC, felly cawsant eu cyfeirio’n ôl at y busnes i’w trin yn fewnol.
O'r 7 achos yr ymdriniwyd â nhw'n ffurfiol fel achosion chwythu'r chwiban, ni chafodd 5 eu cadarnhau ac mae 2 yn aros i'r ymchwiliad gael ei gwblhau.
Nifer yr achosion o chwythu'r chwiban
Blwyddyn | Nifer yr achosion |
---|---|
2020/21 | 0 |
2021/22 | 4 |
2022/23 | 7 |
CNC fel Person Rhagnodedig ar gyfer Chwythu'r Chwiban
Daeth CNC yn ‘Berson Rhagnodedig’ yn 2020 ar ôl i Lywodraeth Cymru gysylltu ag ef. Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o 60 o sefydliadau y gall unrhyw aelod o’r cyhoedd fynd atynt i roi gwybod am achosion tybiedig o ddrwgweithredu neu rai y gwyddys amdanynt (chwythu’r chwiban). Mae’r sefydliadau a’r unigolion ar y rhestr fel arfer wedi’u dynodi’n bersonau rhagnodedig gan fod ganddynt berthynas awdurdodol neu oruchwyliol â’u sector, yn aml fel corff rheoleiddio. Mae’r Gorchymyn yn cael ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, i sicrhau bod y rhestr yn parhau’n gyfredol.
Derbyniwyd 9 achos o Adroddiad Chwythu’r Chwiban Person Rhagnodedig rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, er y cydnabyddir y gallai pryderon eraill fod wedi’u mynegi y tu allan i’r broses chwythu’r chwiban ffurfiol.
O'r 9 achos hynny a dderbyniwyd, cafodd un ei drin yn ffurfiol fel achos chwythu'r chwiban ond ni chafodd ei gadarnhau. Cyfeiriwyd yr 8 achos oedd ar ôl at y timau trin digwyddiadau o fewn CNC a chawsant eu trin yn unol â’r prosesau cwyno arferol, gan nad oedd yr un yn ddigon pwysig neu’n ddigon difrifol i fod angen ymchwiliad chwythu’r chwiban ffurfiol.
Twyll
Mae ein Strategaeth Gwrth-dwyll 2022 – 2026 yn nodi’r cyfeiriad strategol a gynlluniwyd i gefnogi a chryfhau gallu CNC i amddiffyn ei hun rhag y niwed y gall twyll ei achosi. Bydd canolbwyntio’r strategaeth hon ar arferion gorau a safonau proffesiynol yn helpu i sicrhau bod dull gwrth-dwyll yn dod yn rhan annatod o’n ffordd o weithio. Cefnogir ein Strategaeth Gwrth-dwyll gan Bolisi Gwrth-dwyll, Gwrth-lwgrwobrwyo a Gwrth-lygredigaeth ddiwygiedig a Gweithdrefn Ymateb i Dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth.
Rydym yn parhau i fod mewn argyfwng costau byw, a gall pwysau fel y rheiny a achosir gan gyfraddau chwyddiant uchel arwain at risg uwch o dwyll, sef y categori y mae troseddau eisoes yn cael eu hadrodd amlaf oddi tano yn y DU. Darperir cyrsiau dysgu ar-lein gorfodol i staff ar fesurau gwrth-dwyll, gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-lygredigaeth. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i helpu staff i nodi baneri coch o ran risgiau a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau proffesiynol. Mae cyfraddau cwblhau'r modiwlau hyn yn parhau'n uchel.
Ystadegau cwblhau e-ddysgu ar gyfer 2022/2023
Fel rhan o’n gwaith atal a chanfod, cynhaliwyd asesiadau risg i nodi pa feysydd o'r sefydliad sydd â’r risg fwyaf o dwyll ac i ganolbwyntio ein rheolaethau lliniaru ar y meysydd hyn. Rydym hefyd yn cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol, sef ymarfer paru data sydd wedi’i gynllunio i ganfod twyll a gwallau ar draws systemau talu.
Y llynedd cawsom wyth honiad o dwyll, yr ymdriniwyd â hwy yn unol â phroses gwrth-dwyll, gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-lygredigaeth CNC. Caiff y rhain eu hadrodd i'n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Mae’r holl ymchwiliadau wedi cael eu rheoli un ai gan arbenigwr gwrth-dwyll achrededig neu ymchwilwyr allanol â chymwysterau tebyg. Caiff yr adroddiad terfynol ar bob achos ei gyfeirio at uwch-staff annibynnol.
Nifer yr honiadau yr adroddwyd amdanynt
Blwyddyn | Honiadau |
---|---|
2020/21 | 10 |
2021/22 | 8 |
2022/23 | 5 |
Er bod trefniadau atal twyll cadarn yn rhan o ymateb CNC, mae gennym hefyd gyfrifoldeb i gefnogi ein gweithwyr a’u teuluoedd. Yn unol â hynny, mae cydweithwyr yn y tîm Gwasanaethau Pobl yn parhau i weithio ar amrywiaeth o fentrau i gefnogi unrhyw un sy'n cael trafferthion ariannol a chynnig cymorth lle gallwn.
Cydymffurfedd â Chod Llywodraethu Corfforaethol y Deyrnas Unedig
Rydym wedi cwblhau adolygiad sylfaenol ac wedi sicrhau bod ein strwythur, ein polisïau a'n gweithdrefnau sefydliadol yn unol â Chod Llywodraethu Corfforaethol y DU.
Mae ein harweinyddiaeth yn gweithredu’n unol â rolau a chyfrifoldebau uwch-reoli disgwyliedig; mae gweithdrefnau cefnogol ar waith i sicrhau y gall rolau'r Bwrdd weithredu'n effeithiol; mae ein llwybrau adrodd yn glir i sicrhau atebolrwydd a rhannu dyletswyddau'n briodol a bod rheolaethau mewnol allweddol ar waith; caiff cyflogau uwch-staff eu hystyried gan aelodau anweithredol i sicrhau annibyniaeth; ac rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'n rhanddeiliaid allweddol i feithrin cydberthnasau gwaith adeiladol.
Ein Fframwaith Sicrwydd
Mae ein fframwaith sicrwydd yn cynnwys y mesurau canlynol, sydd ar waith i sicrhau fy mod yn derbyn tystiolaeth amserol i ddangos bod y rheolaethau gofynnol ar waith ac yn gweithio'n briodol.
Archwilio mewnol
Fel Pennaeth Archwilio Mewnol gallaf gynnig barn sicrwydd ‘cymedrol’ yn gyffredinol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf gyda'r cafeat ei bod yn un ffiniol a bod angen datblygu trefniadau llywodraethu, risg a rheolaeth CNC ymhellach er mwyn cynnal barn archwilio mewnol ‘gymedrol’ sefydledig.
Mae’r farn archwilio flynyddol yn seiliedig ar yr wybodaeth ganlynol:
- Canlyniadau'r ymgysylltu ar Gynllun Archwiliad Mewnol 2022/23;
- Bod y rheolwyr yn cwblhau'r argymhellion archwilio mewnol fel y cawsant eu holrhain ar ôl cwblhau archwiliadau;
- Gwybodaeth gronnus a gafwyd wrth fynychu pwyllgorau rheoli; mynediad i gofrestrau risg a dogfennau allweddol; a thrafodaethau â rheolwyr;
- Adroddiadau ac ymchwiliadau twyll, llwgrwobrwyo, chwythu'r chwiban a llygredd;
- Y rhestrau gwirio rheolaeth fewnol a gwblhawyd gan y sefydliad; a
- Ffynonellau sicrwydd eraill, gan gynnwys gwaith:
- Archwilio Cymru,
- achrediadau ISO, ac
- archwiliadau UKWAS.
Barn
Gan ystyried gwaith archwilio mewnol 2022/23, adolygiad o risgiau strategol a thystiolaeth a gasglwyd ar lywodraethu, risg a rheolaeth o fewn CNC, gallaf gynnig Barn Sicrwydd Gymedrol ar gyfer y flwyddyn.
I gloi, mae fy ngwerthusiad proffesiynol o reolaethau mewnol, llywodraethu a rheoli risg wedi fy arwain i’r casgliad bod angen rhai gwelliannau o hyd yn 2022/23 i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth.
O ystyried y farn dylai darllenwyr nodi'r canlynol:
- Mae'r farn yn un ‘gymharol’ o drwch y blewyn ac mae angen gwelliannau sylweddol i sefydlu'r farn ‘gymedrol’ hon.
- Mae'r farn hon yn seiliedig yn unig ar y meysydd a ystyriwyd ac sy’n cael eu nodi uchod.
- Ni all sicrwydd fyth fod yn absoliwt, ac ni ellir cynllunio gwaith archwilio mewnol i ganfod neu i fynd i'r afael â'r holl wendidau a allai fodoli.
- Gan reolwyr CNC ac nid archwilwyr mewnol y mae’r cyfrifoldeb am gynnal systemau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol digonol a phriodol.
Archwilio allanol
Mae gwaith craffu annibynnol yn ffynhonnell bwysig i ni o ran cael sicrwydd, ac mae’n darparu tystiolaeth o'n ffyrdd o weithio mewn perthynas ag arferion gorau a safonau'r diwydiant. Mewn rhai rhannau o'r sefydliad, rydym yn destun archwiliadau neu adolygiadau allanol o'n gwaith, neu'n dewis eu cael. Cynhelir rhai ohonynt yn flynyddol, er enghraifft Cynllun Sicrwydd Coetiroedd y Deyrnas Unedig neu ISO 14001:2015 er mwyn cynnal ein system rheoli amgylcheddol. Rydym yn gofyn am rai eraill fel un o nifer o ddarnau o waith er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i ni am feysydd gwaith neu weithgareddau penodol.
Effeithiolrwydd rheolaethau mewnol
Er mwyn rhoi sicrwydd bod y fframwaith o reolaethau mewnol ar waith ac yn gweithio’n dda o fewn CNC, cwblhaodd aelodau o’r Tîm Gweithredol a Phenaethiaid Busnes restr wirio rheolaethau mewnol a llofnodi tystysgrif sicrwydd. Roedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud asesiad ar sail tystiolaeth o effeithiolrwydd y fframwaith rheolaethau sydd ar waith ar gyfer eu Cyfarwyddiaeth / Bwrdd Busnes, gan briodoli sgôr sicrwydd rhwng sylweddol ac anfoddhaol ar gyfer meysydd risg allweddol yn CNC, fel y nodir yn ein cofrestr risg strategol.
Eleni fe wnaethom gynnal proses ddiwygiedig ar gyfer proses flynyddol y rhestr wirio rheolaethau mewnol y mae cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Busnes i’w chwblhau. Roedd y broses ddiwygiedig yn adeiladu ar yr un bresennol, gan gyflwyno arolygon ar gyfer staff ac arweinwyr mewn perthynas ag effeithiolrwydd rheolaethau, er mwyn ategu'r sylfaen dystiolaeth a ddefnyddiwyd i wneud yr asesiadau sicrwydd. Roedd y dystiolaeth a ddefnyddiwyd yn rhychwantu'r ail a'r drydedd linell ac yn ceisio ysgogi trafodaethau cyfoethog ynghylch effeithiolrwydd rheolaethau. Gan mai hon yw’r flwyddyn gyntaf y mae'r rhestr wirio wedi'i chwblhau gan ddefnyddio'r broses ddiwygiedig, ni allwn gymharu’n uniongyrchol y canlyniadau hyn â’r rheiny a gafwyd o’r dadansoddiad o’r rhestr wirio rheolaethau mewnol ar gyfer 2021/2022.
Priodolwyd lefelau tebyg o sicrwydd gan Benaethiaid Busnes a chyfarwyddwyr ar draws y rhan fwyaf o feysydd, gan nodi bod yna gyffredinedd yn y meysydd lle mae sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd rheolaethau mewnol yn sylweddol, ac hefyd yn y meysydd lle y mae'n llai boddhaol.
Mae'r Tîm Gweithredol wedi ystyried a safoni'r dadansoddiad o'r canlyniadau a'r sgorau sicrwydd a briodolwyd gan gyfarwyddwyr a Phenaethiaid Busnes. Mae canlyniadau’r dadansoddiad o effeithiolrwydd y system rheolaethau mewnol, fel y’i llywir gan broses y rhestr wirio rheolaethau mewnol, wedi’u nodi isod yn erbyn risgiau strategol allweddol CNC, gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, unrhyw wendidau sylweddol a nodwyd a’r camau a gymerwyd / y camau arfaethedig i fynd i’r afael â hwy.
Llesiant, iechyd a diogelwch
Ar draws canlyniadau'r byrddau busnes a'r cyfarwyddiaethau, aseswyd yn gyffredinol bod Llesiant, Iechyd a Diogelwch yn cael ei reoli'n dda ar draws y sefydliad. Mae nodweddion cadarnhaol y fframwaith rheolaethau mewnol yn cynnwys ffocws a thrafodaeth reolaidd ar lesiant, iechyd a diogelwch yn ystod cyfarfodydd misol cyfarwyddiaethau, rheolwyr a thimau. Mae strwythurau da ar waith i sicrhau y gellir cefnogi staff wrth iddynt weithio gartref ac o fewn swyddfeydd a safleoedd CNC. Mae cydymffurfedd ag e-ddysgu yn uchel yn y maes hwn, ynghyd â gwiriadau cyfarpar sgrin arddangos, cyfarfodydd Sgwrs (arfarniadau), monitro gweithredol, ac asesiadau risg. Mae CNC hefyd wedi cadw’r achrediad ISO 45001 a’r Safon Arian ar gyfer y Gwiriad Iechyd Corfforaethol. Gellid gwneud gwelliannau pellach mewn perthynas â rheoli straen a chyfrifoldebau llesiant, iechyd a diogelwch unigol, a dylid canolbwyntio ar hyn ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Pennu cyfeiriad strategol
Mae’r meysydd eraill o sicrwydd sylweddol a nodwyd o'r arolygon ar gyfer staff ac arweinwyr yn cynnwys gallu'r sefydliad i osod a chyfathrebu cyfeiriad strategol ystyrlon.
Mae dealltwriaeth o gyfeiriad y sefydliad yn dda, ond gellid cryfhau’r cysylltiadau rhwng y cynllun corfforaethol, y Cynllun Busnes a’r Cynllun Gwasanaethau â blaenoriaethau'r Gyfarwyddiaeth. Dylid annog defnyddio cyfarfodydd Sgwrs i wneud y cyswllt rhwng yr uchelgais strategol sydd yn y cynllun corfforaethol â chyfraniad pob aelod unigol o staff ynghyd â'r ymddygiadau, y weledigaeth a’r genhadaeth cysylltiedig.
Mae’n amlwg bod gwaith sylweddol wedi’i wneud drwy gydol y flwyddyn i ddatblygu cynllun corfforaethol newydd CNC hyd at 2030, ‘Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’i Gilydd’, a lansiwyd ar 28 Mawrth 2023. Mae’r cynllun newydd yn nodi gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion llesiant y sefydliad, ac mae tystiolaeth yn dangos bod ymgysylltu â staff ynglŷn â'r gwaith hwn wedi bod yn fuddiol ac wedi cael effaith, ac felly y gobaith yw y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar effeithiolrwydd rheolaethau yn y maes hwn wrth symud ymlaen.
Hyrwyddo egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
Ceir ymdeimlad o’r arolygon ar gyfer staff ac arweinwyr bod egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy bellach wedi’u deall yn dda ac wedi’u hymgorffori ar draws y sefydliad a’u bod yn cael eu defnyddio fel lens i rannu cyngor ag eraill ar bolisïau, rhaglenni a deddfwriaeth. Mae cyflwyno hyfforddiant a sesiynau sefydlu o ansawdd uchel wedi ehangu’r ddealltwriaeth o’r angen i hyrwyddo egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ac wedi herio staff i gymhwyso’r egwyddorion hyn a’r ffyrdd hyn o weithio i’w meysydd gwaith penodol a’u rolau unigol. Cydnabuwyd y gall hyn fod yn arbennig o heriol ar gyfer rhai rolau a gwasanaethau, yn enwedig y rheiny sy’n wasanaethau craidd, mewnol. Er mwyn rhoi sicrwydd pellach ynghylch ein rheolaethau yn y maes hwn, bydd angen cynnal ffocws parhaus ar sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei ystyried o safbwynt rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy.
Rheoli digwyddiadau
Nodwyd rheoli digwyddiadau yn effeithiol fel maes lle gellid gwneud gwelliannau pellach i reolaethau, megis hyfforddiant ar gyfer rolau digwyddiadau, sicrhau bod rotâu digwyddiadau yn gyflawn, ynghyd â sicrhau bod ymarferion parhad busnes yn dod yn rhan o'r drefn arferol. Nodwyd y gall fod diffyg eglurder mewn rhai meysydd ynglŷn â’r hyn sy'n cael ei ystyried yn ddigwyddiad a phwy sydd â chyfrifoldeb am faterion / digwyddiadau hirdymor parhaus.
Mae cynlluniau parhad busnes cyfredol yn awgrymu bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dda o'u cynnwys ar draws y busnes. Fodd bynnag, gellid cryfhau rheolaethau ynghylch gwersi a ddysgwyd, cofnodi tueddiadau, a datblygu strategaethau.
Pobl
Roedd cynllunio’r gweithlu a materion cynllunio olyniaeth yn feysydd a oedd yn peri pryder i nifer. Amlygwyd gwendidau sylfaenol ar lefel sefydliadol, sy’n gysylltiedig â diffyg systemau priodol (e.e. system rheoli dysgu) ac argaeledd adnoddau (e.e. mewn perthynas â staffio. Yn benodol, ar lefel cyfarwyddiaeth, mae angen canolbwyntio ar gynllunio olyniaeth a datblygu gyrfa er mwyn rhoi mwy o sicrwydd. Bydd y pwysau ar adnoddau, yn ogystal â chyllidebau nad ydynt yn ymwneud â staff, yn parhau i gyflwyno heriau i'r sefydliad onid eir i'r afael â hwy yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae canlyniadau'r arolygon ar gyfer staff ac arweinwyr wedi amlygu bod rheolwyr llinell yn ymgysylltu’n dda, bod pobl yn gyfarwydd â pholisïau a phrosesau adnoddau dynol, a bod cydymffurfedd da o ran e-ddysgu. Fodd bynnag, amlygodd hefyd y gellid gwella'r ymgysylltu a'r cyfathrebu o safbwynt y cyfarwyddiaethau, a bod angen gwneud rhagor o waith i wella a gwreiddio'r arferion hyn.
Cyllid a rheolaeth ariannol
Amlygwyd problemau gyda nifer o'r rheolaethau sy'n ymwneud â'r setliad ariannu, a rheolaeth ariannol fel meysydd o bryder, yn enwedig o fewn Byrddau Busnes. Awgrymwyd efallai nad oedd fframweithiau rheolaethau yn gweithredu’n effeithiol i liniaru risgiau allweddol sy’n deillio o’r ansicrwydd ynghylch pa un a oes cyllid digonol i gyflawni swyddogaethau sefydliadol craidd. Gall hyn gael ei amlygu drwy orwario mewn rhai meysydd, sydd efallai’n awgrymu nad oedd y rheolaethau gydol y flwyddyn yn ddigonol i atal hyn rhag digwydd.
Yn ogystal, mae twf sylweddol yn niferoedd gweithlu’r sefydliad wedi golygu bod rhai meysydd o fewn rhai Cyfarwyddiaethau wedi cael ond ychydig o gynnydd, os o gwbl, yn eu cyllideb i ddarparu cymorth ychwanegol. Pwysleisiwyd bod y diffyg sylw a roddir i gyllidebau yn broblem, ynghyd â'r broses Cytundeb Lefel Gwasanaeth ac, fel mater ar wahân, y bu’n anodd rheoli rhagolwg diwedd blwyddyn pan yr oedd yn ymddangos bod y gwariant gwirioneddol yn sylweddol uwch na'r rhagolwg.
Ymhlith y meysydd lle roedd rheolaethau’n gadarn, nodwyd bod cydymffurfedd yn gyffredinol dda o ran hyfforddiant gorfodol ar gyfer rheoli cyllid a chyllidebau a bod ymwybyddiaeth uchel ynghylch canfod achosion o dwyll ac adrodd arnynt, yn ogystal â dealltwriaeth dda o'r polisïau a’r prosesau allweddol. Fodd bynnag, nodwyd bod gwendid mewn perthynas â diffyg hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â gweithgareddau caffael, ac y dylid canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer y flwyddyn i ddod ar draws y Byrddau Busnes a’r cyfarwyddiaethau.
Cydymffurfedd
Mae’r wybodaeth a gasglwyd o’r arolygon ar gyfer staff ac arweinwyr yn awgrymu bod dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o ddiben a phrosesau rheoli risg, datganiadau o fuddiant a pholisïau llywodraethu allweddol eraill megis ein cynlluniau dirprwyo ariannol ac anariannol, a pholisi a’r gweithdrefnau ynghylch sut i adrodd am bryderon chwythu'r chwiban.
Fodd bynnag, ceir meysydd lle y gellid cryfhau neu loywi gwybodaeth a dealltwriaeth, megis ym maes rheoli data a chofnodion. Nodwyd hefyd y gall rhai rheolaethau cydymffurfio fod yn rhy feichus a bod angen eu symleiddio er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i'r rhwystrau, neu i’r rhwystrau canfyddedig i gydymffurfedd oherwydd eu cymhlethdod a'u manylder. Er y teimlir bod cydymffurfedd yn gwella mewn sawl maes allweddol, mae yna feysydd lle ceir gwendidau ar draws y sefydliad o hyd, er enghraifft, mewn perthynas â’r ffaith bod gwybodaeth reoli gyfyngedig yn datgelu gwendidau yn ein hail linell sicrwydd. Dylai'r gwaith o ddatblygu fframwaith sicrwydd ehangach ar gyfer y sefydliad barhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, ynghyd â'r gwaith o greu prosesau mwy darbodus i gefnogi cydymffurfedd heb fod hyn yn rhwystro staff rhag cyflawni’r Amcanion Llesiant.
Rheoli asedau strategol
Roedd perchnogaeth a defnydd / cymhwysiad rheolaethau yn y maes hwn wedi'u cyfyngu i un gyfarwyddiaeth a rhai o’r Byrddau Busnes. Ar draws y pedwar maes busnes roedd consensws cyffredinol bod arferion da a sefydledig ar waith o ran prosesau rheoli asedau. Amlygwyd bod rheolaethau mewn perthynas â'r risg yn ymwreiddio'n dda a bod cyfathrebu o ansawdd uchel rhwng timau.
Fodd bynnag, nodwyd bod nifer o ddiffygion yn yr wybodaeth reoli ac yn ansawdd y data, a bod yr wybodaeth sydd ar gael yn aml yn hen, a dylai hwn fod yn faes y dylid canolbwyntio arno ar gyfer y flwyddyn i ddod.
- Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 18 Hydref 2023
Adroddiad Cyflogau a Staff (wedi'i archwilio)
Polisi cyflogau
Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Pwyllgor Pobl a Chyflogau i ystyried materion sy'n ymwneud â chyflog ac amodau cyflogaeth y staff ar y lefel uchaf a'r strategaeth gyflog gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o’r Bwrdd. Mae cadeirydd y Bwrdd yn aelod ex officio o'r pwyllgor.
Gosodir cyflogau'r cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd gan Weinidogion Cymru. Mae telerau contractau gweithwyr uwch (aelodau o'r Tîm Gweithredol) yn seiliedig ar delerau ac amodau CNC. Nid yw'r polisi cyflogau ar gyfer y staff ar y lefel uchaf yn destun cydfargeinio a'r pecyn cyflog ac fe ddefnyddir gweithdrefn Arfarnu Swyddi ar gyfer Uwch-swyddi (JESP) a chyflog ar y pryd. Mae'r cyflog yn cael ei gynyddu gan yr un ganran â chyflog Gradd 11 (y raddfa gyflog uchaf ar gyfer staff nad ydynt yn gyfarwyddwyr).
Mae cytundeb partneriaeth gymdeithasol ar waith gyda phum undeb lafur, a chaiff y telerau ac amodau ar gyfer staff sydd o dan yr aelodau o'r Tîm Gweithredol eu gosod drwy gydgytundeb â'r partneriaid cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo unrhyw newidiadau i gyflogau, telerau ac amodau ac yn gosod cylch cyflog y mae rhaid i CNC eu cyflawni o'i fewn. Roedd y cyflog eleni ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2022 a 31 Mawrth 2023, a gwelwyd cynnydd o 4% yn ein bil cyflogau. Cafodd Graddau 1 a 2 godiad cyflog o fwy na 10%, a chafodd Graddau 3 i 4 gynnydd o £1,400 (6.91% i 4.56%). Ar gyfer Gradd 5, amrywiodd y cynnydd rhwng 4.4% a 3.8%, a bu cynnydd o 3.65% ar gyfer Graddau 6 ac uwch. Codwyd y Gwelliannau a Thaliadau (ac eithrio’r Dyfarniad Cyflog Teyrngarwch) gan 4% hefyd o 1 Mehefin 2022. Nid oedd y cynnig hwn, fel y cytunwyd eisoes drwy'r ymgynghoriad ar y cynllun Gwerthuso Swyddi, yn berthnasol i'r bobl hynny a oedd wedi dewis, yn flaenorol, i beidio â bod yn rhan o'r cynllun hwn.
Mae CNC yn parhau i fod yn gyflogwr achrededig Cyflog Byw Gwirioneddol. Er bod y cyfraddau newydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd rydym bob amser yn ychwanegu'r cynnydd at y cyflog sylfaenol ar unwaith o ddechrau’r cyfnod cyflog presennol. Fodd bynnag, eleni, roedd ein cynnig cyflog yn golygu bod ein cyflog Gradd 1 yn uwch nag argymhelliad y Sefydliad Cyflog Byw Gwirioneddol.
Contractau gwasanaeth
Gwneir pob penodiad i'r Bwrdd ar ran Gweinidog nawdd CNC yn Llywodraeth Cymru.
Disgwylir i'r Prif Weithredwr ac aelodau'r Tîm Gweithredol gael eu cyflogi o dan gontractau parhaol. Caiff penodiadau eu gwneud yn unol â'n polisi recriwtio, sy'n ei gwneud yn ofynnol i benodiad gael ei wneud yn ôl haeddiant ac ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Oni nodir yn wahanol isod, mae’r aelodau o'r Tîm Gweithredol a gynhwysir yn yr adroddiad hwn wedi’u penodi i swyddi sy'n barhaol. Rhaid i'r swyddogion a'r aelodau Bwrdd hyn ddarparu tri mis o rybudd o'u bwriad i adael.
Cyflog a hawliadau pensiwn
Yn yr adrannau canlynol ceir manylion cyflog aelodau'r Bwrdd a chyflogau a buddiannau pensiwn aelodau'r Tîm Gweithredol. Nid oes gan aelodau Bwrdd yr hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil nac i dderbyn buddiannau eraill. Pe bai aelodaeth yn cael ei therfynu'n gynnar, am reswm heblaw am gamymddwyn, byddai'r aelod hwnnw o'r Tîm Gweithredol yn cael iawndal sy'n gyson â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil. Nid oes gan aelodau Bwrdd yr hawl i gael iawndal.
Cyflogau aelodau’r Bwrdd
Aelod y Bwrdd |
Dyddiadau’r contract |
Cyflog 2022/23 (ystod £5,000) |
Cyflog 2021/22 (ystod £5,000) |
---|---|---|---|
Karen Balmer |
9/11/15 tan 31/3/23 |
10-15 |
10-15 |
Catherine Brown |
1/11/18 tan 31/10/22 |
5-10 |
15-20 |
Julia Cherrett |
1/11/18 tan 31/5/23 |
15-20 |
15-20 |
Geraint Davies |
1/1/19 tan 31/10/24 |
10-15 |
10-15 |
Howard Davies |
9/11/15 tan 31/8/21 |
Amherthnasol |
10-15 |
Peter Fox |
16/2/23 tan 31/10/26 |
0-5 |
Amherthnasol |
Paul Griffiths |
1/9/21 tan 25/5/22 |
0-5 |
5-10 |
Elizabeth Haywood |
9/11/15 tan 31/8/21 |
Amherthnasol |
15-20 |
Syr David Henshaw (cadeirydd) |
1/11/18 tan 31/10/25 |
45-50 |
45-50 |
Zoë Henderson |
9/11/15 tan 8/5/23 |
10-15 |
15-20 |
Calvin Jones |
1/9/21 tan 31/10/28 |
10-15 |
5-10 |
Rhys Jones |
16/2/23 tan 31/10/27 |
0-5 |
Amherthnasol |
Mark McKenna |
1/9/21 tan 31/10/28 |
10-15 |
5-10 |
Steve (dirprwy gadeirydd) |
1/11/18 tan 31/10/25 |
15-20 |
15-20 |
Kathleen Palmer |
16/2/23 tan 31/10/26 |
0-5 |
Amherthnasol |
Helen Pittaway |
16/2/23 tan 31/10/26 |
0-5 |
Amherthnasol |
Rosie Plummer |
1/11/18 tan 31/10/24 |
15-20 |
15-20 |
Peter Rigby |
1/11/18 tan 31/10/23 |
15-20 |
25-30 |
Nodiadau tabl:
- Daeth Karen Balmer yn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ar 1 Tachwedd 2022 hyd nes i’w haelodaeth bwrdd ddod i ben ar 31 Mawrth 2023.
- Catherine Brown oedd cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg nes i’w haelodaeth bwrdd ddod i ben ar 31 Hydref 2022.
- Roedd Julia Cherrett yn gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd tan 23 Mawrth 2023 ac yn gadeirydd y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid tan 23 Mawrth 2023.
- Peidiodd Howard Davies â bod yn aelod bwrdd ar 31 Awst 2021 a bu’n gadeirydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig tan y dyddiad hwn. Derbyniodd dâl rhwng £5,000 a £10,000 am wasanaethau yn ystod 2021/22 ac ôl-daliad o £5,000 i £10,000 am wasanaethau fel cadeirydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol. Cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2021/22 oedd £10,000 i £15,000.
- Penodwyd Peter Fox i’r bwrdd ar 16 Chwefror 2023 a daeth yn gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd ar 23 Mawrth.
- Daeth Paul Griffiths yn aelod o’r bwrdd ar 1 Medi 2021 ac ymddiswyddodd ar 25 Mai 2022.
- Peidiodd Elizabeth Haywood â bod yn aelod bwrdd ar 31 Awst 2021 a hi oedd cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd tan y dyddiad hwn. Derbyniodd dâl rhwng £5,000 a £10,000 am wasanaethau yn ystod 2021/22 ac ôl-daliad o £10,000 i £15,000 am wasanaethau fel cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol. Cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2021/22 oedd £15,000 i £20,000.
- Syr David Henshaw yw cadeirydd y Bwrdd a bu’n gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid tan 23 Mawrth 2023.
- Zoë Henderson oedd cadeirydd y Pwyllgor Pobl a Chyflogau tan 31 Mawrth 2022.
- Daeth Calvin Jones yn aelod Bwrdd ar 1 Medi 2021 a daeth yn gadeirydd y Pwyllgor Ystad Tir ar 22 Medi 2022.
- Roedd Rhys Jones yn aelod Bwrdd cysylltiedig (gyda chydnabyddiaeth ariannol) o 16 Chwefror 2023 a daeth yn aelod llawn ac yn gadeirydd Fforwm Rheoli Tir Cymru ar 9 Mai 2023.
- Daeth Mark McKenna yn aelod Bwrdd ar 1 Medi 2021 a cafodd ei benodi’n gadeirydd y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid ar 23 Mawrth 2023.
- Steve Ormerod yw dirprwy gadeirydd y Bwrdd.
- Roedd Kathleen Palmer yn aelod Bwrdd cysylltiedig (gyda chydnabyddiaeth ariannol) o 16 Chwefror 2023 a daeth yn aelod llawn ac yn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 1 Ebrill 2023.
- Penodwyd Helen Pittaway i’r Bwrdd ar 16 Chwefror 2023 a daeth yn gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar 23 Mawrth 2023.
- Mae Rosie Plummer wedi bod yn gadeirydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig ers 31 Awst 2021.
- Peter Rigby yw cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth. Derbyniodd dâl o rhwng £15,000 ac £20,000 am wasanaethau yn ystod 2021/22 ac ôl-daliad o £5,000 i £10,000 am wasanaethau fel cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol. Cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2021/22 oedd £25,000 i £30,000.
Cyflogau'r Tîm Gweithredol 2022/23
Aelod y Tîm Gweithredol |
Cyflog (ystod o £5,000) |
Buddion mewn nwyddau (i'r £100 agosaf) |
Buddiannau pensiwn (i'r £1,000 agosaf) |
Cyfanswm (ystod o £5,000) |
---|---|---|---|---|
Clare Pillman (Prif Weithredwr) |
145-150 | 0 | Negyddol 10,000 | 135-140 |
Rachael Cunningham | 115-120 | 0 | 21,000 | 140-145 |
Ceri Davies | 115-120 | 0 | Negyddol 2,000 | 115-120 |
Prys Davies | 100-105 | 0 | 10,000 | 110-115 |
Sarah Jennings | 120-125 | 0 | 49,000 | 170-175 |
Gareth O'Shea | 110-115 | 0 | Negyddol 48,000 | 60-65 |
Cyflogau'r Tîm Gweithredol 2021/22
Aelod y Tîm Gweithredol |
Cyflog (ystod o £5,000) |
Buddion mewn nwyddau (i'r £100 agosaf) |
Buddiannau pensiwn (i'r £1,000 agosaf) |
Cyfanswm (ystod o £5,000) |
---|---|---|---|---|
Clare Pillman (Prif Weithredwr) |
140-145 | 0 | 23,000 | 160-165 |
Rachael Cunningham | 115-120 | 0 | 76,000 | 190-195 |
Ceri Davies | 105-110 | 0 | 6,000 | 115-120 |
Prys Davies | 110-115 | 0 | 26,000 | 135-140 |
Sarah Jennings | 120-125 | 0 | 47,000 | 165-170 |
Gareth O'Shea | 120-125 | 0 | 93,000 |
215-220 |
Nodiadau tabl:
- Cyflog cyfwerth blwyddyn gyfan Prys Davies ar gyfer 2021/22 oedd £95,000 i £100,000. Yn ystod y flwyddyn honno, cafodd gynnydd ôl-ddyddiedig mewn cyflog a arweiniodd at dâl ychwanegol o £10,000 i £15,000 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.
- Cyflog cyfwerth blwyddyn gyfan Gareth O’Shea ar gyfer 2021/22 oedd £105,000 i £110,000. Yn ystod y flwyddyn honno, cafodd gynnydd ôl-ddyddiedig mewn cyflog a arweiniodd at dâl ychwanegol o £15,000 i £20,000 mewn perthynas â blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2019/20.
- Cyfrifir gwerth buddiannau pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd pensiwn gwirioneddol wedi'i luosi ag 20, yn ogystal â’r cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad, llai y cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Cyfrifir y cynnydd gwirioneddol drwy ddidynnu'r prisiad agoriadol o'r prisiad terfynol. Mae'r cynnydd gwirioneddol yn eithrio cynnydd o ganlyniad i chwyddiant neu unrhyw newidiadau o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn. Caiff codiadau chwyddiant eu heithrio drwy gymhwyso ffactor cynnydd gwirioneddol i'r gwerth ar ddechrau'r flwyddyn.
Ar gyfer newidiadau mewn lefelau cyflog, efallai na fydd y cynnydd mewn pensiwn oherwydd gwasanaeth ychwanegol yn ddigon i wrthbwyso’r cynnydd mewn chwyddiant – hynny yw, mewn termau real, gall gwerth y pensiwn ostwng, a dyna pam mae gwerthoedd negyddol i'w gweld.
Nid yw'r gwerth hwn yn cynrychioli'r swm a fydd yn cael ei dderbyn gan yr unigolyn. Bwriad y cyfrifiad yw cyfleu i ddarllenydd y cyfrifon amcangyfrifiad o'r budd a all ddeillio o fod yn aelod o'r cynllun pensiwn. Mae'r tabl buddiannau pensiwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y buddiannau pensiwn sy'n cael eu cronni gan yr unigolyn.
Cyflog
Mae cyflog yn ymwneud â symiau pensiynadwy a symiau nad ydynt yn bensiynadwy ac mae'n cynnwys cyflog gros, goramser, ac unrhyw lwfansau neu daliadau sy'n ddarostyngedig i drethiant yn y DU. Nid yw'n cynnwys symiau sy'n ad-daliad o dreuliau sydd wedi deillio'n uniongyrchol o gyflawni dyletswyddau unigolyn.
Cyflog cysylltiedig â pherfformiad
Mae unrhyw gynnydd mewn cyflog yn amodol ar gael asesiad bod perfformiad naill ai’n ‘Rhagorol’ neu’n ‘Cyflawni’ gan y Prif Weithredwr ac ar broses safoni gan y Pwyllgor Pobl a Chyflogau. Bydd y cynnydd a roddir yn cael ei bennu gan y codiad cyflog a gymhwysir ar gyfer y bobl hynny sydd o fewn yr uned gydfargeinio. Pan fernir bod rhywun yn tanberfformio ni fydd codiad cyflog yn cael ei roi.
Buddion mewn nwyddau
Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan y cyflogwr ac a ymdrinnir fel enillion y gellir eu trethu gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Ni wnaeth yr un aelod o'r Bwrdd na'r Tîm Gweithredol dderbyn buddion mewn nwyddau yn ystod 2022/23 a 2021/22.
Ni wnaeth yr un aelod o'r Bwrdd na'r uwch-staff dderbyn unrhyw daliadau eraill ar wahân i'r symiau a ddangosir uchod.
Buddiannau pensiwn
Aelod y Tîm Gweithredol
|
Pensiwn cronnus ar oed pensiwn fel ag yr oedd ar 31/3/23 (£000) |
Cyfandaliad cronnus ar oed pensiwn fel ag yr oedd ar 31/3/23 (£000) |
Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn ar oed pensiwn (£000) |
Cynnydd gwirioneddol yn y cyfandaliad cronnus ar oed pensiwn (£000) |
Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod ar 31/3/23 (£000) |
Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod ar 31/3/22 (£000) |
Cynnydd gwirioneddol mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod (£000) |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Clare Pillman (Prif Weithredwr) |
65-70 |
135-140 |
0-2.5 |
0 |
1,387 |
1,261 |
Negyddol 30 |
Rachael Cunningham |
35-40 |
0 |
0-2.5 |
0 |
575 |
513 |
3 |
Ceri Davies |
55-60 |
75-80 |
0-2.5 |
Negyddol 2.5 - 0 |
1,149 |
1,017 |
Negyddol 9 |
Prys Davies |
35-40 |
60-65 |
0-2.5 |
0 |
613 |
553 |
Negyddol 5 |
Sarah Jennings |
5-10 |
0 |
2.5-5 |
0 |
103 |
60 |
31 |
Gareth O’Shea |
60-65 |
95-100 |
Negyddol 2.5 - 0 |
Negyddol 7.5 - Negyddol 5 |
1,139 |
1,046 |
Negyddol 51 |
Mae pensiwn cyflog terfynol unigolyn mewn cyflogaeth yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei gyflog a hyd ei wasanaeth. Bydd y pensiwn yn cynyddu o un flwyddyn i'r nesaf yn rhinwedd unrhyw godiad cyflog yn ystod y flwyddyn. Ar gyfer newidiadau mewn lefelau cyflog, efallai na fydd y cynnydd mewn pensiwn oherwydd gwasanaeth ychwanegol yn ddigon i wrthbwyso’r cynnydd mewn chwyddiant – hynny yw, mewn timau real, gall gwerth y pensiwn ostwng, a dyna pam y mae gwerthoedd negyddol i'w gweld.
Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod
Ystyr Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod yw gwerth cyfalafol buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar bwynt penodol o amser fel ei fod wedi’i asesu ar sail tybiaethau actiwaraidd. Y buddiannau a werthusir yw'r buddiannau a gronnir gan yr aelod ac unrhyw bensiwn priod wrth gefn sy'n daladwy o'r cynllun. Mae Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddiannau pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn penderfynu trosglwyddo'r buddiannau y mae wedi'u cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddiannau y mae'r unigolyn wedi'u cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth ar y cynllun pensiwn, ac nid ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae'r datganiad yn ymwneud ag ef yn unig.
Mae'r ffigurau yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiannau pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'i drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddiannau pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddiannau pensiwn ychwanegol ar gost i'w hun. Caiff Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod eu cyfrifo yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl i fuddion a ddaw yn sgil Treth Lwfans Gydol Oes a allai fod yn ddyledus pan gaiff buddion pensiwn eu cymryd.
Cynnydd real mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod
Mae hyn yn dangos y cynnydd mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod a ariennir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys cynnydd mewn pensiwn a gronnwyd oherwydd chwyddiant neu gyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall), ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad cyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Iawndal ar gyfer colli swydd
Ni chytunwyd ar iawndal ar gyfer colli swydd yn ystod 2022/23.
Datgelu cyflog teg
Rhaid i CNC a chyrff tebyg ddatgelu'r berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr a delir fwyaf yn eu sefydliad a chyflog canolrifol gweithlu'r sefydliad. Mae cyfanswm y cyflog yn cynnwys cyflog a buddion mewn nwyddau pan fo'n berthnasol. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, na'r Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod.
Yn 2022/23, cafodd tri aelod o staff contract (2021/22: 3) eu talu ar gyfradd uwch na'r cyfarwyddwr a delir fwyaf.
Band cyflog y cyfarwyddwr a delir fwyaf (fel y dangosir uchod) yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23 oedd £145,000 i £150,000 (2021/22: £140,000 i 145,000). Roedd hyn 3.8 gwaith (2021/22 3.8 gwaith) cyflog ganolrifol y gweithlu, ac mae’r gymhariaeth mewn perthynas â'r cyflog yn y chwarteli uchaf, canolrifol ac isaf fel a ganlyn:
Cymhareb tâl y gweithlu
Cymhareb tâl y gweithlu |
2022/23 (£) |
2021/22 (£) |
Symudiad (%) |
---|---|---|---|
Chwartel uchaf |
46,003 |
42,885 |
7.27 |
Cymhareb |
3.2 |
3.3 |
N/A |
Canolrif |
38,492 |
37,119 |
3.70 |
Cymhareb |
3.8 |
3.8 |
N/A |
Chwartel isaf |
32,876 |
31,490 |
4.40 |
Cymhareb |
4.4 |
4.4 |
N/A |
Mae graddfeydd cyflog staff yn amrywio rhwng £21,655 a £72,627 (2021/22: rhwng £19,100 a £70,070).
Canran y cynnydd mewn cyflog, buddion mewn nwyddau a thâl ar sail perfformiad yn ystod y flwyddyn oedd
Staff |
Symudiad % |
---|---|
Cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf | 3.65 |
Holl staff | 4.31 |
Adroddiad staff
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am gyfansoddiad a chostau ein gweithlu. Mae’r tablau isod yn cynnwys staff sy'n gyflogeion parhaol, penodiadau cyfnod penodol a phrentisiaid yn ogystal â staff asiantaeth, contractwyr a secondeion.
Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2023
Gwryw
Gweithwyr | Fesul pen | Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai | 1,391 | 1,364 |
O'r rhain Tîm Arwain | 13 | 13 |
O'r rhain Tîm Gweithredol | 2 | 2 |
Benyw
Gweithwyr | Nifer y gweithwyr | Cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai | 1,168 | 1,331 |
O'r rhain Tîm Arwain | 14 | 13.5 |
O'r rhain Tîm Gweithredol | 4 | 4 |
Cyfanswm
Gweithwyr | Nifer y gweithwyr | Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai | 2,559 | 2,461 |
O'r rhain Tîm Arwain | 27 | 26 |
O'r rhain Tîm Gweithredol | 6 | 6 |
Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2022
Gwryw
Gweithwyr | Fesul pen | Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai | 1,364 | 1,331 |
O'r rhain Tîm Arwain | 11 | 10 |
O'r rhain Tîm Gweithredol | 2 | 2 |
Benyw
Gweithwyr | Nifer y gweithwyr | Cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai | 1,102 | 1,028 |
O'r rhain Tîm Arwain | 11 | 12.5 |
O'r rhain Tîm Gweithredol | 4 | 4 |
Cyfanswm
Gweithwyr | Nifer y gweithwyr | Cyflog cyfwerth ag amser llawn |
---|---|---|
Pob cyflogai | 2,466 | 2,359 |
O'r rhain Tîm Arwain | 25 | 23 |
O'r rhain Tîm Gweithredol | 6 | 6 |
Roedd nifer cyfartalog yr unigolion cyfwerth ag amser llawn a dalwyd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:
Personau cyfwerth ag amser llawn yn cael eu talu | Staff parhaol (2022/23) | Eraill (2022/23) |
Cyfanswm (2022/23) |
Cyfanswm (2021/22) |
---|---|---|---|---|
Wedi'u cyflogi'n uniongyrchol | 2,180 | 52 | 2,232 | 2,144 |
Staff asiantaeth a chontract | 0 | 158 | 158 | 164 |
Cyfanswm | 2,180 | 210 | 2,390 | 2,308 |
Nifer cyfartalog y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd ar brosiectau cyfalaf oedd
246.1 (2021/22: 232.2).
Trosiant staff
Y trosiant staff yn ystod 2022/23 oedd 5.8% heb gynnwys gweithwyr dros dro e.e. penodiadau cyfnod penodol (2021/22 6.75%).
Costau staff
Costau staff a gwariant arall ar gyfer staff |
Staff parhaol - 2022/23 |
Staff (£'000) |
Cyfanswm - 2022/23 (£'000) |
Cyfanswm - 2021/22 (£'000) |
---|---|---|---|---|
Taliadau a chyflogau |
85,281 |
13,290 |
98,571 |
93,123 |
Costau nawdd cymdeithasol a threthi eraill |
9,622 |
558 |
10,180 |
8,971 |
Costau pensiwn eraill |
21,578 |
400 |
21,978 |
20,415 |
Cyfanswm costau cyflogau net |
116,481 |
14,248 |
130,729 |
122,509 |
Costau pecynnau ymadael |
N/A |
N/A |
81 |
159 |
Tâl gwasanaeth Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19 (pensiynau) |
N/A |
N/A |
14,855 |
16,353 |
Llai costau pensiwn ymddeoliadau cynnar |
N/A |
N/A |
78 |
Negyddol 15 |
Llai cyfraniadau pensiwn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ystod y flwyddyn |
N/A |
N/A |
Negyddol 6,894 |
Negyddol 6,894 |
Symudiad mewn cyflog gwyliau a gronnwyd |
N/A |
N/A |
138 |
Negyddol 140 |
Cyfanswm gwariant arall ar gyfer staff |
N/A |
N/A |
8,258 |
Negyddol 9,463 |
Llai symiau a delir i brosiectau cyfalaf |
N/A |
N/A |
Negyddol 14,136 |
Negyddol 12,757 |
Cyfanswm costau staff |
N/A |
N/A |
124,851 |
119,215 |
Mae mwy o fanylion am rwymedigaethau pensiwn CNC i'w gweld yn adran 15 o'r datganiadau ariannol a'r nodiadau ar y cyfrifon.
Ceir manylion cyflogau aelodau'r Bwrdd a chyfarwyddwyr yn yr adroddiad cyflogau. Mae'r gwasanaethau a brynwyd i mewn yn Nodyn 5 (gwariant arall) yn cynnwys £14.7 miliwn o wariant ar ymgynghorwyr (2021/22: £11.3 miliwn).
Cynlluniau pensiwn
Mae CNC yn aelod o ddau gynllun pensiwn. Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun agored ac yn cynnwys y cynllun buddion diffiniedig, Alpha, yn ogystal â chynllun cyfraniadau diffiniedig partneriaeth rhanddeiliaid. Mae CNC hefyd yn aelod caeedig o Gronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd o dan gytundeb derbyn cymunedol. Dangosir rhagor o fanylion am y cynlluniau pensiwn hyn isod.
Cyfraniadau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Cynlluniau buddion diffiniedig aml-gyflogwr na chânt eu hariannu yw PCSPS a'r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a elwir yn "Alpha". Ond nid yw'r cynlluniau yn nodi cyfran sefydliadau unigol o'r asedau a rhwymedigaethau sylfaenol. Gwnaeth actiwari'r cynllun brisio'r PCSPS fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2016. Gallwch weld y manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil yn https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/knowledge-centre/resources/resource-accounts/
Ar gyfer 2022/23, roedd £14,965,000 o gyfraniadau cyflogwr yn ddyledus i'r PCSPS (2021/22: £13,204,000) ar un o bedair cyfradd yn yr amrediad 26.6% i 30.3% o enillion pensiynadwy (26.6% i 30.3% ar gyfer 2020/21), yn seiliedig ar fandiau cyflog. Fel arfer, mae actiwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd yn dilyn prisiad o'r cynllun llawn. Mae cyfraddau’r cyfraniadau wedi'u gosod er mwyn talu costau'r buddion a gronnir yn ystod 2022/23, sydd i gael eu talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion a delir yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr cyfredol.
Pensiynau partneriaeth rhanddeiliaid
Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn rhanddeiliaid gyda chyfraniad cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwr gwerth £156 (2021/22: £152) i'r darparwr pensiwn rhanddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau'r cyflogwr yn seiliedig ar oedran ac yn amrywio rhwng 8% a 14.75%. Mae cyflogwyr hefyd yn talu cyfraniadau cyflogeion hyd at 3% o enillion pensiynadwy. Yn ogystal, roedd cyfraniadau cyflogwr gwerth £5,000 sef 0.5% o gyflog pensiynadwy (2021/22: £5,000), yn daladwy i'r PCSPS i dalu’r costau o ddarparu buddion cyfandaliad yn y dyfodol yn sgil marw yn y swydd neu ymddeoliad oherwydd salwch y cyflogeion hyn.
Nid oedd unrhyw gyfraniadau'n ddyledus i'r darparwyr pensiwn partneriaeth ar ddyddiad y fantolen, ac ni chafodd unrhyw gyfraniadau eu talu ymlaen llaw.
Cyfraniadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Mae CNC yn gwneud taliadau i'r EAPF (Cronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd), fel yr awdurdod gweinyddu ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS), drwy Capita, gweinyddwyr y gronfa bensiwn.
Cynllun pensiwn statudol i'r gwasanaethau cyhoeddus yw'r LGPS, sydd wedi'i ariannu ac sy'n gwneud cyfraniadau diffiniedig. Bob tair blynedd, mae'r EAPF yn prisio'r pensiwn ar y cyd ag actiwari'r cynllun. Ar 31 Mawrth 2022, asesodd y prisiad fod sefyllfa ariannol yr EAPF ar lefel ariannu o 103% (2019: 106%). Prif ddiben y prisiad actiwaraidd yw adolygu sefyllfa ariannol y gronfa a phennu faint bydd cyflogwyr yn cyfrannu at y gronfa yn y dyfodol.
Mae gan CNC gytundeb derbyn cymunedol gyda'r EAPF i gymryd rhan yn yr LGPS, a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol mewn perthynas â staff yr hen Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a drosglwyddodd i CNC ar 1 Ebrill 2013. Cafodd y rhwymedigaethau ar gyfer cyn-aelodau a gyflogwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o ran swyddogaethau Cymru (pensiynau mewn taliad ac aelodau gohiriedig) eu trosglwyddo hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwarant gan yr EAPF i'w hindemnio am unrhyw rwymedigaethau sy’n deillio o gyfranogiad CNC yn yr EAPF.
Cyfradd y cyfraniad cyflogwr yn ystod 2022/23 oedd 23.76% (2021/22: 24.67% o fis Ebrill 2021 a 23.76% o fis Mehefin 2021). Yn 2022/23 talwyd cyfraniadau cyflogwr o £6,894,000 i’r LGPS (2021/22: £6,894,000) sy'n lleihau'r balans ar gronfa bensiwn IAS 19.
Pecynnau ymadael
Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost: |
2022/23 |
2021/22 |
---|---|---|
Llai na £10,000 |
4 |
2 |
£10,001 – £25,000 |
2 |
1 |
£25,001 – £50,000 |
1 |
0 |
£50,001 – £100,000 |
0 |
2 |
£100,001 – £150,000 |
0 |
0 |
Cyfanswm |
7 |
5 |
Cost adnoddau |
£88,000 |
£159,000 |
Nid oedd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn 2022/23 nac yn 2021/22.
Mae costau ymadael gwirfoddol wedi'u talu yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sef cynllun statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Mae'r tabl uchod yn dangos cyfanswm cost y pecynnau ymadael y cytunwyd arnynt ac y cafodd eu cyfrif yn 2022/23.
Mae’r costau pecyn ymadael yn y nodyn ynghylch costau staff uchod yn cynnwys croniad blwyddyn flaenorol o £7k ar gyfer gweithiwr y disgwyliwyd y byddai’n ymadael yn ystod y flwyddyn, ond nad yw wedi gwneud hynny.
Mewn gwirionedd, talwyd costau ymadael o £99k yn 2022/23, sef y flwyddyn ymadael. Pan fo CNC wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, caiff y costau ychwanegol eu talu gan CNC ac nid gan Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Caiff costau ymddeol salwch eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi cael eu cynnwys yn y tabl.
Absenoldeb oherwydd salwch (nad yw'n cael ei archwilio)
Dangosodd cyfradd ein habsenoldebau oherwydd salwch ar gyfer y flwyddyn dreigl (1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023) y collodd pob cyflogai 6.09 o ddiwrnodau ar gyfartaledd, sy'n cyfateb i 2.7%.
Polisïau anabledd (nad ydynt yn cael eu harchwilio)
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Yn ystod 2022/23, gwnaethom barhau i gydymffurfio â'n cynllun gwarantu cyfweliad ‘Tic Dwbl’, lle mae ymgeiswyr sy'n datgan bod ganddynt anabledd, yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010, ac sy’n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl y gwneir cais amdani, yn derbyn cyfweliad yn awtomatig.
Yn allanol, cawsom geisiadau gan 4,144 o bobl, yr oedd 83 (2%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig. Yn fewnol, cawsom geisiadau gan 1,155 o bobl, yr oedd tri (0.25%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig.
Rhwydweithiau staff i weithwyr (nad ydynt yn cael eu harchwilio)
Mae rhwydweithiau staff i weithwyr yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cydweithwyr a'r sefydliad. Mae rhwydweithiau staff i weithwyr yn cael eu rhedeg gan staff ar gyfer staff ac yn dod â phobl sy'n uniaethu ag eraill o gefndir neu nodwedd warchodedig debyg ynghyd o bob rhan o'r gweithle. Gall rhwydweithiau staff i weithwyr hefyd gyflawni swyddogaethau amrywiol, gan gynnwys darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio yn gymdeithasol, cefnogaeth gan gymheiriaid a datblygiad personol.
Mae gan bob rhwydwaith staff i weithwyr arweinydd rhwydwaith, neu caiff y rôl ei chyflawni ar y cyd â chydweithiwr arall. Mae'r rolau hyn yn cael eu cyflawni'n wirfoddol ac yn cynnig cyswllt i staff pan fo angen cefnogaeth neu gyfeirio.
Fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi ein rhwydweithiau staff i weithwyr sydd wedi eu trefnu gan y staff eu hunain gan eu bod yn creu amgylchedd sy’n parchu amrywiaeth y staff, ac yn galluogi staff i ymgysylltu a mwynhau yn y gweithle.
Rydym yn cefnogi’r rhwydweithiau staff i weithwyr drwy wneud y canlynol:
- Hyrwyddo'r rhwydweithiau staff i weithwyr i gyflogeion newydd a phresennol drwy'r broses sefydlu a thrwy'r fewnrwyd
- Annog rheolwyr i ryddhau arweinwyr rhwydwaith er mwyn iddynt allu trefnu a hwyluso cyfarfodydd a digwyddiadau
- Annog rheolwyr i ryddhau gweithwyr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhwydwaith staff i weithwyr
- Cefnogi arweinwyr rhwydwaith i ddod yn swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau a mentrau a ddatblygir gan y rhwydwaith staff i weithwyr
- Gwrando'n adeiladol ar unrhyw bryderon sydd gan weithwyr drwy'r Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Wedi ymrwymo i Niwroamrywiaeth mewn Busnes ym mis Mawrth 2023
- Aelodaeth newydd o Gyflogwyr i Ofalwyr fis Ionawr 2023
- Adnewyddu ein haelodaeth Stonewall ym mis Ebrill 2023
Mae gennym saith rhwydwaith staff i weithwyr ar hyn o bryd, fel a ganlyn: -
- Grwpiau Defnyddwyr a Gynorthwyir (TGCh a Theleffoni)
- Rhwydwaith Calon LHDTC+
- Y Gymdeithas Gristnogol
- Cwtsh (Rhwydwaith Gofalwyr)
- Cyfeillion Dementia
- Rhwydwaith Mwslimiaid
- Rhwydwaith Niwroamrywiaeth
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r rhwydweithiau staff i weithwyr wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i wneud ein sefydliad yn fwy cynhwysol drwy rannu profiadau, gwybodaeth a gwybodaeth i’w hystyried wrth ddatblygu ein polisïau, ein gweithdrefnau a’n harferion yn y gweithle, gan gynnwys datblygu'r Cynllun Pasbort Gwaith a Llesiant i staff a lansiwyd ym mis Medi 2022, ac sy’n cyfrannu at y Polisi Dulliau Gweithio.
Mae calendr Ymwybyddiaeth o Amrywiaeth a Chynhwysiant hefyd wedi'i ddatblygu sy'n cefnogi ymagwedd fwy cydlynol at sut mae ein rhwydweithiau staff i weithwyr yn cydweithio yn y gweithle.
Swyddi oddi ar y gyflogres (nad ydynt yn cael eu harchwilio)
Mae’n ofynnol i CNC gyhoeddi gwybodaeth am benodi ymgynghorwyr neu aelodau staff sy'n para'n hwy na chwe mis a lle mae unigolion yn ennill mwy na £245 y dydd, lle rydym yn talu drwy anfonebu ac nid y gyflogres. Cynlluniwyd y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres i sicrhau, os yw rhywun yn gweithio drwy gyfryngwr ac y byddai wedi cael ei ystyried fel cyflogai at ddibenion treth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol pe bai’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan CNC, ei fod yn talu’r un cyfraniadau treth incwm ac yswiriant gwladol â phe baent yn gyflogedig. Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i bobl sydd wir yn hunangyflogedig.
Cyfrifoldeb CNC yn hytrach na'r cyfryngwr yw cynnal yr asesiad at ddibenion treth. Os penderfyniad yr asesiad yw bod y rôl o fewn cwmpas IR35, bydd y cyfryngwr yn talu yr un dreth cyflogai ag y byddai cyflogai ar y gyflogres.
Mae'r tablau canlynol yn dangos ein sefyllfa mewn perthynas â'r gofynion hyn.
Swyddi oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2023, am fwy na £245 y dydd ac sy'n para'n hwy na chwe mis.
Nifer y swyddi presennol ar 31 Mawrth 2023 sydd wedi bodoli am |
Nifer y contractwyr |
---|---|
llai na blwyddyn |
11 |
rhwng un a dwy flynedd |
18 |
rhwng dwy a thair blynedd |
18 |
rhwng tair a phedair blynedd |
23 |
pedair blynedd neu'n hwy |
30 |
Cyfanswm |
99 |
Mae mwyafrif y contractwyr yn cefnogi'r tîm Trawsnewid wrth ddatblygu a thrawsnewid ein systemau TGCh.
Swyddi newydd oddi ar y gyflogres, neu'r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, am fwy na £245 y dydd ac sy’n para'n hwy na chwe mis.
Swyddi newydd |
Nifer y contractwyr |
---|---|
Nifer y swyddi newydd, neu'r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. |
21 |
O'r rhain y nifer a aseswyd fel rhai sy’n dod o dan drefniadau IR35 |
0 |
O'r rhain y nifer a aseswyd fel rhai nad ydynt yn dod o dan drefniadau IR35 |
21 |
O'r rhain y nifer a gyflogwyd yn uniongyrchol ac sydd ar gyflogres CNC |
0 |
O'r rhain nifer y swyddi a gafodd eu hailasesu at ddibenion cysondeb / sicrwydd yn ystod y flwyddyn |
9 |
O'r rhain nifer y swyddi a welodd newid i'w statws IR35 ar ôl yr adolygiad cysondeb |
0 |
Adroddiad Seneddol ac Archwilio (wedi'i archwilio)
Colledion a thaliadau arbennig
Mae rheolau Rheoli Arian Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni ddatgelu colledion a thaliadau arbennig yn ôl categori, math a gwerth pan fydd eu cyfanswm yn fwy na £300,000 ac ar gyfer unrhyw eitemau unigol sy'n werth £300,000 neu ragor.
Colledion unigol o £300,000 neu fwy
Nid oedd unrhyw golledion na thaliadau arbennig o £300,000 neu fwy yn ystod 2022/23.
Yn ystod y flwyddyn flaenorol, cofnodwyd dilead gwerth £1,336,000. Gostyngwyd gwerth ased anniriaethol a oedd yn cael ei adeiladu mewn perthynas â system feddalwedd ar gyfer y labordai o'r swm hwn oherwydd nad oedd y cyflenwr meddalwedd yn gallu cyflawni'r gwaith o dan y contract mwyach. Mae adolygiad annibynnol wedi cael ei gynnal fel y gellir dysgu gwersi ar gyfer prosiectau o'r math hwn yn y dyfodol.
Yn ystod y flwyddyn flaenorol, gwnaeth CNC daliad arbennig hefyd yn ymwneud ag ad-dalu ffioedd o £687,000 i Horizon Nuclear Power ar ôl i weithgareddau datblygu ar safle Wylfa Newydd ddod i ben.
Colledion a thaliadau arbennig yn ôl categori
Mae'r tabl isod yn nodi nifer y ceisiadau am ddileu taliadau a gwneud taliadau arbennig a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn.
Categori neu fath o golled |
2022/23 Nifer |
2022/23 £’000 |
2021/22 Nifer |
2021/22 £’000 |
---|---|---|---|---|
Dileu dyledion na ellir eu hadennill |
161 |
222 |
45 |
114 |
Asedau a gollwyd |
10 |
44 |
11 |
1,441 |
Colledion eraill (colledion ariannol, taliadau ofer, hawliadau na ellir eu gorfodi, neu anrhegion) |
5 |
49 |
20 |
9 |
Taliadau arbennig |
8 |
63 |
4 |
1,145 |
Cyfanswm |
184 |
378 |
80 |
2,709 |
- Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 18 Hydref 2023
Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd
Barn ar ddatganiadau ariannol
Rwy'n ardystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 o dan baragraff 23 o'r Atodlen i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.
Mae'r datganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad Sefyllfa Ariannol, Datganiad o Lifau Arian, Datganiad o Newidiadau mewn Ecwiti Trethdalwyr a nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifo sylweddol. Mae'r fframwaith adrodd ariannol sydd wedi'i gymhwyso wrth baratoi yn gyfraith berthnasol ac mae'r DU wedi mabwysiadu safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y'u dehonglir a'u haddasu gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EM.
Yn fy marn i, ym mhob agwedd faterol, y datganiadau ariannol:
- rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion Cyfoeth Naturiol Cymru ar 31 Mawrth 2023 ac o'i gwariant net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
- wedi cael eu paratoi'n briodol yn unol â safonau cyfrifeg rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y'u dehonglir a'u haddasu gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EM.
- wedi eu paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
Barn ar reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ystyr berthnasol, mae'r incwm a'r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.
Sail ar gyfer barn
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a'r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (DU)) a Nodyn Ymarfer 10 'Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig'. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r archwilydd dros archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.
Mae fy staff a minnau'n annibynnol ar y corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol ac yn briodol i roi sail i'm barn.
Casgliadau'n ymwneud â busnes gweithredol
Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i'r casgliad bod y defnydd o'r sail gyfredol o gyfrifo wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol.
Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i gyflawni, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu gyda'i gilydd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r corff i barhau i fabwysiadu sail cyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o'r adeg y mae'r datganiadau ariannol wedi'u hawdurdodi i'w cyhoeddi.
Mae fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol yn cael eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o'r dystysgrif hon.
Mabwysiadir sail gynyddol cyfrifyddu Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol Llywodraeth Trysorlys EM, sy'n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu sail gynyddol cyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol lle rhagwelodd y bydd y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn parhau i'r dyfodol.
Gwybodaeth arall
Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol ac eithrio'r datganiadau ariannol a rhannau eraill o'r adroddiad sy'n cael eu harchwilio ac adroddiad fy archwilydd ar hynny. Y Swyddog Cyfrifeg sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir fel arall yn benodol yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â'r datganiadau ariannol neu'r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu fel arall mae'n ymddangos ei bod wedi'i chamddatgan yn sylweddol. Os byddaf yn nodi anghysondebau materol o'r fath neu gamddatganiadau materol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddaf i, yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i gyflawni, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad materol o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i mi adrodd am y ffaith honno.
Nid oes gennyf unrhyw beth i'w adrodd yn hyn o beth.
Barn ar faterion eraill
Yn fy marn i, mae'r rhan o'r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i'w harchwilio wedi'i pharatoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:
- mae'r rhannau o'r Adroddiad Atebolrwydd sy'n destun archwiliad wedi'u paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012; a
- mae'r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad Rhagair, Perfformiad ac Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiadau ariannol yn cael eu paratoi ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol ac yn unol â'r gofynion cyfreithiol cymwys
Materion yr wyf yn adrodd amdanynt drwy eithriad
Yng ngoleuni gwybodaeth a dealltwriaeth y corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad Rhagair, Perfformiad ac Atebolrwydd.
Nid oes gennyf unrhyw beth i'w adrodd mewn perthynas â'r materion canlynol yr wyf yn eu hadrodd i chi os, yn fy marn i:
- Nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
- Nid yw cofnodion cyfrifyddu priodol wedi'u cadw neu ni dderbyniwyd ffurflenni sy'n ddigonol ar gyfer fy archwiliad gan ganghennau nad ymwelwyd â hwy gan fy nhîm;
- nid yw'r datganiadau ariannol a'r rhan a archwiliwyd o'r Adroddiad Atebolrwydd yn cytuno â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifeg;
- ni ddatgelir gwybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru ynghylch tâl a thrafodion eraill;
- rhai datgeliadau o gydnabyddiaeth ariannol a bennir gan Llawlyfr Adrodd Ariannol Llywodraeth Trysorlys EM yn cael eu gwneud neu nid yw rhannau o'r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a'r Adroddiad Staff sydd i'w harchwilio yn cytuno â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu; neu
- nid yw'r Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EM.
Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifeg, mae'r Swyddog Cyfrifeg yn gyfrifol am:
- cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
- paratoi'r datganiadau ariannol a'r Adroddiad Blynyddol yn unol â'r fframwaith adrodd ariannol cymwys ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi barn wir a theg;
- sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a'r datganiadau ariannol yn ei gyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
- sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
- mae rheolaethau mewnol fel y mae'r Swyddog Cyfrifo'n ei benderfynu yn angenrheidiol er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol i fod yn rhydd rhag camddatganiadau perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad; ac
- asesu gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, faterion sy'n ymwneud â phryder parhaus a defnyddio sail barhaus cyfrifyddu oni bai bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau'r Archwilydd dros archwilio'r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.
Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy'n cynnwys fy marn i. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu gamgymeriad ac fe'u hystyrir yn ddeunydd os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy'n dylunio gweithdrefnau yn unol â'm cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau yn cynnwys y canlynol:
- Holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol yr endid a archwiliwyd a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy'n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ymwneud â:
- nodi, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
- canfod ac ymateb i risgiau twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth neu honedig; ac
- y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
- Ystyried fel tîm archwilio sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o'r drafodaeth hon, nodais botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabyddiaeth refeniw, cydnabyddiaeth gwariant, postio cyfnodolion anarferol;
- Cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol eraill y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru;
- Cael dealltwriaeth o berthnasoedd parti cysylltiedig.
Yn ogystal â'r uchod, roedd fy gweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
- adolygu'r datganiadau ariannol a phrofion i ddogfennau ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodwyd uchod;
- holi rheolaeth, y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a chynghorwyr cyfreithiol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a posibl;
- darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu a'r Bwrdd;
- wrth fynd i'r afael â'r risg o dwyll trwy wrthdroi rheolaeth rheolaethau, profi priodoldeb cofnodion cyfnodolion ac addasiadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wnaed wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion sylweddol sy'n anarferol neu y tu allan i gwrs busnes arferol.
Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau a nodwyd yn berthnasol a risgiau posibl i dwyll i bob aelod o'r tîm archwilio a pharhau i fod yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.
Mae'r graddau y mae fy ngweithdrefnau'n gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn cael ei effeithio gan yr anhawster cynhenid wrth ganfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Cyfoeth Naturiol Cymru, a natur, amseriad a maint y gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.
Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd dros archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o’m hadroddiad fel archwilydd.
Cyfrifoldebau eraill archwilydd
Rwy'n cael tystiolaeth ddigonol i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.
Rwy'n cyfathrebu â'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu ynghylch cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio sylweddol ymhlith materion eraill, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol a nodaf yn ystod fy archwiliad.
Adroddiad
Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
23 Hydref 2023
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio’r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.